Cyfunrywioldeb

Oddi ar Wicipedia
Cyfeiriadedd rhywiol
rhan o rywoleg
Gwahaniaethau

Anrhywioldeb · Cyfunrywioldeb · Deurywioldeb · Heterorywioldeb · Hollrywioldeb · Paraffilia · Unrhywioldeb

Labeli

Cwestiynu · Hoyw · Lesbiad · Queer

Dulliau

Graddfa Kinsey · Grid Klein

Astudiaeth

Bioleg · Demograffeg · Meddygaeth · Seicoleg

Anifeiliaid

Cyfunrywioldeb
mewn anifeiliaid
 ·

Gweler hefyd

Rhyngrywioldeb · Trawsrywedd · Trawsrywioldeb

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Logo cyfunrywioldeb, sy'n dangos dau symbol gwryw wedi'u cysylltu ac yn mynd i'r un cyfeiriad.

Gall cyfunrywioldeb gyfeirio at ymddygiad neu atyniad rhywiol rhwng pobl o'r un ryw, neu at gyfeiriadedd rhywiol. Yn achos cyfeiriadedd, mae'n disgrifio atyniad rhywiol a rhamantus parhaus tuag at rai o'r un ryw, ond nid yn angenrheidiol ymddygiad rhywiol.[1] Cyferbynnir gyfunrywioldeb â heterorywioldeb, deurywioldeb ac anrhywioldeb.

Mae ymddygiad cyfunrywiol i'w gael ymhlith nifer o anifeiliaid ar wahân i fodau dynol, yn enwedig ymhysg anifeiliaid cymdeithasol.[2]

Dau ddyn mewn partneriaeth cyfunrywiol

Terminoleg a geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Bathiad diweddar wedi'i seilio ar y gair Saesneg homosexuality (o'r Roeg hom (yr un peth) a'r Lladin sex (rhyw) yw "cyfunrywioldeb". Yn yr un modd ceir "anghyfunrywioldeb" i ddisgrifio pen arall y sbectrwm cyfeiriadedd rhywiol, er bod y term "heterorywioldeb" yn fwy cyffredin. Term Cymraeg llawer hŷn yw gwrywgydiaeth a chafodd ei ddefnyddio gan yr Esgob William Morgan ym Meibl Cymraeg 1588.[3] Er y rhan "gwryw" o'r gair, mewn nifer o gyd-destunau mae'n cyfeirio at weithredoedd a serchiadau rhywiol rhwng menywod yn ogystal â dynion. Mae nifer yn ffafrio cyfunrywioldeb fel term Cymraeg mwy modern, tra bo eraill yn cysylltu'r fath air ag hen agweddau meddygol tuag at gyfunrywioldeb fel afiechyd meddwl.[4] "Hoyw" yw'r term poblogaidd, anffurfiol i gyfeirio at gyfunrywioldeb, yn enwedig cyfunrywioldeb rhwng dynion, er ei fod yn gamgyfieithad o'r gair Saesneg gay: tan yn ddiweddar bu'r gair yn gyfystyr â "sionc" neu "bywiog".[5] Mae'r term "lesbiaidd" pob amser yn dynodi cyfunrywioldeb rhwng menywod. Termau mantell yw LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol) a LHDT (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol). Mae'r gair queer, oedd yn arfer cael ei ystyried yn sarhaus, wedi cael ei adfer gan bobl LHDT yn negawdau diweddar fel term positif.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Sexual Orientation and Homosexuality. Adalwyd ar 28 Tachwedd, 2007.
  2. (Saesneg) Lehrer, Jonah (7 Mehefin, 2006). The Gay Animal Kingdom. seedmagazine.com. Adalwyd ar 28 Tachwedd, 2007.
  3. Fel Arall, rhaglen ddogfen gan Nia Dryhurst a ddarlledwyd ar S4C ar 20 Tachwedd, 2007.
  4.  Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau. Stonewall Cymru. Adalwyd ar 8 Medi, 2007.
  5.  hoyw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]