Lesbos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd lloeren o Lesbos

Ynys Roeg yn y Sporades Dwyreiniol yn y Môr Aegeaidd yw Lesbos (Groeg ddiweddar Lésvos). Mae'n gorwedd yn agos iawn i dir mawr Twrci. Ei chanolfan yw dinas Mitilene (weithiau gelwir yr ynys ei hun 'Mitilini' nei 'Mitilene', ar ôl ei brif ddinas). Tyfir yr olewydden a chnydau grawn yno. Mae pysgota sardîns yn bwysig hefyd ond y prif ddiwydiant heddiw yw twristiaeth. Ar ôl Crete ac Euboea Lesbos yw'r fwyaf o'r ynysoedd Aegaeaidd.

Ceir olion presenoldeb pobl o'r oes Neolithig ar Lesbos. Ymsefydlodd y Groegiaid ar yr ynys tua 1000 CC. Blodeuodd diwylliant Groeg yno ac fe'i cysylltir yn arbennig â barddoniaeth Roeg delynegol a gwaith Sappho ac Alcaeus. Roedd yr ynys yn rhan o Aeolis ac yn aelod o Gynhgrair Delos yng Ngroeg yr Henfyd. Yn ddiweddarach daeth i feddiant y Rhufeiniaid a gwnaethpwyd Mitilene yn borthladd rhydd ganddynt.

Codwyd nifer o eglwysi hardd yno ar ddechrau'r cyfnod Bysantaidd. Roedd yn arfer alltudio pobl i Lesbos, e.e. yr ymerodres Irene yn 809. Yn ystod y canrifoedd nesaf newidiai ddwylo yn aml rhwng y Bysantiaid, y Croesgadwyr, y Saraseniaid a'r Tyrciaid. Syrthiodd i'r Otomaniaid yn 1462. Brodor o'r ynys oedd y môr leidr Khair-ed-din Barbarossa. Daeth yn rhan o Wlad Groeg yn 1912.