Cyhydedd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Cyhydedd)
Cyhydedd
Enghraifft o'r canlynolgreat circle, circle of latitude Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethSão Tomé a Príncipe, Gabon, Gweriniaeth y Congo, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Wganda, Cenia, Somalia, Indonesia, Ecwador, Colombia, Brasil Edit this on Wikidata
Hyd40,075 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn daearyddiaeth, mae cyhydedd yn llinell ddychmygol, sydd yn mynd o gwmpas y ddaear mewn plaen sy'n berpendiciwlar i echel ei chylchdro. Mae i bob planed sy'n cylchdroi ei gyhydedd ei hun, ond fel arfer, mae "Cyhydedd" yn cyfeirio at linell ar y Ddaear. Gosodir y Cyhydedd yn union rhwng dau begwn y blaned; golyga hyn ei bod yr un pellter o Begwn y Gogledd ag ydyw o Begwn y De. Mae'r Cyhydedd yn rhannu'r ddaear yn ddau; Hemisffer y Gogledd ac Hemisffer y De.

Y gweledydd hynny sydd ar y Cyhydedd (coch) neu gyfeirnod meridian IERS (glas)

Geodedd Cyhydedd y Ddaear[golygu | golygu cod]

Diffinnir Cyhydedd y Ddaear o ran ei ledred gan 0° (sero gradd). Mae'n un o bump prif cylch lledred a nodir mewn daearyddiaeth; ceir hefyd y cylchoedd pegynol hyn: (y Cylch Arctig a'r Cylch Antartig) a'r ddau gylch trofannol (Trofan Cancr a Throfan Capricorn).

Delwedd:Equator monument.jpg
Chwith: Cofeb yn nodi'r Cyhydedd ger tref Pontianak, Indonesia
Y dde: Arwydd ffordd yn nodi'r Cyhydedd ger tref Nanyuki, Cenia

Yn ei symudiad ymddangosiadol yn yr awyr, mae'r haul yn pasio uwchben y Cyhydedd ddwywaith y flwyddyn, yn ystod y cyhydnosau. Am eilad, yn ystod y cyhydnos, mae pelydrau'r haul yn union berpendiciwlar i wyneb y ddaear ar y rhan arbennig honno o'r Cyhydedd.

Mae'r mannau hynny sydd ar y Cyhydedd yn cael y gwawrio a'r machlud haul cyflymaf, gan fod yr haul yn codi ac yn machlud bron yn fertig drwy gydol y flwyddyn. Mae hyd diwrnod (o godiad haul hyd at ei fachlud) ar y Cyhydedd bron yn hafal drwy gydol y flwyddyn ac mae ei hyd oddeutu 14 munud yn hirach na'r nos oherwydd plygiant golau gan yr atmosffer a gan y diffinnir yr union eiliad o wawrio a machlud gan yr eiliad honno pan fo 'ymyl' yr haul (yn hytrach na'i ganol) i'w weld uwchben y gorwel. Mae'r Ddaear yn bolio rhyw ychydig ar y Cyhydedd. Ei ddiametr yw 12,750 kilometre (7,922 mi), on ar y Cyhydedd mae'r diametr oddeutu 43 kilometre (27 mi) greater than at the poles.[1]

Lleolir nifer o ganolfanau gofod ger y Cyhydedd e.e. Canolfan Ofod Guiana yn Kourou, Guiana Ffrengig, gan fod y lleoliadau hyn yn symud yn gynt nag unrhyw ledred arall oherwydd cylchdro'r Ddaear. Golyga hyn fod y rocedi'n defnyddio llai o danwydd, pan gânt eu lansio. Er mwyn gwneud yn fawr o hyn, mae'n rhaid i'r rocedi gael eu lansio i gyfeiriad y dwyrain, y de-ddwyrain neu'r gogledd-ddwyrain.

Gwledydd y mae'r Cyhydedd yn mynd drwyddynt[golygu | golygu cod]

Cyfesurynnau Gwlad, rhanbarth neu fôr Arall
0°N 0°E / 0°N 0°E / 0; 0 (Prif Feridian) Cefnfor yr Iwerydd Cefnfor Guinea
0°0′N 6°31′E / 0.000°N 6.517°E / 0.000; 6.517 (São Tomé a Príncipe) São Tomé a Príncipe Ilhéu das Rolas
0°0′N 6°31′E / 0.000°N 6.517°E / 0.000; 6.517 (Cefnfor yr Iwerydd) Cefnfor yr Iwerydd Cefnfor Guinea
0°0′N 9°21′E / 0.000°N 9.350°E / 0.000; 9.350 (Gabon) Gabon
0°0′N 13°56′E / 0.000°N 13.933°E / 0.000; 13.933 (Gweriniaeth y Congo) Gweriniaeth y Congo Mae'n mynd drwy Makoua.
0°0′N 17°46′E / 0.000°N 17.767°E / 0.000; 17.767 (Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo) Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo Passing 9 km south of central Butembo
0°0′N 29°43′E / 0.000°N 29.717°E / 0.000; 29.717 (Wganda) Wganda Mae'n mynd 32 km i'r de o ganol Kampala
0°0′N 32°22′E / 0.000°N 32.367°E / 0.000; 32.367 (Llyn Victoria) Llyn Victoria Mae'n mynd drwy rai o ynysoedd Wganda
0°0′N 34°0′E / 0.000°N 34.000°E / 0.000; 34.000 (Cenia) Cenia Mae'n mynd assing 6 km i'r gogledd o ganol Kisumu
0°0′N 41°0′E / 0.000°N 41.000°E / 0.000; 41.000 (Somalia) Somalia
0°0′N 42°53′E / 0.000°N 42.883°E / 0.000; 42.883 (Cefnfor India) Cefnfor India Mae'n mynd drwy Huvadhu Atoll a Fuvahmulah
0°0′N 98°12′E / 0.000°N 98.200°E / 0.000; 98.200 (Indonesia) Indonesia Ynysoedd Batu, Sumatra ac Ynysoedd Lingga
0°0′N 104°34′E / 0.000°N 104.567°E / 0.000; 104.567 (Culfor Karimata) Culfor Karimata
0°0′N 109°9′E / 0.000°N 109.150°E / 0.000; 109.150 (Indonesia) Indonesia Borneo
0°0′N 117°30′E / 0.000°N 117.500°E / 0.000; 117.500 (Culfor Makassar) Culfor Makassar
0°0′N 119°40′E / 0.000°N 119.667°E / 0.000; 119.667 (Indonesia) Indonesia Sulawesi
0°0′N 120°5′E / 0.000°N 120.083°E / 0.000; 120.083 (Culfor Tomini) Culfor Tomini
0°0′N 124°0′E / 0.000°N 124.000°E / 0.000; 124.000 (Môr Molucca) Môr Molucca
0°0′N 127°24′E / 0.000°N 127.400°E / 0.000; 127.400 (Indonesia) Indonesia ynysoedd Kayoa a Halmahera
0°0′N 127°53′E / 0.000°N 127.883°E / 0.000; 127.883 (Môr Halmahera) Môr Halmahera
0°0′N 129°20′E / 0.000°N 129.333°E / 0.000; 129.333 (Indonesia) Indonesia Gebe Island
0°0′N 129°21′E / 0.000°N 129.350°E / 0.000; 129.350 (Y Cefnfor Tawel) Y Cefnfor Tawel Mae'n mynd 570 m i'r gogledd o Ynys Waigeo
0°0′N 91°35′W / 0.000°N 91.583°W / 0.000; -91.583 (Ecwador) Ecwador Isabela Island in the Ynysoedd y Galapagos
0°0′N 91°13′W / 0.000°N 91.217°W / 0.000; -91.217 (Y Cefnfor Tawel) Y Cefnfor Tawel
0°0′N 80°6′W / 0.000°N 80.100°W / 0.000; -80.100 (Ecwador) Ecwador Mae'n mynd 24 km i'r gogledd o ganol Quito, ger Mitad del Mundo
0°0′N 75°32′W / 0.000°N 75.533°W / 0.000; -75.533 (Colombia) Colombia Mae'n mynd 4.3 km i'r gogledd o'r ffin gyda Periw
0°0′N 70°3′W / 0.000°N 70.050°W / 0.000; -70.050 (Brasil) Brasil Amazonas
Roraima
Pará
Amapá
Ynysoedd Pará – ar aber Afon Amazonas
0°0′N 49°20′W / 0.000°N 49.333°W / 0.000; -49.333 (Atlantic Ocean) Atlantic Ocean
Rhestr

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  1. "Equator". National Geographic - Education. Cyrchwyd 29 May 2013. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)