Lesbiaeth
Oddi ar Wicipedia
Mae "lesbiad", "lesbiaid" (lluosog) a "lesbiaidd" yn ail-gyfeirio i'r dudalen hon. Efallai eich bod yn chwilio am Lesbos.
Term sy'n disgrifio cyfunrywioldeb rhwng menywod yw lesbiaeth ac mae'n deillio o enw'r ynys Groegaidd Lesbos (neu Lesvos), cartref y bardd Sappho. Roedd ei barddoniaeth yn boblogaidd iawn yn y cyfnod clasurol. Collwyd llawer ohono, ond mae rhywfaint wedi goroesi. Pwnc y rhan fwyaf o'r farddoniaeth yw cariad, ac mae'n amlygu atyniad rhywiol at ferched yn ogystal a dynion. Daw'r defnydd o Lesbiaeth yn yr ystyr yma o enw ynys Lesvos, fel man geni Sappho.