Priodas gyfunryw yn y Deyrnas Unedig

Oddi ar Wicipedia
Deddfau parthed partneriaethau cyfunryw yn Ewrop      Priodas gyfunryw      Partneriaethau eraill      Cyd-fyw heb gofrestru      Heb ei gydnabod      Deddfau'n caniatau partneriaeth rhyw gwahanol yn unig

Mae priodas yn fater sydd wedi'i ddatganoli yn y Deyrnas Unedig ac o ganlyniad mae statws priodas gyfunryw yn wahanol yng Nghymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

  • Pasiwyd Deddfwriaeth yn caniatáu priodas gyfunryw yng Nghymru a Lloegr gan Senedd y Deyrnas Unedig yng Ngorffennaf 2013 a daeth i rym ar 1 Mawrth 2014. Cynhaliwyd y priodasau cyfunryw cyntaf ar 29 Mawrth 2014.
  • Pasiwyd Deddfwriaeth yn caniatáu priodasau cyfunryw yn yr Alban gan Senedd yr Alban yn Chwefror 2014 a derbyniodd Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mawrth 2014. Disgwylir i'r priodasau cyfunryw cyntaf gael eu cynnal yn hydref 2014.[1]
  • Mae Adran Weithredol Gogledd Iwerddon wedi datgan nad yw'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn caniatáu priodas gyfynryw yng Ngogledd Iwerddon, ond caiff priodasau cyfunryw o awdurdodau eraill eu trin fel partneriaethau sifil.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-25960225. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Missing or empty |title= (help)

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • (2013) Same sex marriages: new generations, new relationships. Genders and sexualities in the social sciences.. Houndmills, Basingstoke, Hampshire: Palgrave Macmillan. ISBN 9780230300231

Eginyn erthygl sydd uchod am faterion lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsryweddol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato