Luzon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Luzon
Northern Philippines (Luzon).jpg
Mathynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLuzón Edit this on Wikidata
Poblogaeth53,336,134 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Philipinau, Luzon Edit this on Wikidata
GwladY Philipinau Edit this on Wikidata
Arwynebedd109,965 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,922 metr Edit this on Wikidata
GerllawY Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau16°N 121°E Edit this on Wikidata
Delwedd loeren o ynys Luzon
Lleoliad ynys Luzon yn y Philipinau

Ynys fwyaf y Philipinau yw Luzon a'r pwysicaf o ynysoedd y wlad yn nhermau gwleidyddiaeth ac economeg. Yn ogystal, mae'n enw ar un o dri grŵp o ynysoedd yn y Philipinau, gyda Visayas a Mindanao. Mae ynysoedd Luzon yn cynnwys ynys Luzon ei hun, ynghyd â grwpiau'r Batanes a Babuyan i'r gogledd, ac ynysoedd Catanduanes, Marinduque, Masbate, Romblon, a Mindoro i'r de. Yn y gorffennol roedd Luzon yn rhanedig yn dywysogaethau Mwslemaidd a theyrnasoedd bychan paganaidd, a arferent fasnachu gyda Maleisia, India, Siapan a Tsieina cyn i reolaeth Sbaen ar y Philipinau gael ei sefydlu. Luçonia neu Luçon oedd yr enw a ddefnyddwyd gan y fforwyr Ewropeaidd cynnar a Luçoes oedd eu henw am y trigolion. Dan reolaeth Sbaen, daeth Luzon i gael ei galw yn Nueva Castilla (Castille Newydd). Lleolir Manila, prifddinas y Philipinau, ar ynys Luzon.

Gyda arwynebedd o 104,688 km sgwâr, Luzon yw'r ynys 17fed fwyaf yn y byd a'r pedwerydd fwyaf o ran poblogaeth gyda 46,228,000 yn byw yno. Yn ogystal â Manila, mae'r dinasoedd yn cynnwys Dinas Quezon, y ddinas fwyaf ar yr ynys. Mae'n ynys fynyddig lle ceir Mynydd Pulag, Mynydd Pinatubo, Mayon, a Llosgfynydd Taal, yr enwocaf o losgfynyddoedd Luzon. I'r gorllewin o ynys Luzon ceir Môr De Tsieina (Môr Luzon yw'r enw am y rhan ohono sydd yn nyfroedd y Philipinau), i'r dwyrain ceir Môr y Philipinau, ac i'r gogledd ceir Culfor Luzon.

Siaredir sawl iaith yn Luzon, yn cynnwys Tagalog, Ilocano, Kapampangan, Bicol, a Pangasinense. Yn ogystal, mae nifer o bobl yn medru'r Saesneg; mae Sbaeneg yn llai cyffredin erbyn heddiw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of the Philippines.svg Eginyn erthygl sydd uchod am y Philipinau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.