Gustav Klimt
Oddi ar Wicipedia
Peintiwr Symbolaidd o Awstria oedd Gustav Klimt (14 Gorffennaf 1862 – 6 Chwefror 1918). Roedd yn aelod blaenllaw yn y sefydliad Celfyddydol Newydd yn Vienna. Mae ei brif waith yn cynnwys paentiadau, murluniau, darluniadau a darnau o gelfyddyd amrhywiol eraill. Un o brif bynciau gwaith Klimt oedd y corff benywaidd ac yn aml mae ei waith yn cynnwys elfen erotig.
Ei waith mwyaf adnabyddus yw Y Cusan (1907-08).