Hawliau sifil a gwleidyddol
Categori o hawliau sy'n amddiffyn rhyddid unigolion rhag ymyrraeth gan lywodraethau a mudiadau preifat ydy hawliau sifil a gwleidyddol. Maent yn sicrhau fod unigolyn yn medru cymryd rhan ym mywyd gwladol a gwleidyddol heb ragfarn neu orthrwm.
Mae hawliau sifil yn cynnwys amddiffyn integredd a diogelwch corfforol pobl; amddiffyn rhag camwahaniaethu ar seiliau megis anabledd corfforol neu feddyliol, rhyw, crefydd, hîl, ethnigrwydd, oed, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth ryweddol; hawliau'r unigolyn megis rhyddid meddwl a chydwybod, rhyddid i siarad, rhyddid y wasg a rhyddid i symud.
Mae hawliau gwleidyddol yn cynnwys cyfiawnder naturiol (tegwch trefniadol) mewn cyfraith, megis hawliau'r cyhuddedig, yn cynnwys yr hawl am dreial teg; proses ddyledus; yr hawl am iawndal neu wellhad cyfreithiol; yn ogystal â'r hawl i gymryd rhan ym mhenderfyniadau cymdeithas waraidd a gwleidyddiaeth megis yr hawl i ymgynnull, yr hawl i ddeisebu a'r hawl i bleidleisio.