Sachalin
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Sakhalin)
| Math | ynys, gweithrediaeth |
|---|---|
| Prifddinas | Yuzhno-Sakhalinsk |
| Poblogaeth | 673,100 |
| Cylchfa amser | UTC+11:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Oblast Sakhalin |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 72,492 km² |
| Uwch y môr | 1,609 metr |
| Gerllaw | Môr Japan, North Pacific Ocean |
| Cyfesurynnau | 50.5°N 143°E |
| Hyd | 950 cilometr |
![]() | |
Ynys ger arfordir dwyreiniol Rwsia yw Sachalin, hefyd Sakhalin (Rwseg: Сахали́н). Saif rhwng Môr Ochotsk a Môr Japan. Hi yw'r fwyaf o ynysoedd Rwsia. Gydag Ynysoedd Kuril mae'n ffurfio Oblast Sakhalin, un o ranbarthau Rwsia.
Mae arwynebedd yr ynys yn 76,400 km², a'r boblogaeth tua 673,000. Y ddinas fwyaf a phrifddinas yr oblast yw Yuzhno-Sakhalinsk, yn ne yr ynys. Gwahenir yr ynys oddi wrth dir mawr Rwsia gan Gulfor Tatar, sy'n 7.3 km yn ei fan gulaf, ac yn rhewi yn y gaeaf, tra mae Culfor La Pérouse yn ei gwahanu oddi wrth Hokkaido, yr agosaf o ynysoedd Japan.
Arferai'r ynys fod yn eiddo Tsieina, er i Japan geisio ei meddiannu hefyd. Meddiannodd Rwsia yr ynys o'r 18g ymlaen, ond parhaodd rhan o dde yr ynys ym meddiant Japan hyd 1875.
