Baner Trinidad a Thobago
Mabwysiadwyd baner Trinidad a Thobago ddiwrnod ei hannibyniaeth o'r Deyrnas Unedig ar 31 Awst 1962. Cynlluniwyd y faner gan Carlisle Chang (1921-2001), [1][2] a dewiswyd y faner gan y pwyllgor annibyniaeth yn 1962. Mae'r coch, du a gwyn yn symboli tân (yr haul, yn cynrychioli dewrder), y ddaear (yn cynrychioli ymroddiad) a dŵr (sy'n cynrychioli purdeb a chydraddoldeb).[3]
Dyluniad
[golygu | golygu cod]Mae baner Trinidad a Thobago yn faes coch gyda band croeslin du. Ceir ffin gwyn ar naill ochr i'r croeslin ddu. Y disgyrfiad herodraethol yw blazon, Gules, bend Sable fimbriated Ariann.
Lled y streipiau gwyn yw 1⁄30 o hyd y faner a lled y streipen ddu yw 2⁄15. Mae cyfanswm lled y tair stribed gyda'i gilydd felly 1⁄5 o'r hyd.[4]
Baneri eraill
[golygu | golygu cod]Y faner morol (Civil Engisn) yw'r faner genedlaethol ond i'r cymuseredd 1: 2. Baner y llynges (a ddefnyddir hefyd gan longiau Gwylwyr y Glannau) yw dyluniad ar sail y faner White Ensign Brydeinig gyda'r faner genedlaethol yn y canton.
-
Baner y Llynges: 1:2
-
Ystondord yr Arlywydd -
Ystondord y Prif Weinidog -
Baner Trinidad a Thobago bersonol y Frenhines Elisabeth II (1966–1976)
Baner Cyfnod Trefedigaethol o dan Prydain
[golygu | golygu cod]Cyn annibyniaeth o'r Deyrnas Unedig ym mis Awst 1962, defnyddiodd Trinidad a Thobago y Blue Ensign Brydeinig wedi ei ddifrodi gyda bathodyn yn dangos llong yn cyrraedd o flaen mynydd. Defnyddiwyd y faner Red Ensign ar gyfer masnach morwrol.
-
Baner Trefeigaeth Trinidad a Thobago (1889–1958) -
Baner Red ensign Trinidad a Thobago (1889–1958) -
Baner Trefediaeth Trinidad a Thobago (1958–1962)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Carlisle Chang" Archifwyd 2016-09-11 yn y Peiriant Wayback, Ministry of Community Development, Culture and the Arts, Government of the Republic of Trinidad and Tobago.
- ↑ "National flag of Trinidad and Tobago - Carlisle Chang", YouTube.
- ↑ National Flag Archifwyd 2021-10-22 yn y Peiriant Wayback". Government of the Republic of Trinidad and Tobago. Retrieved May 12, 2017.
- ↑ Flagspot
|