Môr Okhotsk
Gwedd
| Math | môr ymylon |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Okhotsk |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel |
| Gwlad | Rwsia, Japan |
| Arwynebedd | 1,583,000 ±1 km² |
| Cyfesurynnau | 55°N 150°E |
![]() | |

Môr sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel yw Môr Okhotsk neu Môr Ochotsk (Rwseg:Охо́тское мо́ре; Okhotskoye More). Saif yn rhan orllewinol u Cefnfor Tawel, rhwng Gorynys Kamchatka yn y dwyrain, Ynysoedd Kuril yn y de-ddwyrain, ynys Hokkaidō yn y de, ynys Sakhalin yn y gorllewin a Siberia yn y gogledd.
Caiff y môr ei enw o ddinas Okhotsk, y sefydliad Rwsaidd cyntaf yn Nwyrain Pell Rwsia. Mae ganddo arwynebedd o 1,583,000 km2, ac mae'n cyrraedd dyfnder o 3,372 medr yn ei fan dyfnaf. Ceir llawer i rew yma yn y gaeaf, oherwydd y dŵr croyw sy'n llifo i mewn iddo o afon Amur.
Ar dir mawr Rwsia mae ardal Oblast Magadan yn gorwedd ar ran ogledd-orllewinol y Môr ac mae pysgota yn ddiwydiant rhanbarthol mawr.
