Hanes hoywon yn yr Almaen Natsïaidd a'r Holocost

Oddi ar Wicipedia
Hanes hoywon yn yr Almaen Natsïaidd a'r Holocost
Enghraifft o'r canlynolagwedd o hanes Edit this on Wikidata
Mathpersecution of LGBT people in Nazi Germany, cyfunrywioldeb, homosexuality in Germany Edit this on Wikidata
Daeth i ben8 Mai 1945 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu30 Ionawr 1933 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1933 Edit this on Wikidata
Daeth i ben8 Mai 1945 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hunangofiant Pierre Seel, dyn hoyw a ddanfonwyd i'r gwersylloedd crynhoi gan y Natsiaid

Yn ystod y 1920au, profodd bobl hoyw yr Almaen, ac yn enwedig trigolion Berlin, gryn dipyn o ryddid a chawsant eu derbyn llawer yn fwy na mewn rhannau eraill o'r byd. Fodd bynnag, yn sgil esgyniad Adolf Hitler i bŵer, targedwyd dynion hoyw, a lesbiaid i raddau llai, gan y Blaid Natsïaidd a daethant yn rhan o'r bobl a laddwyd yn yr Holocost. O ddechrau 1933 ymlaen, gwaharddwyd mudiadau hoyw, llosgwyd llyfrau ysgolheigaidd am gyfunrywioldeb a rhywioldeb yn gyffredinol, a llofruddiwyd aelodau hoyw'r Blaid Natsiaidd. Lluniodd y Gestapo rhestrau o bobl cyfunrywiol, a orfodwyd i gydymffurfio'n rhywiol i'r "norm Almaenig".

Amcangyfrifwyd fod rhyw 1.2 miliwn o ddynion hoyw yn yr Almaen ym 1928 (6% o ddynion dros 20 oed). Rhwng 1933-45, arestiwyd tua 100,000 o dan amheuaeth o fod yn hoyw, a dedfrydwyd rhyw 50,000 ohonynt. Treuliodd y mwyafrif o'r dynion hyn eu cosb mewn carchardai cyffredin, ac amcangyfrifir y carcharwyd rhwng 5,000 a 15,000 ohonynt mewn gwersylloedd crynhoi. Nid yw'n glir faint o'r 5,000 i 15,000 a fu farw yn y gwersylloedd, ond cred yr ysgolhaig blaenllaw Ruediger Lautman y gallai'r cyfradd marwolaeth o ddynion cyfunrywiol yn y gwersylloedd crynhoi wedi bod mor uchel a 60%. Cafodd dynion hoyw eu trin mewn ffyrdd anghyffredin o greulon gan swyddogion y gwersylloedd, a chawsant eu herlid gan eu cyd-garcharorion hefyd. Roedd hyn yn ffactor yn y cyfradd marwolaeth uchel ymysg pobl hoyw, o'i gymharu â grwpiau eraill.

Ar ôl y rhyfel, ni chydnabyddodd y mwyafrif o wledydd y modd y cafodd pobl hoyw eu trin yn y gwersylloedd crynhoi, ac ail-arestiwyd a charcharwyd rhai dynion ar sail tystiolaeth a gasglwyd yn ystod blynyddoedd y Natsïaid mewn pŵer. Dim ond yn ystod y 1980au y dechreuodd llywodraethau gydnabod yr hyn a ddigwyddodd, ac ni ymddiheurodd y llywodraeth Almaenig i'r gymuned hoyw tan 2002. Fodd bynnag, mae'r cyfnod hwn yn parhau i fod yn bwnc llosg. Yn 2005, mabwysiadodd y Senedd Ewropeaidd adduned ar yr Holocost a oedd yn cynnwys erledigaeth pobl cyfunrywiol.

Twf Natsïaeth[golygu | golygu cod]

Cyn dyfodiad y Trydydd Reich, ystyriwyd Berlin yn ddinas ryddfrydol, gyda nifer o fariau, clybiau nos a cabaret hoyw. Roedd nifer o fariau drag hyd yn oed, lle arferai twristiaid heterorywiol a chyfunrywiol fwynhau perfformiadau. Dywedodd Hitler fod yn hyn yn arwain at dirywiad diwylliannol, puteindra a syphilis yn ei lyfr Mein Kampf, gan osod y bai am o leiaf rhai o'r rhain ar yr Iddewon.

Roedd gan Ferlin y mudiad hawliau LHDT mwyaf blaengar yn y byd ar y pryd. Cyd-sefydlodd y doctor Iddewig Magnus Hirschfeld y Pwyllgor Gwyddonol-Dyngarol (Wissenschaftlich-humanitäres Komitee, WhK) ym Merlin ym 1897 er mwyn ymgyrchu yn erbyn y Paragraff 175 enwog, a oedd yn ddeddf a wnaeth rhyw rhwng dynion yn anghyfreithlon. Ceisiodd y pwyllgor hefyd sicrhau cydnabyddiaeth cymdeithasol i ddynion a menywod hoyw a thrawsrywiol. Dyma oedd y mudiad hawliau hoyw cyhoeddus cyntaf.

Ym 1919, cyd-sefydlodd Hirschfeld yr Institut für Sexualwissenschaft (Athrofa ar gyfer Ymchwil Rhyw), sefydliad ymchwil rhywoleg preifat. Roedd iddo llyfrgell ymchwil ac archi helaeth, a chynhwysai swyddfa gwnsela priodasol a rhywiol. Yn ogystal, roedd yr athrofa'n arloesol yn yr ymgyrch am hawliau sifil a derbyniad cymdeithasol ar gyfer pobl hoyw a thrawsrywiol.

Yn fuan iawn wedi hyn fodd bynnag, diddymwyd y camau a wnaed gan gymuned hoyw yr Almaen, pan esgynnodd Plaid Natsïaidd Hitler i bŵer. Dywedwyd fod Natsïaeth yn anghydnaws â chyfunrywioldeb, am nad oedd pobl hoyw yn atgenhedlu nac ychwaith yn cyfrannu at yr "hil berffaith" (Nataliaeth). Am yr un rheswm, ystyriwyd hunan-leddfu yn niweidiol i'r Reich, ond cawsai hyn ei ystyried yn llai difrifol. Gwelwyd pryderon hefyd ymysg Natsïaid y gellir cael eich heintio gan "ennyn hoyw".

Credai Hitler fod cyfunrywioldeb yn "ymddygiad dirywiol" a oedd yn bygwth cyflwr "cymeriad gwrywaidd" y genedl. Darluniwyd dynion hoyw fel "gelynion y wladwriaeth" a chawsant eu cyhuddo o "lygru" moesoldeb cyhoeddus gan beryglu cyfradd geni'r Almaen.

Ysgrytiai arweinyddion Natsïaidd megis Heinrich Himmler bobl cyfunrywiol fel pobl gwahanol a sicrhaodd fod doctoriaid Natsïaidd yn arbrofi arnynt er mwyn ceisio darganfod gwendid etifeddol sef achos cyfunrywioldeb yn nhyb nifer o aelodau'r blaid. Credai rhai arweinyddion fod angen difa pobl cyfunrywiol, tra bod eraill eisiau gweithredu ar gyfreithiau a waharddai rhyw rhwng dynion neu lesbiaid.

Roedd Ernst Röhm, gŵr yr ystyriai Hitler i fod yn fygythiad posib, ac arweinydd yr SA, adain filwrol gyntaf y Blaid Natsïaidd, yn hoyw ond cadwodd ei rywioldeb yn gyfrinach tan 1925, pan gafodd ei orfodi i ddod allan gan bapur newydd y Democratiaid Sosialaidd a gyhoeddodd nifer o lythyron cariadus a ysgrifennodd. Roedd rhai o arweinwyr eraill yr SA, megis Edmund Heines hefyd yn hoyw. Ar ôl 1925, roedd Röhm yn eithaf agored ynglŷn â'i rywioldeb ac roedd yn aelod o'r Gynghrair dros Hawliau Dynol, mudiad hawliau hoyw mwyaf yr Almaen.

Mae rhai haneswyr wedi cyflwyno'r syniad fod Hitler ei hun yn gyfunrywiol. Gwelir yr enghraifft amlycaf o hyn yng ngwaith yr hanesydd Almaenig Machtan, yn ei lyfr dadleuol The Hidden Hitler (sydd yn ymdrin â'r ddamcaniaeth hon yn unig). Os yw damcaniaeth Machtan yn gywir, gellir gofyn y cwestiwn pam felly oedd y Natsïaid yn erlid pobl hoyw? Ateb Machtan i hyn yw fod Hitler mewn sefyllfa anodd, yn ceisio ail-gyfeirio amheuon ynglŷn â'i rywioldeb ei hun oddi wrtho. Dywed fod "Hitler himself never condemned homosexuality, but he allowed the persecution of gays in order to disguise his own true colours."[1][2][3]

Chwaraeodd Iddewon Almaenig rôl flaenllaw o fewn y mudiad hawliau hoywon yn yr Almaen. Gwelwyd canran uchel o bobl gyfunrywiol yn y gymuned ffilm a chelfyddydol yr Almaen-Iddewig.

Beirniadwyd Iddewon Almaenig fel Magnus Hirschfeld yn hallt. Cawsant eu pardduo am eu syniadau dadleuol a oedd yn destun sioc a phryder i nifer o bobl Ewrop. Er nad oedd gan Sigmund Freud unrhyw beth i'w wneud â'r mudiad hawliau hoyw yn yr Almaen (am mai Iddew Awstriaidd ydoedd), cafodd ei dargedu am ei fod yn Iddew ac am fod ganddo syniadau dadleuol am rywioldeb. Ystyriwyd unrhyw un a hyrwyddai syniadau dadleuol am ryw yn wyrdroëdig gan gymdeithas yr Almaen ac yn enwedig gan y Natsïaid. Beirniadwyd Freud yn benodol am rhai cysyniadau llosgachol yn y Cymhleth Oedipus a'r Cymhleth Electra lle honnodd eu bod yn ffenomena seicoddatblygiadol lle datblygai plant deimladau rhywiol tuag at y rhiant o'r rhyw gwahanol.

Puro[golygu | golygu cod]

Ar 10 Mai, 1933, llosgodd Natsïaid ym Merlin lyfrau gan awduron Iddewig, Llyfrgell yr Institut für Sexualwissenschaft, a gweithiau eraill a ystyriwyd yn "an-Almaenig"

Ar ddiwedd mis Chwefror 1933, wrth i ddylanwad cymedrol Ernst Röhm wanhau, lansiodd y Blaid Natsïaidd ei phroses o buro clybiau hoyw ym Merlin, gan wahardd cyhoeddiadau o natur rywiol a mudiadau hoyw. O ganlyniad, ffodd nifer o'r Almaen (e.e. Erika Mann, Richard Plaut). Ym mis Mawrth 1933, danfonwyd Kurt Hiller, prif drefnydd Athrofa Ymchwil Rhyw Magnus Hirschfeld, i wersyll crynhoi.

Ar 6 Mai 1933, trefnodd Ieuenctid Natsïaidd y Deutsche Studentenschaft ymosodiad ar yr Athrofa Ymchwil Rhywiol. Rhai dyddiau'n ddiweddarach, taflwyd holl lyfrau ac archifau'r Athrofa allan i'r stryd ac fe'u llosgwyd yn gyhoeddus ar strydoedd Opernplatz. Dinistriwyd oddeutu 20,000 o lyfrau a llawysgrifau, a 5,000 o ddelweddau. Yn ogystal, cipiwyd rhestrau helaeth yr Athrofa o enwau a chyfeiriadau pobl LHDT. Yn ystod y goelcerth enfawr, rhoddodd Joseph Goebbels araith wleidyddol i dorf o tua 40,000 o bobl. I ddechrau, amddiffynnodd Hitler Röhm o'r elfennau eraill yn y Blaid Natsïaidd a ystyriai cyfunrywioldeb yn groes i bolisi gwrth-gyfunrywiol y blaid. Fodd bynnag, newidiodd Hitler yn ddiweddarach pan ddechreuodd ystyried Röhm fel bygythiad i'w bŵer. Yn ystod Noson y Cyllyll Hirion ym 1934, dechreuwyd ar y broses o buro unrhyw un yr ystyriai Hitler yn fygythiad i'w bŵer ei hun. Trefnodd i Röhm gael ei lofruddio gan ddefnyddio cyfunrywioldeb Röhm fel cyfiawnhad i dawelu'r gwrthwynebiad a welwyd o fewn yr SA. Wedi iddo gadarnhau ei bŵer, byddai Hitler yn cynnwys dynion hoyw yn y rhestr o bobl a fyddai'n cael eu danfon i'r gwersylloedd crynhoi yn ystod yr holocost.

Ar y dechrau, bu Himmler yn gefnogol i Röhm, gan ddadlau fod y cyhuddiadau o gyfunrywioldeb a ddygwyd yn ei erbyn wedi'u hybu a'u hyrwyddo gan yr Iddewon. Ond ar ôl y puro, dyrchafodd Hitler statws Himmler a daeth yn weithgar iawn yn y broses o ddifa cyfunrywioldeb. Dywedodd, "We must exterminate these people root and branch... the homosexual must be eliminated." (Plant, 1986, p. 99).

Cofeb i Ddioddefwyr Hoyw yr Holocost ym Merlin. (Dywed arno: Totgeschlagen - Totgeschwiegen (Trawyd yn farw - Fe'u tawelwyd)

Yn fuan ar ôl puro 1934, crewyd adran arbennig o'r Gestapo er mwyn creu rhestrau o unigolion hoyw. Ym 1936, creodd Heinrich Himmler, Pennaeth yr SS, "Swyddfa Ganolog y Reich er mwyn Gwaredu Cyfunrywioldeb ac Erthyliad."

I ddechrau ni chafodd pobl hoyw eu trin yn yr un modd a'r Iddewon; ystyriai'r Almaen Natsïaidd dynion hoyw Almaenig fel rhan o'r "Hil Berffaith" a'u nod oedd i'w gorfodi i gydymffurfio'n rhywiol ac yn gymdeithasol. Danfonwyd dynion hoyw na fyddai neu na allai gydymffurfio neu esgus gydymffurfio i wersylloedd crynhoi fel rhan o'r ymgyrch "Difa Drwy Waith".

Targedwyd dros filiwn o ddynion hoyw Almaenig, ac arestiwyd o leiaf 100,000 ohonynt a charcharwyd dros 50,000 am fod yn hoyw. Ysbaddwyd cannoedd o ddynion hoyw Ewropeaidd o dan gyfarwyddyd y llysoedd barn.

Ni fyddai rhai o'r bobl a erlynwyd o dan y cyfreithiau hyn yn ystyried eu hunain yn gyfunrywiol. Gyda chyfreithiau "gwrth-gyfunrywiol" mor amlwg ledled y byd gorllewinol tan y 1960au a'r 1970au, nid oedd nifer o ddynion yn teimlo'n ddiogel i adrodd eu profiadau tan y 1970au pan ddiddymwyd nifer o'r cyfreithiau yn erbyn pobl hoyw.

Ni erlynwyd lesbiaid i'r fath raddau o dan gyfreithiau gwrth-gyfunrywiol y Natsïaid, am yr ystyriwyd yn haws i'w perswadio neu eu gorfodi i gydymffurfio ag ymddygiad heterorywiol. Fodd bynnag, cawsant eu hystyried yn fygythiad i werthoedd y wladwriaeth ac yn aml caent eu cyhuddo o fod yn "anghymdeithasol."

Cyfunrywioldeb a'r SS[golygu | golygu cod]

Yn ôl Geoffrey J. Giles, roedd yr SS a'u harweinydd Heinrich Himmler yn poeni'n fawr am gyfunrywioldeb. Gwnaeth Himmler areithiau a gweithiau ysgrifenedig a oedd yn beirniadu pobl hoyw yn fwy nag unrhyw arweinydd Natsïaidd arall. Fodd bynnag, er iddo feirniadu pobl hoyw a gweithgarwch cyfunrywiol yn barhaus, roedd Himmler yn llai cyson yn y modd y cosbodd pobl hoyw. Yn erthygl Geoffrey Giles "The Denial of Homosexuality: Same-Sex Incidents in Himmler's SS", gwelwyd nifer o achosion llys lle dygwyd swyddogion Natsïaidd yr SS gerbron eu gwell am droseddau cyfunrywiol. Amrywiai canlyniadau'r achosion hyn yn fawr iawn, a chyflwyna Giles dystiolaeth ddogfennol lle gallai'r barnwr gael ei lywio gan "wryweidd-dra" neu ba mor Aryanaidd oedd y cyhuddedig. Pe bai o stoc Almaenig cadarn, credwyd y gallai dyn genhedlu plentyn a fyddai'n cyfrannu at yr hil berffaith.

Gwersylloedd crynhoi[golygu | golygu cod]

Amrywia'r amcangyfrifoedd o'r nifer o ddynion hoyw a laddwyd yn y gwersylloedd crynhoi yn ystod yr holocost o 5,000 i 15,000. Mae'r niferoedd uchaf yn cynnwys y rheiny a oedd yn Iddewon ac yn hoyw, neu'n Iddewig, hoyw a chomiwnyddol hyd yn oed. Yn ogystal, nid oes cofnodion am yr union reswm dros ddanfon person i wersyll crynhoi yn bodoli, sy'n ei gwneud yn anodd rhoi rhif pendant ar y nifer o ddynion hoyw a fu farw yn y gwersylloedd difa. Gweler Triongl Pinc

Dioddefodd dynion hoyw erchyllterau anghyffredin yn y gwersylloedd crynhoi. Wynebent erledigaeth nid yn unig wrth y milwyr Almaenig ond wrth y carcharon eraill hefyd, a ymosodwyd a lladdwyd nifer ohonynt. Hefyd, gorfodwyd dynion hoyw yn y gwersylloedd llafur caled i wneud tasgau mwy peryglus ac anodd na'r carcharon eraill nad oedd yn Iddewon, o dan y polisi o "Ddifa Drwy Waith". Arferai milwyr yr SS ddefnyddio dynion hoyw fel targedau er mwyn ymarfer eu sgiliau saethu, gan anelu at y trionglau pinc y cawsant eu gorfodi i wisgo.

Gellir priodoli'r driniaeth llym hyn i'r modd y gwelai swyddogion yr SS ddynion hoyw, yn ogystal ag agweddau homoffobig y gymuned Almaenig yn gyffredinol. Gwthiwyd y dynion hoyw i ffiniau'r gymdeithas a gwelwyd hyn hefyd yn y gwersylloedd. Bu farw nifer ohonynt o gael eu taro, tra bod doctoriaid Natsïaidd yn aml yn defnyddio dynion hoyw ar gyfer arbrofion gwyddonol er mwyn ceisio darganfod gennyn hoyw er mwyn "iachau" unrhyw blant Ariaidd y dyfodol a oedd yn hoyw.

Gellir cysylltu profiadau fel hyn i'r cyfradd uchel o farwolaethau o ddynion hoyw yn y gwersylloedd o'i gymharu â charfannau "anghymdeithasol" eraill. Dangosodd astudiaeth gan Ruediger Lautmann y bu farw 60% o ddynion hoyw yn y gwersylloedd crynhoi, o'i gymharu â 41% o garcharorion gwleidyddol a 35% o Dystionau Jehovah. Hefyd, dangosodd yr astudiaeth fod y canran o ddynion hoyw a oroesodd ychydig yn uwch ar gyfer pobl o'r dosbarth canol ac uwch ac ar gyfer dynion deurywiol priod a'r rheiny a oedd yn rhieni i blant.

Ar ôl y rhyfel[golygu | golygu cod]

Un pwynt o'r gofeb Homomonument, yn Amsterdam, o gofio am ddynion a menywod hoyw a ddioddefodd erlidigaeth. Crewyd y gofeb o dri triongl mawr pinc allan o wenithfaen.

Ar ôl y rhyfel, ni chydnabyddwyd fod carcharorion hoyw y gwersylloedd crynhoi wedi dioddefodd erledigaeth y Natsïaid. Cynigiwyd iawndal a phensiynau'r wladwriaeth i grwpiau eraill ond fe'i gwrthodwyd ar gyfer dynion hoyw, a oedd yn parhau i gael eu hystyried yn droseddwyr - ni ddiddymwyd y ddeddf Natsiaidd yn erbyn hoywon tan 1994, er i Ddwyrain a Gorllewin yr Almaen lacio ei deddfau troseddol yn erbyn pobl hoyw ar ddiwedd y 1960au.

Gellid ail-garacharu dioddefwyr hoyw yr holocost am "droseddu parhaus", ac fe'u cadwyd ar y rhestr fodern o "droseddwyr rhywiol". O dan Llywodraeth Milwrol Gynghreiriol yr Almaen, gorfodwyd rhai pobl hoyw i gyflawni eu dedfryd o garchar, waeth faint o amser y treuliasant yn y gwersylloedd crynhoi.

Yn gyffredinol, ni ystyriwyd polisïau gwrth-hoyw y Natsïaid a'r modd y dinistriasant y mudiad hawliau hoywon cynnar yn bynciau addas ar gyfer haneswyr ac addysgwyr yr Holocost. Dim ond yn ystod y 1970au a'r 1980au y dechreuwyd trafod y mater, gyda goroeswyr yr holocost yn ysgrifennu a chyhoeddi eu hatgofion, gyda dramâu megis "Bent", a'r ymchwil mwy hanesyddol am hanes homoffobia'r Natsïaid a'r modd y dinistriwyd y mudiad hawliau hoyw Almaenig.

Ers y 1980au, mae rhai dinasoedd Ewropeaidd a rhyngwladol wedi codi cofebion i gofio'r miloedd o bobl hoyw a lofruddiwyd ac a erlidiwyd yn ystod yr Holocost. Ceir cofebion mawrion ym Merlin, Amsterdam, Montevideo, a San Francisco. Yn 2002, gwnaeth y llywodraeth Almaenig ymddiheuriad swyddogol i'r gymuned hoyw.

Yn 2005, cofiodd y Senedd Ewropeaidd 60 mlynedd ers rhyddhau gwersyll Auschwitz gyda munud o dawelwch a oedd yn cynnwys y testun isod:

"...27 January 2005, the sixtieth anniversary of the liberation of Nazi Germany's death camp at Auschwitz-Birkenau, where a combined total of up to 1.5 million Jews, Roma, Poles, Russians and prisoners of various other nationalities, and homosexuals, were murdered, is not only a major occasion for European citizens to remember and condemn the enormous horror and tragedy of the Holocaust, but also for addressing the disturbing rise in anti-Semitism, and especially anti-Semitic incidents, in Europe, and for learning anew the wider lessons about the dangers of victimising people on the basis of race, ethnic origin, religion, social classification, politics or sexual orientation...."

Cofnododd un o oroeswyr hoyw yr Holocost, Pierre Seel, fanylion am fywyd i ddynion hoyw o dan reolaeth y Natsïaid. Yn ei hanesion, dywed ei fod yn aelod o'r gymuned hoyw lleol yn nhref Mulhouse. Pan gipiodd y Natsïaid bŵer o'r dref, roedd ei enw ef ar restr o ddynion hoyw a orfodwyd i orsaf yr heddlu. Ufuddhaodd y gorchymyn er mwyn amddiffyn ei deulu rhag unrhyw oblygiadau pellach. Pan gyrhaeddodd orsaf yr heddlu, dywed iddo ef a dynion hoyw eraill gael eu curo. Tynnwyd ewinedd bysedd y rhai a geisiodd ymwrthod. Treisiwyd rhai eraill gyda phreniau mesur a oedd wedi eu torri, gan dyllu eu coluddion gan beri iddynt waedu'n ddifrifol. Ar ôl iddo gael ei arestio, fe'i danfonwyd i wersyll crynhoi yn Schirmeck. Yno, dywed Seel y byddai cadfridog Natsiaidd yn cyhoeddi y byddai dienyddiad cyhoeddus. Daethpwyd a dyn allan ac adnabu Seel ei wyneb. Wyneb ei gariad deunaw oed o Mulhouse ydoedd. Dywed Seel fod y Natsïaid wedi diosg dillad ei gariad, gosod bwced metal dros ei ben ac yna rhyddhau cwn Alsatian arno, a gnodd ef nes iddo farw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Manchester Guardian Adolygiad o The Hidden Hitler
  2. The Psychopathic God: Adolf Hitler gan Waite. td. 232-236, gwaith cynharach a gyflwynai'r ddamcaniaeth fod Hitler yn hoyw.
  3. Cyflwynir y syniad o rywioldeb Hitlert hefyd gan y dadansoddwr seicolegol Walter Charles Langer yn ei Adroddiad Adeg Rhyfel Archifwyd 2009-03-12 yn y Peiriant Wayback. a baratowyd ar gyfer Swyddfa Gwasanaethau Strategol yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyhoeddwyd gan Basic Books ym 1972 ar ôl dad-ddosbarthu The Mind of Adolf Hitler, er mai casgliad Langer oedd fod Hitler yn heterorywiol.