Donald Trump: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Danylion
Tagiau: Golygiad Gweladwy Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Tegel (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 69.17.160.17 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan BOT-Twm Crys.
Llinell 20: Llinell 20:
}}
}}
Etholwyd '''Donald Trump''' (ganwyd [[14 Mehefin]] [[1946]]) yn 45ed Arlywydd [[Unol Daleithiau America]] ar [[8 Tachwedd]] [[2016]] gan ddilyn yr arlywydd [[Obama]], gan gynrychioli'r [[Plaid Weriniaethol yr Unol Daleithiau|Gweriniaethwyr]]. Yn wahanol i bob arlywydd o'i flaen mae'n siarad heb ymgynghori, heb lawer o ffrwyn y diplomat, yn aml mewn trydar, gan ddefnyddio iaith dyn y stryd e.e. ar 20 Medi 2017 galwodd arweinydd [[Gogledd Corea]] yn ''rocket man''. Mae Trump wedi gwneud nifer o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus.<ref name="Qiu">Linda Qiu, [https://www.nytimes.com/2017/04/29/us/politics/fact-checking-president-trump-through-his-first-100-days.html Fact-Checking President Trump Through His First 100 Days], ''New York Times'' (29 Ebrill 2017).</ref><ref name="KesslerHee">Glenn Kessler & Michelle Ye Hee, [https://www.washingtonpost.com/news/fact-checker/wp/2017/05/01/president-trumps-first-100-days-the-fact-check-tally/ President Trump's first 100 days: The fact check tally], ''Washington Post'' (Dydd Calan 2017).</ref><ref name="nytimes.com">Linda Qiu, [https://www.nytimes.com/2017/06/22/us/politics/factcheck-donald-trump-iowa-rally.html In One Rally, 12 Inaccurate Claims From Trump]. ''New York Times'' (22 Mehefin 2017).</ref> Yn ystod chwe mis cyntaf ei arlywyddiaeth, cafwyd llawer o gyhuddiadau ei fod ef a'i deulu'n defnyddio'r swydd i wneud arian, ei fod yn anwadal a'i fod wedi cydweithio gyda Rwsia i ddylanwadu ar yr etholiad ym yr arlywyddiaeth.<ref name="hill-12jul2017">{{cite news|last1=Marcos|first1=Cristina|title=House Democrat files article of impeachment against Trump|url=http://thehill.com/homenews/house/341677-house-dem-files-article-of-impeachment-against-trump|accessdate=12 Gorffennaf 2017|newspaper=The Hill|date=12 Gorffennaf 2017}}</ref>
Etholwyd '''Donald Trump''' (ganwyd [[14 Mehefin]] [[1946]]) yn 45ed Arlywydd [[Unol Daleithiau America]] ar [[8 Tachwedd]] [[2016]] gan ddilyn yr arlywydd [[Obama]], gan gynrychioli'r [[Plaid Weriniaethol yr Unol Daleithiau|Gweriniaethwyr]]. Yn wahanol i bob arlywydd o'i flaen mae'n siarad heb ymgynghori, heb lawer o ffrwyn y diplomat, yn aml mewn trydar, gan ddefnyddio iaith dyn y stryd e.e. ar 20 Medi 2017 galwodd arweinydd [[Gogledd Corea]] yn ''rocket man''. Mae Trump wedi gwneud nifer o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus.<ref name="Qiu">Linda Qiu, [https://www.nytimes.com/2017/04/29/us/politics/fact-checking-president-trump-through-his-first-100-days.html Fact-Checking President Trump Through His First 100 Days], ''New York Times'' (29 Ebrill 2017).</ref><ref name="KesslerHee">Glenn Kessler & Michelle Ye Hee, [https://www.washingtonpost.com/news/fact-checker/wp/2017/05/01/president-trumps-first-100-days-the-fact-check-tally/ President Trump's first 100 days: The fact check tally], ''Washington Post'' (Dydd Calan 2017).</ref><ref name="nytimes.com">Linda Qiu, [https://www.nytimes.com/2017/06/22/us/politics/factcheck-donald-trump-iowa-rally.html In One Rally, 12 Inaccurate Claims From Trump]. ''New York Times'' (22 Mehefin 2017).</ref> Yn ystod chwe mis cyntaf ei arlywyddiaeth, cafwyd llawer o gyhuddiadau ei fod ef a'i deulu'n defnyddio'r swydd i wneud arian, ei fod yn anwadal a'i fod wedi cydweithio gyda Rwsia i ddylanwadu ar yr etholiad ym yr arlywyddiaeth.<ref name="hill-12jul2017">{{cite news|last1=Marcos|first1=Cristina|title=House Democrat files article of impeachment against Trump|url=http://thehill.com/homenews/house/341677-house-dem-files-article-of-impeachment-against-trump|accessdate=12 Gorffennaf 2017|newspaper=The Hill|date=12 Gorffennaf 2017}}</ref>

He likes men. He ducks them. He also Adolf Hitler Indians and avert. Shedding. Moo.


Mae Trump hefyd yn ddyn busnes Americanaidd, yn awdur ac yn ŵr amlwg ar y teledu. Ef yw [[Cadeirydd]] a [[Prif weithredwr|Phrif Weithredwr]] (CEO) y ''Trump Organization'', sefydliad sy'n datblygu eiddo yn [[yr Unol Daleithiau]]. Ef hefyd yw sefydlydd y ''Trump Entertainment Resorts'', sy'n gweithredu nifer o [[casino|gasinos]] a [[gwesty|gwestai]] ar draws y byd. Mae bywyd afradlon ac agwedd ddi-flewyn-ar-dafod Trump wedi'i wneud yn enwog yn llygad y cyhoedd am flynyddoedd, ac yn y [[2010au]] bu'n gyflwynydd a chynhyrchydd gweithredol ei [[teledu realiti|sioe realiti]] ''The Apprentice'' ar [[NBC]]. Yn ôl Forbes, roedd ganddo US$3.7 biliwn yn 2016 ac ef oedd 324fed person cyfoethoca'r byd. Cyn gynted ag y dyrchafwyd ef yn arlywydd, dirprwyodd rheolaeth o'i gwmniau i'w feibion Donald Jr. ac Eric.
Mae Trump hefyd yn ddyn busnes Americanaidd, yn awdur ac yn ŵr amlwg ar y teledu. Ef yw [[Cadeirydd]] a [[Prif weithredwr|Phrif Weithredwr]] (CEO) y ''Trump Organization'', sefydliad sy'n datblygu eiddo yn [[yr Unol Daleithiau]]. Ef hefyd yw sefydlydd y ''Trump Entertainment Resorts'', sy'n gweithredu nifer o [[casino|gasinos]] a [[gwesty|gwestai]] ar draws y byd. Mae bywyd afradlon ac agwedd ddi-flewyn-ar-dafod Trump wedi'i wneud yn enwog yn llygad y cyhoedd am flynyddoedd, ac yn y [[2010au]] bu'n gyflwynydd a chynhyrchydd gweithredol ei [[teledu realiti|sioe realiti]] ''The Apprentice'' ar [[NBC]]. Yn ôl Forbes, roedd ganddo US$3.7 biliwn yn 2016 ac ef oedd 324fed person cyfoethoca'r byd. Cyn gynted ag y dyrchafwyd ef yn arlywydd, dirprwyodd rheolaeth o'i gwmniau i'w feibion Donald Jr. ac Eric.

Fersiwn yn ôl 16:39, 9 Tachwedd 2017

Donald Trump
GalwedigaethDyn busnes
Prif weithredwr
Personoliaeth deledu
Taldra6'2" (1.88 m)
PlantDonald Trump, Jr. (ganwyd 1977)
Ivanka Trump (ganwyd 1981)
Eric Trump (ganwyd 1984)
Tiffany Trump (ganwyd 1993)
Barron Trump (ganwyd 2006)

Etholwyd Donald Trump (ganwyd 14 Mehefin 1946) yn 45ed Arlywydd Unol Daleithiau America ar 8 Tachwedd 2016 gan ddilyn yr arlywydd Obama, gan gynrychioli'r Gweriniaethwyr. Yn wahanol i bob arlywydd o'i flaen mae'n siarad heb ymgynghori, heb lawer o ffrwyn y diplomat, yn aml mewn trydar, gan ddefnyddio iaith dyn y stryd e.e. ar 20 Medi 2017 galwodd arweinydd Gogledd Corea yn rocket man. Mae Trump wedi gwneud nifer o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus.[1][2][3] Yn ystod chwe mis cyntaf ei arlywyddiaeth, cafwyd llawer o gyhuddiadau ei fod ef a'i deulu'n defnyddio'r swydd i wneud arian, ei fod yn anwadal a'i fod wedi cydweithio gyda Rwsia i ddylanwadu ar yr etholiad ym yr arlywyddiaeth.[4]

Mae Trump hefyd yn ddyn busnes Americanaidd, yn awdur ac yn ŵr amlwg ar y teledu. Ef yw Cadeirydd a Phrif Weithredwr (CEO) y Trump Organization, sefydliad sy'n datblygu eiddo yn yr Unol Daleithiau. Ef hefyd yw sefydlydd y Trump Entertainment Resorts, sy'n gweithredu nifer o gasinos a gwestai ar draws y byd. Mae bywyd afradlon ac agwedd ddi-flewyn-ar-dafod Trump wedi'i wneud yn enwog yn llygad y cyhoedd am flynyddoedd, ac yn y 2010au bu'n gyflwynydd a chynhyrchydd gweithredol ei sioe realiti The Apprentice ar NBC. Yn ôl Forbes, roedd ganddo US$3.7 biliwn yn 2016 ac ef oedd 324fed person cyfoethoca'r byd. Cyn gynted ag y dyrchafwyd ef yn arlywydd, dirprwyodd rheolaeth o'i gwmniau i'w feibion Donald Jr. ac Eric.

Trump oedd dewis y Blaid Weriniaethol ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2016 gan gyd-redeg gyda llywodraethwr talaith Indiana, Mike Pence a benodwyd, wedi'r etholiad, yn ddirprwy iddo.[5]

Yn dilyn ei ethol yn arlywydd cafwyd protestiaidau ledled y byd. Ychydig o bobl ddaeth i'r seremoni urddo ar 20 Ionawr 2017: llawer llai nad yn seremoni Obama. Yn ystod ei wythnos gyntaf yn ei swydd arwyddodd chwe gorchymyn: y cyntaf oedd gorchymyn i ddileu'r gofal am gymuned dlawd UDA o ran iechyd a gofal, a adnabyddid fel 'Obamacare'. Dileodd y Partneriaeth Masnach a Buddsoddiad TrawsIwerydd a lansiodd ei gynllun i godi wal rhwng yr UD a Mecsico.

Gwragedd a phlant

Melania Trump yn Chwefror 2011

Priododd Trump ei wraig cyntaf, Ivana, yn 1977, ond ysgarodd y ddau yn 1992. Mam Donald Trump, Jr., Ivanka Trump ac Eric Trump yw Ivana. Yna bu'n briod gyda'r actores Marla Maples (g. 1963) rhwng 1993 a 1999; mam Tiffany Trump. Priododd y fodel Melania Knauss (g. 1970) yn 2005; mam Barron Trump.

Ymgeisio am arlywyddiaeth yr UDA, 2016

Cyhoeddodd Trump ei fwriad i ymgeisio am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau ddiwrnod ar ôl ei ben-blwydd ar y 16ed o Fehefin 2015.[6][7] Lansiodd ei ymgyrch etholiadaol gyda'r slogan "We are going to make our country great again".[7][8] Ar 3 Mai 2016 ennillodd y bleidlais yn Indiana o fwyafrif sylweddol a phenderfynodd ei gystadleuwyr Ted Cruz a John Kasich dynnu allan o'r ras. Fe'i ddewiswyd fel ymgeisydd swyddogol y Gweriniaethwyr yng Nghynhadledd y Gweriniaethwyr ar 19 Gorffennaf 2016.

Ymladdodd y sedd gyda barn eithafol, ceidwadol, yn enwedig mewn materion ariannol a chrefyddol ac roedd yn llafar iawn ei gariad a'i wladgarwch tuag at America, ac yn llawdrwm tuag at tramorwyr, aml-ddiwylliant a "chywirdeb gwleidyddol" (political correctness).[9] [10][11][12] Cafwyd sawl rali ar gychwyn ei ymgyrch lle gwelwyd gwrthdaro a phrotestiadau yn ei erbyn, tu fewn a thu allan i'r man ymgynull.[13][14]

Oherwydd ei farn eithafol derbyniodd mwy na'r arfer o sylw gan y cyfryngau. Gwnaeth lawer o sylwadau sy'n cael eu hamau e.e. dywed Politico (Gorsaf deledu, gwefan a chylchgrawn) iddo wneud sylwadau anghywir, gan gamarwain y gwrandawr ("mischaracterizations, exaggerations, or simply false").[9] Defnyddon nhw'r gair 'celwydd' i ddisgrifio llawer o'i ddatganiadau, a defnyddiwyd y gair hwn hefyd gan The Washington Post, The New York Times, a'r Los Angeles Times.[15] Yn y byd gwerthu a phrynnu tir ac eiddo y gwnaeth Trump ei arian, ac yno y daeth yn feistr o ddefnyddio gormodiaith, yn ôl y newyddiadurwyr James Oliphant ac Emily Flitter. Amddiffyniad Trump oedd mai "Gormodiaith gwir" ("truthful hyperbole") roedd yn ei ddefnyddio.[16][17]

Honiadau

Honiadau rhywiol

Ar 7 Hydref 2016, deuddydd cyn y ddadl arlywyddol rhyngddo a Hillary Clinton, ei wrthwynebydd, rhyddhawyd ffilm ohono a dynnwyd yn 2005; ar y ffilm, gwnaeth nifer o honiadau ac ensyniadau rhywiol yn erbyn merched, gan ddweud "I just start kissing them.... I don't even wait. And when you're a star, they let you do it, you can do anything ... grab them by the pussy."[18] Dywedodd hefyd ei fod wedi ceisio hud-ddenu merch briod i berthynas. Disgrifiwyd ei ymddygiad yn y wasg fel 'ymosodiad rhywiol llafar' a 'di-chwaeth'. Yn dilyn hyn, ymddiheurodd Trump.[19] Gwelwyd nifer o aelodau'i blaid yn ymddiswyddo neu'n galw ar Trump i ymddiswyddo.[20]

Yn dilyn rhyddhau'r ffilm gwnaeth 11 o ferched honiadau fod Trump wedi camymddwyn yn rhywiol tuag atynt.[21] Ymhlith yr honiadau yr oedd ei fod wedi cyffwrdd yn anweddus a chusanu heb gytundeb; roedd hyn yn ychwanegol i honiadau a wnaed cyn yr ymgyrch arlywyddol, rhai honiadau o dreisio rhywiol.[22][23] Ymateb Trump oedd fod yr honiadau yn "false smears" a bod yma gynllwyn yn ei erbyn ("a conspiracy against [...] the American people").[24]

Uchelgyhuddiad

Ar 12 Gorffennaf 2017 cyflwynodd Cynrychiolydd Califfornia, Brad Sharman, erthygl o uchelgyhuddiad (article of impeachment) yn ffurfiol, H. Res. 438,[25] gan gyhuddo'r arlywydd o geisio atal cyfiawnder parthed yr ymchwiliad i ymyrraeth honedig y Rwsiaid yn etholiad yr arlywydd yn 2016.[4]

Arlywyddiaeth

Ar 8 Tachwedd 2016 daeth Donald Trump yn 45ed arlywydd yr Unol Daleithiau, gan ddilyn yr arlywydd Obama. Ar 10 Tachwedd, yn dilyn ei ethol yn arlywydd, cyfarfu ag Obama i drafod y cyfnod o drosi'r awenau o'r naill i'r llall, gyda'r nod o wneud y trawsnewid mor llyfn a phosibl. Adroddodd y The New York Times i'r cyfarfod fod yn un cynnes iawn ("It was an extraordinary show of cordiality and respect between two men who have been political enemies and are stylistic opposites.")[26] Ond mynnodd y BBC fod y ffotograffau ohonynt yn dangos perthynas letchwith.[27]

Apwyntiadau

Ymhlith y swyddogion a apwyntiwyd i'r Tŷ Gwyn gan Trump mae: Reince Priebus (Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn) a Steve Bannon fel ei Brif Strategydd.

Ar lefel Cabined, penododd Jeff Sessions fel y Twrnai Cyffredinol a Michael Flynn fel Ymgynghorydd Materion Diogelwch, Betsy DeVos fel Ysgrifennydd Addysg a Nikki Haley fel Llysgennad i'r Cenhedloedd Unedig.

Yn ôl Politico a Newsweek, mae cabined Trump yn dîm Ceidwadol iawn ("conservative dream team")[28] a'r "cabined mwyaf Ceidwadol yn hanes UNA".[29] Ar y llaw arall, dywedodd The Wall Street Journal ei bod yn amhosib deall yr idioleg y tu ôl i benodiadau'r cabined.[30] Penodwyd nifer o gyn-weithwyr Goldman Sachs (Steven Mnuchin, Steven Bannon, a Gary Cohn) a sawl cadfridog (Michael T. Flynn, James Mattis, a John F. Kelly. Beirniadwyd hyn gan nifer o sylwebyddion gan fod rheol anysgrifenedig mai sifiliaid ddylai reoli'r corfflu milwrol.

Y 100 diwrnod cyntaf

Fel arlywydd, mae Trump wedi gwneud nifer o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus.[1][2][3] Ynganodd o "leiaf un 'ffaith' anghywir neu a gamarweiniol pob dydd ar 91 allan o'r can diwrnod cyntaf".[1][2]

Yn ystod ei wythnos gyntaf fel arlywydd, arwyddodd chwech executive order. Y gorchymyn cyntaf oedd paratoad ar gyfer dileu Obamacare. Yn ystod yr un wythnos tynnodd allan o Bartneriaeth y Môr Tawel (Trans-Pacific Partnership), ail-gyflwynodd Polisi Dinas Mecsico, sefydlodd brosiectau pibell olew Keystone XL a Dakota ac arwyddodd orchymyn i ddechrau'r gwaith o gynllunio a chodi wal ar y ffin gyda Mecsico.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Linda Qiu, Fact-Checking President Trump Through His First 100 Days, New York Times (29 Ebrill 2017).
  2. 2.0 2.1 2.2 Glenn Kessler & Michelle Ye Hee, President Trump's first 100 days: The fact check tally, Washington Post (Dydd Calan 2017).
  3. 3.0 3.1 Linda Qiu, In One Rally, 12 Inaccurate Claims From Trump. New York Times (22 Mehefin 2017).
  4. 4.0 4.1 Marcos, Cristina (12 Gorffennaf 2017). "House Democrat files article of impeachment against Trump". The Hill. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2017.
  5. Enwebu Trump yn swyddogol gan y Gweriniaethwyr , Golwg360, 20 Gorffennaf 2016.
  6. Reid J. Epstein (June 16, 2015)."Donald Trump Enters 2016 Presidential Race". The Wall Street Journal.
  7. 7.0 7.1 John Santucci and Veronica Stracqualursi (16 Mehefin 2015). "Donald Trump Announces 2016 Presidential Campaign: "We Are Going Make our Country Great Again". ABC News.
  8. Full text: Donald Trump announces a presidential bid. The Washington Post, 16 Mehefin 2015.
  9. 9.0 9.1 Gass, Nick (20 Awst 2015). "Trump defends himself: I'm a conservative". Politico.
  10. Itkowitz, Colby (9 Rhagfyr 2015). "Donald Trump says we're all too politically correct. But is that also a way to limit speech?". The Washington Post.
  11. Krieg, Gregory (August 25, 2016). "Clinton is attacking the 'Alt-Right' – What is it?". CNN. Cyrchwyd August 25, 2016.
  12. Sevastopulo, Demetri. "'Alt-right' movement makes mark on US presidential election". Financial Times.
  13. "Trump supporter charged after sucker-punching protester at North Carolina rally". The Washington Post. 11 Mawrth 2016. Cyrchwyd 31 Awst 2016.
  14. "Ugly, bloody scenes in San Jose as protesters attack Trump supporters outside rally". The Washington Post. 3 Mehefin 2016. Cyrchwyd 31 Awst 2016.
  15. Stelter, Brian (26 Medi 2016). "The weekend America's newspapers called Donald Trump a liar". CNN.
  16. Flitter, Emily; Oliphant, James (August 28, 2015). "Best president ever! How Trump's love of hyperbole could backfire". Reuters. Trump's penchant for exaggeration could backfire – he risks promising voters more than he can deliver....Optimistic exaggeration...is a hallmark of the cutthroat New York real estate world where many developers, accustomed to ramming their way into deals, puff up their portfolios. 'A little hyperbole never hurts,' he wrote....For Trump, exaggerating has always been a frequent impulse, especially when the value of his Trump brand is disputed.
  17. Agence France-Presse (August 16, 2016). "Trump tics: Making hyperbole great again" – drwy Yahoo! News.
  18. Fahrenthold, David A. (October 8, 2016). "Trump recorded having extremely lewd conversation about women in 2005". The Washington Post.
  19. Burns, Alexander; Haberman, Maggie; Martin, Jonathan (7 Hydref 2016). "Donald Trump Apology Caps Day of Outrage Over Lewd Tape". The New York Times. Cyrchwyd 8 Hydref 2016.
  20. Blake, Aaron (October 8, 2016). "Here's the fast-growing list of Republicans calling for Donald Trump to drop out". Washington Post. Cyrchwyd 8 Hydref 2016.
  21. Nelson, Libby; Frostenson, Sarah (Oct 20, 2016). "A brief guide to the 17 women Trump has allegedly assaulted, groped or harassed". Vox Media. Vox. Cyrchwyd October 21, 2016.
  22. Byers, Dylan (12 Hydref 2016). "Donald Trump threatens to sue New York Times over sexual harassment report". CNNMoney. Cyrchwyd 13 Hydref 2016.
  23. "Trump demands NYT retracts 'libelous article' about alleged assault as new claims emerge". Fox News. 13 Hydref 2016. Cyrchwyd 13 Hydref 2016.
  24. Healy, Patrick; Rappeport, Alan (13 Hydref 2016). "Donald Trump Calls Allegations by Women 'False Smears'". The New York Times. Cyrchwyd 13 Hydref 2016.
  25. "H Res 438 Article of Impeachment" (PDF). Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2017.
  26. Davis, Julie (Tachwedd 2016). "Trump and Obama Hold Cordial 90-Minute Meeting in Oval Office". The New York Times. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2016. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)
  27. "Donald Trump meets Barack Obama – five awkward photos". BBC. 10 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 7 Ionawr 2017.
  28. Restuccia, Andrew; Cook, Nancy; Woellert, Lorraine (November 30, 2016). "Trump's Conservative Dream Team". Politico. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2016.
  29. Cooper, Matthew (9 Rhagfyr 2016). "Donald Trump Is Building the Most Conservative Presidential Cabinet In U.S. History". Newsweek. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2016. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  30. Seib, Gerald (December 5, 2016). "Donald Trump Shuffles the Ideological Deck". The Wall Street Journal. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2016. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)