Euboea

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ynys Euboea

Euboea, hefyd Negropont neu Negroponte, (Groeg: Εύβοια Évia, Hen Roeg Εὔϐοια Eúboia), yw'r ail-fwyaf o ynysoedd Groeg, gydag arwynebedd o 1609 milltir sgwar. Mae'n ynys hir a gweddol gul, rhyw 150 km o hyd a rhwng 50 km a 6 km o led. Roedd y boblogaeth yn 218,032 yn 2005.

Yn y gogledd, nid yw'r culfor rhwng Euboea a Thessalia ar y tir mawr ddim mwy na tua 40 medr o led yn ei fan gulaf, Culfor Euripus. Adeiladwyd pont dros y culfor am y tro cyntaf yn 410 CC., yn ystod y Rhyfel Peloponnesaidd. Daw'r enw Negroponte o'r bont oedd yma pan oedd yr ynys ym meddiant Fenis. Bellach mae dwy bont yn cysylltu'r ynys a'r tir mawr. Mae canol yr ynys yn fynyddig; y copaeon uchaf yw Dirphys (1,745 m), Pyxaria (1,341 m) ac Ochi (1,394).

Yng Ngroeg yr Henfyd roedd dwy ddinas bwysig ar yr ynys, Chalcis ac Eretria. Yn 490 CC dinistriwyd Eretria gan Ymerodraeth Persia, ac er iddi gael ei hail-adeiladu yn dilyn buddugoliaeth y Groegiaid ym Mrwydr Marathon, dinas Chalcis fu'r ddinas bwysicaf ar yr ynys o hynny ymlaen. Chalcis yw prifddinas yr ynys heddiw. Roedd yr ynys i gyd ym meddiant Athen erbyn y cyfnod yma. Yn 410 CC llwyddodd yr ynys i adennill ei hannibyniaeth, ond wedi Brwydr Chaeronea yn 338 CC. daeth yn eiddo Philip II o Facedon, ac yn ddiweddarach yn eiddo Rhufain. Bu'n eiddo Fenis am gyfnod, hyd nes i Ymerodraeth yr Ottomaniaid ei chipio yn 1470. Yn 1830 daeth yn rhan o Wlad Groeg annibynnol.