Maes awyr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 38: | Llinell 38: | ||
Oherwydd fod Cymru'n fynyddig, does dim llawer o feysydd awyr yng Nghymru, ac ar y cyfan mae nhw'n wedi'u lleoli o gwmpas yr arfordir lle ceir tir gwastad. |
Oherwydd fod Cymru'n fynyddig, does dim llawer o feysydd awyr yng Nghymru, ac ar y cyfan mae nhw'n wedi'u lleoli o gwmpas yr arfordir lle ceir tir gwastad. |
||
{| class="wikitable |
{| class="wikitable" |
||
|- |
|- |
||
!bgcolor="#efefef" |Lle |
!bgcolor="#efefef" |Lle |
||
Llinell 73: | Llinell 73: | ||
|align=left| [[Talgarth]] || || Clwb Gleidio || || || Gwair |
|align=left| [[Talgarth]] || || Clwb Gleidio || || || Gwair |
||
|- |
|- |
||
|align=left| [[Sain Tathan]] || [[Sain Tathan]] || Milwrol || EGDX || 5,988 || Asffalt |
|align=left| [[Sain Tathan]] || [[MOD Sain Tathan]] || Milwrol || EGDX || 5,988 || Asffalt |
||
|- |
|- |
||
|align=left| [[Y Fali]] || [[Maes Awyr Môn]], [[RAF y Fali]] || Hedfan mewnol a Milwrol || EGOV || 7,513 || Asffalt |
|align=left| [[Y Fali]] || [[Maes Awyr Môn]], [[RAF y Fali]] || Hedfan mewnol a Milwrol || EGOV || 7,513 || Asffalt |
Fersiwn yn ôl 20:18, 22 Mehefin 2013
Lleoliad yw Maes Awyr lle mae awyrennau megis awyrennau adain sefydlog, hofrennyddion, a blimpiau yn gadael a glanio. Mewn unrhyw faes awyr ceir o leiaf un rhedfa ar gyfer awyrennau i adael a glanio, hofrenfa ac yn aml ceir adeiladau megis tyrau rheoli, awyrendai ac adeiladau gorsaf y maes awyr.
Hanes
Y rheswm pennaf dros dwf meysydd awyr oedd gweithrediadau milwrol, yn enwedig y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ond datblydwyd llawer o feysydd awyr trwy'r 1920au a 1930au. Yr ail gyfnod o ran twf oedd yn y 1950/60au pan welwyd cynydd arall mewn teithio rhyngwladol. Trwy'r cyfnod hwn, datblygodd y maes awyr yn sefydliad llawer mwy soffistigedig.
Yng Nghymru, datblygwyd nifer o feysydd awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd: RAF Sain Tathan a adeiladwyd ym 1938, RAF Pen-bre ym 1939, RAF Fali ym 1941, RAF Rhoose (Maes Awyr Caerdydd) ym 1942, RAF Brawdy ym 1944, ac ati. Caewyd y rhan fwya ohonyn nhw yn syth ar ôl y rhyfel a mabwysiadwyd nifer gan gyrff cyhoeddus neu breifat.
Rhestr Meysydd Awyr Cymru
Oherwydd fod Cymru'n fynyddig, does dim llawer o feysydd awyr yng Nghymru, ac ar y cyfan mae nhw'n wedi'u lleoli o gwmpas yr arfordir lle ceir tir gwastad.
Lle | Enw | Defnydd | ICAO | Hyd (troedfedd) |
Arwyneb |
---|---|---|---|---|---|
Abertawe | Maes Awyr Abertawe | Hedfan rhyngwladol | EGFH | 4,429 | Asffalt / Concrid |
Brynbuga | Clwb Gleidio | Gwair | |||
Caernarfon | Maes Awyr Caernarfon | Hedfan mewnol | EGCK | 3,543 | Asffalt |
Caerdydd | Helipad Caerdydd | Hedfan rhyngwladol | EGFC | 300 | Concrete |
Caerdydd | Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd | Hedfan rhyngwladol | EGFF | 7,848 | Asffalt |
Y Trallwng | Maes Awyr Canolbarth | Hedfan mewnol | EGCW | 3,346 | Asffalt |
Aberporth | Maes Awyr Gorllewin Cymru | Hedfan mewnol | EGFA | 3,031 | Asffalt |
Hawarden | Maes Awyr Hawarden | Hedfan mewnol | EGNR | 6,702 | Asffalt / Concrid |
Hwlffordd | Maes Awyr Hwlffordd | Hedfan mewnol | EGFE | 5,000 | Asffalt |
Llanbedr | Maes Awyr Llanbedr | Hedfan mewnol | EGOD | 7,500 | Asffalt |
Pen-bre | Maes Awyr Pen-bre | Hedfan mewnol | EGFP | 2,614 | Asffalt |
Rhigos | Clwb Gleidio | Gwair | |||
Talgarth | Clwb Gleidio | Gwair | |||
Sain Tathan | MOD Sain Tathan | Milwrol | EGDX | 5,988 | Asffalt |
Y Fali | Maes Awyr Môn, RAF y Fali | Hedfan mewnol a Milwrol | EGOV | 7,513 | Asffalt |
Meysydd awyr hanesyddol
- RAF Brawdy
- Llandw
- RAF Llandwrog
- RAF Sealand
- Ty Dewi
Cyrchfannau rhyngwladol
Mae'n posib teithio i sawl lle drwy Ewrop a gweddill y byd o feysydd awyr Cymru, yn enwedig o Gaerdydd. Mae llawer o deithwyr yn gyrru o Gymru i Fryste, Manceinion neu Lundain i deithio gan ei fod ar y cyfan yn rhatach.[angen ffynhonnell]