Sappho

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sappho gan Gustav Klimt

Bardd yn yr iaith Roeg oedd Sappho (Groeg AttigL Σαπφώ, Groeg Aeolig:Ψάπφω, bu farw tua 570CC).

Ganed Sappho ar ynys Lesvos rywbryd rhwng 630 CC a 612 CC, Cysylltir hi weithiau a dinas Mytilene ar Lesvos, er y dywedir hefyd iddi gael ei geni yn ninas Eresos.

Roedd ei barddoniaeth yn boblogaidd iawn yn y cyfnod clasurol. Collwyd llawer ohono, ond mae rhywfaint wedi goroesi. Pwnc y rhan fwyaf o'r farddoniaeth yw cariad, ac mae'n amlygu atyniad rhywiol at ferched yn ogystal a dynion. Daw'r defnydd o Lesbiaeth yn yr ystyr yma o enw ynys Lesvos, fel man geni Sappho.


Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.