Noson y Cyllyll Hirion

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Er nad oedd yr Almaenwyr yn cwyno llawer pan erlidiodd y SA yr Iddewon, Comiwnyddion, a'r Sosialwyr, erbyn 1934 roedd cryn dipyn o bryder ynglyn â'r lefel o drais a wnaethai'r "crysau brownion".[1]

Cyfres o ddienyddiadau gwleidyddol i gael gwared ar y Sturmabteilung (SA), sef y crysau brownion parafilwrol oedd Noson y Cyllyll Hirion (a elwir weithiau'n "Putsch Röhm" neu "Operation Hummingbird Kolibri". Digwyddodd hyn rhwng 30 Mehefin a 2 Gorffennaf, 1934 pan oedd yr Almaen o dan reolaeth y Natsiaid.

Penderfynodd Adolf Hitler weithredu yn erbyn yr SA a'u harweinydd, Ernst Röhm, oherwydd ystyriai annibynniaeth yr SA a'u hoffter o ymladd stryd yn fygythiad i'w bŵer. Roedd hefyd eisiau cymodi gydag arweinwyr y Reichswehr, lluoedd milwrol swyddogol yr Almaen a oedd yn ofni ac yn casau'r SA—yn benodol uchelgais Röhm i gyfuno'r Reichswehr gyda'r SA o dan ei arweiniad ei hun. Yn y pen draw, defnyddiodd Hitler y cyfle hwn i ymosod neu gael gwared ar y bobl a feirniadai ei arweinyddiaeth, yn enwedig y rhai hynny a oedd yn deyrngar i'r Îs-Ganghellor Franz von Papen, ac i dalu'r pwyth yn ôl ar rai gelynion.

Bu farw o leiaf 85 o bobl yn ystod y cliriad, er mae'n bosib fod cannoedd yn fwy wedi marw,[2][3] a bod miloedd o bobl a ystyriwyd yn fygythiad wedi eu harestio.[2] Lladdwyd y rhan fwyaf gan y Schutzstaffel (SS) a'r Gestapo (Geheime Staatspolizei), heddlu cudd y gyfundrefn. Cryfhaodd y cliriad gefnogaeth y Reichswehr i Hitler. Darparodd sylfeini cyfreithiol i'r gyfundrefn Natsïaidd hefyd, am fod y llysoedd Almaenig a'r cabinet wedi anwybyddu canrifoedd o waharddiadau cyfreithiol yn erbyn lladd cyfreithiol er mwyn dangos eu teyrngarwch i'r gyfundrefn.

Cyn gweithredu'r cynllwyn, weithiau arferai'r cynllunwyr gyfeirio ato fel "Hummingbird" (Almaeneg: Kolibri), oherwydd dyna oedd y gair côd er mwyn gweithredu'r criwiau dienyddio ar ddiwrnod y puro.[4] Ymddengys mai ar hap a damwain y dewiswyd enw'r cynllun. Daw'r ymadrodd "Noson y Cyllyll Hirion" yn Almaeneg o gyfnod cyn y digwyddiad ei hun, ac fe'i ddefnyddir yn gyffredinol i gyfeirio at weithred o ddialedd. Mae Almaenwyr yn dal i ddefnyddio'r term "Röhm-Putsch" ("Röhm coup d’état") i ddisgrifio'r digwyddiad, oherwydd dyna oedd y term a ddefnyddiwyd gan y Natsïaid ar y pryd, er gwaetha'r awgrym fod y llofruddiaethau'n angenrheidiol er mwyn osgoi coup. Er mwyn pwysleisio hyn, mae awduron Almaenig yn defnyddio dyfynodau neu'n ei ddisgrifio fel yr hyn a ddywedir oedd Röhm-Putsch.[5]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Kershaw (1998) p.508
  2. 2.0 2.1 Evans (2005), p. 39. "At least eighty-five people are known to have been summarily killed without any formal legal proceedings being taken against them. Göring alone had over a thousand people arrested."
  3. Kershaw, Hitler, (1999), p. 517. "The names of eighty-five victims [exist], only fifty of them SA men. Some estimates, however, put the total number killed at between 150 and 200."
  4. Kershaw, Hitler, (1999), p. 515.
  5.  "Röhm-Putsch". Deutsches Historisches Museum (DHM), Amgueddfa Hanesyddol yr Almaen.