Priodas gyfunryw
Oddi ar Wicipedia
Priodas rhwng dau berson o'r un ryw a gydnabyddir yn llywodraethol, cymdeithasol neu'n grefyddol yw priodas gyfunryw. Mae priodas gyfunryw yn gyfreithlon mewn deuddeg o wledydd: yr Ariannin, Gwlad Belg, Brasil, Canada, De Affrica, Denmarc, Gwlad yr Iâ, yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, Sbaen, a Sweden. Mae priodas gyfunryw hefyd yn gyfreithlon mewn nifer o israniadau gwladol, megis rhai o daleithiau'r Unol Daleithiau a Mecsico. Mae nifer o wledydd ac israniadau gwladol eraill yn cydnabod uniadau neu bartneriaethau sifil rhwng cyplau cyfunryw.
Ffafrir y term "priodas gyfunryw" yn hytrach na "phriodas hoyw" neu "briodas gyfunrywiol" gan nifer oherwydd gall briodas o'r fath cynnwys unigolion deurywiol.