Neidio i'r cynnwys

Baner Ynysoedd Americanaidd y Wyryf

Oddi ar Wicipedia
Baner Ynysoedd Americanaidd y Wyryf

Mabwysiadwyd baner Ynysoedd Wyryf yr Unol Daleithiau ar 17 Mai 1921 ar gyfer Ynysoedd Americanaidd y Wyryf. Mae'n cynnwys fersiwn symlach o arfbais yr Unol Daleithiau rhwng y llythrennau V a I (llythrennau cyntaf "Virgin Islands"). Mae'r eryr aur yn dal sbrigyn o lawryf mewn un crafanc, a thair saeth yn y llall. Mae'r lliw glas yn y tarian ar fron yr eryr yr un lliw â tharian yr Unol Daleithiau.[1]

Ynysoedd Denmarc

[golygu | golygu cod]
Baner Drefedigaethol Denmarc a ddefnyddiwyd yn 'India'r Gorllewin Denmarc' hyd at 1917

Rhwng 1754 a 1916, ffurfiai'r ynysoedd ran o India'r Gorllewin Denmarc, rhan o ymerodraeth Denmarc. Yn swyddogol, nid oedd unrhyw faner ynghlwm wrthynt heblaw am faner Denmarc.

Fodd bynnag, mae sôn am faner syml wedi'i modelu ar y Blue Ensign Brydeinig gyda baner Denmarc yn y canton.[2] Mae'n bresennol ar baentiadau a darluniau, lle gwelir yn chwifio nid o'r brif bolyn lle mae faner genedlaethol Denmarc y chwifio ond yn hytrach ar flaen y llong. Roedd baner ar y polyn blaen yma yn dangos tarddiad y perchennog neu gyrchfan y llong. Byddai llongau oedd yn ei chwifio yn dangos unai ei bod yn hwylio yn nyfroedd Denmarc a Norwy, neu eu bod ynghlwm wrth borthladdoedd Ewrop. Daethpwyd i'r casgliad, er bod ansafonol, bod hon yn faner cwrteisi wedi'i briodoli i India'r Gorllewin Denmarc.

Gwerthodd Denmarc yr ynys i UDA yn 1916 am $25 miliwn, gwerth $575.61 miliwn mewn arian 2018. Trosglwyddwyd yr ynysoedd yn 1917 wedi refferendwm ar y cytundeb yn Nenmarc.

Ynysoedd Unol Daleithiau America

[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y syniad o faner Ynysoedd Virgin UDA o dan weinyddiaeth Rear Admiral Summer Ely, Whitmore Kitelle, a wnaethpwyd yn llywodraethwr yr ynysoedd ar 26 Ebrill 1921. Aeth at Mr. White, capten llong y Grib ac at Percival Wilson Sparks, a gofynnodd iddynt am awgrymiadau ar gyfer dyluniad baner. Tynnodd Sparks, a oedd yn gartwnydd, ddyluniad ar bapur. Wedi hynny, trosglwyddwyd dyluniad Sparks ar ddeunydd cotwm trwm, a gofynnodd i'w wraig, Grace, a'i chwaer, Blanche Joseph, frodio'r dyluniad.

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "The U.S. Virgin Islands Flag". gov.vi. The Government of the U.S. Virgin Islands. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 1998.
  2. Louis Mühlemann, Geschichte und Politik im Spiegel der Staatschefsstandarten, 1968