Diwygiad 1904–1905

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Diwygiad 19041905 oedd y diwygiad mawr Cristnogol olaf i genedl y Cymry ei weld hyd yn hyn. Mi fyddai rhai yn dadlau fod rhai adfywiadau lleol wedi digwydd ers hynny; er enghraifft "bendith" Cross Hands yn y 1950au a'r "fendith" ymysg myfyrwyr Cymraeg yn y 1970au - ond nid oes dim byd wedi dod yn agos i'r gwynt a chwythodd drwy Gymru ganrif yn ôl.

Y Cefndir[golygu]

Yn 1859 y gwelwyd y diwygiad diwethaf cyn 1904-1905, rhwng 1859 ac 1904 bu cryn newid ym myd Cristnogaeth y Cymry. Er 1850 roedd Cymru yn colli mwy a mwy o'i draddodiad hanesyddol Calfinaidd. Roedd hi'n oes pan ddaeth i'r weinidogaeth Ymneilltuol y pregethwyr mawr megis Christmas Evans (1838), John Elias (1841) a Henry Rees (1869). Wedi i'r to yma o bregethwyr ymadael, ar y cyfan, fe welwyd pregethu Cymraeg yn colli ei gefndir Beiblaidd traddodiadol ac fe welwyd symudiad tuag at bregethu poblogaidd a llenyddol, mwy rhyddfrydig a llai llythrennol.

Yn yr hanner can mlynedd cyn diwygiad 1904-1905 daeth dau feddyliwr pwysig i'r sffêr gyhoeddus, ill dau yn her i Gristnogaeth draddodiadol yn eu ffordd eu hunain. Yr athronydd gwleidyddol Karl Marx, awdur y Maniffesto Gomiwnyddol (1848) a Das Kapital (1867), a'r gwyddonydd arloesol Charles Darwin, a gyhoeddodd Origin of Species (1859) oedd y ddau hyn. Yng ngwyneb caledu fe drodd llawer o'r dosbarth gweithiol i ffwrdd o'r athrawiaeth Gristnogol hanesyddol a throi ei golwg tuag at wleidyddiaeth. Yn yr un modd fe ddilynodd llawer o'r arweinwyr Cristnogol hwynt; ym marn Calfiniaid uniongred fe drodd Efengyl Gras yn ddim byd mwy nag Efengyl Gymdeithasol. Ac er gwaetha'r ymrafael rhwng syniadaeth Darwin ac athrawiaeth uniongred y Beibl daeth nifer o arweinwyr Cristnogol Cymru i dderbyn gwaith a theorïau Darwin.

Felly erbyn 1904 roedd sawl eglwys a sawl arweinydd Cristnogol Ymneilltuol yng Nghymru wedi troi cefn ar y traddodiad Calfinaidd, bellach roedd eu Cristnogaeth yn ddim byd mwy na rhan o'u diwylliant; nid oedd iddo elfen ddwyfol ddifrifol o safbwynt Calfinaidd uniongred. Rhaid ystyried y cefndir yma er mwyn deall y Gymru fu'n llwyfan i ddiwygiad 1904-1905.

Paratoi'r ffordd i'r Diwygiad[golygu]

Yn ystod y cyfnod rhwng 1859 a 1904, cafwyd adfywiadau lleol o bryd i'w gilydd; bu adfywiadau lleol yng Nghwmafan (1866), Y Rhondda (1879), Caerfyrddin a Blaenau Ffestiniog (1887), Dowlais (1890) a'r Bontnewydd (1892). Cyn yr adfywiadau yma bu i'r Cristnogion yn yr ardaloedd hynny weddïo’n ddwys. Dyma batrwm a welwyd cyn i ddiwygiad 1904-1905 dorri allan; er enghraifft drwy 1902-1903 fe gyfarfu holl arweinwyr Bedyddiedig Cwm Rhondda, 35 ohonynt, yn rheolaidd i weddïo am fendith. Yng nghapel Hebron, Ton, fe fu cyfarfodydd gweddi hyd 1904 ac wedi iddyn nhw glywed fod "Duw ar waith" yn Hebron, Dowlais dwysáu gwnaeth y gweddïo yn Hebron, Ton, yn y gobaith y byddai'r fendith yn dod atynt hwythau hefyd.

Y Diwygiad yn dechrau[golygu]

Mae'n anodd dweud yn union ble a phryd y dechreuodd y diwygiad, ond efallai y gellid cyfeirio at y llefydd canlynol fel ardaloedd o bwys.

Ceinewydd a Blaenannerch[golygu]

Arweinydd blaenllaw yn y diwygiad oedd gweinidog Methodistaidd Y Ceinewydd, Joseph Jenkins. Yn ystod 1903 roedd yn awchu am adfywiad ysbrydol yng Nghymru. Dywedir y daeth rhyw fendith arno mewn gweddi ac wrth bregethu yn Chwefror 1904 daeth i sylweddoli mai'r gwynt tu ôl i'w bregethu oedd gwynt y diwygiad. Fe fywiogodd bywyd ei eglwys ac fe gynyddodd y niferoedd, teithiodd ef ac aelodau o'i eglwys i dystiolaethu mewn pentrefi a threfi cyfagos.

Erbyn Medi 1904 fe drefnwyd cynhadledd ym Mlaenannerch. Fe adroddwyd fod bendith aruthrol wedi bod yn y gynhadledd ac fe ledaenwyd y newydd drwy'r ardal a thu hwnt. Fe adroddwyd yr hanes yn y South Wales Daily News, lle yr adroddwyd fod y 'trydydd diwygiad mawr' ar droed trwy Gymru.

Rhydaman[golygu]

Ar ddechrau Tachwedd 1904 fe wahoddwyd Joseph Jenkins fel pregethwr gwadd i gapel Bethani, Rhydaman, eglwys Nantlais Williams. Fe drefnwyd fod Joseph Jenkins i ddod cyn fod newydd am y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman, serch hynny gan fod Joseph Jenkins yn dod teimlodd Nantlais y byddai hi'n briodol trefnu cyfarfod arbennig ar brynhawn Sul i Joseph Jenkins adrodd yr hanes. Mae'n debyg i Nantlais ofidio na fyddai diddordeb ac na fyddai neb yn dod i'r cyfarfod arbennig yma, serch hynny pan gyrhaeddodd Nantlais prin yr ydoedd yn medru mynd i mewn i glywed Joseph Jenkins.

Ymhell cyn clywed sôn am ddiwygiad roedd hi wedi ei threfnu fod Joseph Jenkins i siarad ar y Nos Lun cyn iddo ddychwelyd i Geinewydd. Fe lenwyd y capel i'r ymylon unwaith yn rhagor ar y nos Lun, ond o bosib y digwyddiad mwyaf hynod y noson honno oedd i ŵr ddatgan o'r galori “Mi fydd cyfarfod arall yma nos yfory...”. Fe gynhaliwyd cyfarfod arall ar y nos Fawrth a barhaodd tan oriau mân y bore; roedd y diwygiad wedi cyrraedd Rhydaman. Er bod Nantlais eisoes wedi ei ordeinio gan y Methodistiaid, gwerth fyddai nodi na chafodd Nantlais dröedigaeth tan benwythnos ymweliad Joseph Jenkins â Rhydaman yn Nhachwedd 1904. Daeth ei 'gadwedigaeth' ar y Nos Sadwrn, noswyl ymweliad Joseph Jenkins.

Y Gogledd[golygu]

Yn Rhagfyr 1904 fe aeth Joseph Jenkins ar daith bregethu am dri mis i'r Gogledd. Bendithiwyd cyrddau yn Amlwch, Llangefni, Llannerchymedd, Talysarn, Llanllyfni, Dinbych, Llanrwst, Dinorwig, Disgwylfa ac ymysg myfyrwyr ym Coleg Prifysgol Cymru, Bangor. Ond digwyddodd y "fendith" fwyaf ym Methesda. Disgrifiodd un o arweinwyr eraill y diwygiad J. T. Job gyfarfod yn Jerwsalem, Bethesda ar yr 22ain o Ragfyr 1904 'yn gorwynt'. Bu gweddïo yno am awr cyn i Joseph Jenkins gyrraedd, ugain munud i mewn i'w bregeth fe ffrwydrodd y dorf fawr mewn gorfoledd; dynion yn gwaeddu emynau a phobl yn dawnsio rhwng y corau.

Evan Roberts a Chasllwchwr[golygu]

Roedd Evan Roberts yn ddyn ifanc a ddylanwadwyd arno gan y storiâu oedd yn dod i Geinewydd a Blaenannerch. Fe deimlodd alwad i fynd i'r weinidogaeth ac fe aeth am ei hyfforddiant bugeiliol i Gastell Newydd Emlyn; wrth gwrs daeth i dde Ceredigion yn ystod cynnwrf mawr Blaenannerch. Fe ddaeth Seth Joshua, un o arweinwyr eraill y diwygiad, i'r ardal i gynnal cyfarfodydd, disgwyliai Evan Roberts ymlaen yn eiddgar. Yn ystod ail bregeth Seth Joshua ym Mlaenannerch fe syrthiodd Evan Roberts i'r llawr a gwaeddu allan “Plyg fi; plyg fi; plyg ni!”.

Wedi tri mis o hyfforddiant yng Nghastell Newydd Emlyn fe ddychwelodd Evan Roberts i Gasllwchwr i ddechrau ar ei weinidogaeth. Dywedir iddo gael gweledigaethau uniongyrchol gan yr Ysbryd Glân, gweledigaethau penodol iawn megis y rhif 100,000 oedd yn cynrychioli yr eneidiau y byddai Duw yn eu hachub trwyddo ef. Wrth i'r diwygiad fynd rhagddi daeth Evan Roberts yn fwyfwy dibynnol ar yr Ysbryd Glân yn ei bregethu yn hytrach na'r Beibl. Serch hynny roedd ei weinidogaeth yn llwyddianus. Yn aml fe ddechreuodd gyfarfodydd wrth adrodd hanes yr hyn oedd yn digwydd yng Ngheinewydd a Blaenannerch, yna fe heriai'r torf o wrandawyr ynglŷn â'u cyflwr ysbrydol hwynt-hwythau. Yn fuan fe ddeffrôdd y dyrfa yng Nghasllwchwr, roedd y diwygiad wedi lledu yna, ac fe aeth cyfarfodydd ymlaen tan oriau mân y bore. Wedi i'r tân gael ei gynnau yng Nghasllwchwr fe aeth Evan Roberts ar daith drwy'r cymoedd er mwyn lledu'r diwygiad.

Y papurau newydd[golygu]

Dyma oedd y diwygiad cyntaf i'r cyfryngau poblogaidd chwarae rôl ynddo. Roedd y Western Mail a'r South Wales Daily News wedi chwarae rhan allweddol yn lledaenu’r newyddion fod diwygiad yn y tir. Fe roddwyd sylw arbennig i Evan Roberts a'i waith gan y Western Mail. Mae rhai haneswyr yn nodi fod y papurau hyn yn cynrychioli meistri mawr y gweithfeydd haearn a'r pyllau glo yn y De ac felly'n barod iawn i gefnogi unrhyw symudiad i ffrwdd o wleidyddiaeth sosialaidd a radicalaidd y dydd gan ei weithwyr.

Casgliadau[golygu]

Credir bod o leiaf 100,000 o bobl wedi dod yn Gristnogion yn y diwygiad. Er gwaetha'r ffaith i fas sylweddol o bobl brofi tröedigaeth ni lwyddodd y diwygiad i atal dirywiad graddol Cristnogaeth yng Nghymru, megis ei atal rhyw ychydig dros dro y gwnaeth. Dywedir fod diffyg dyfnder i ddiwygiad 1904-1905, ac fe fethwyd meithrin Cristnogion a ddaeth i ffydd yn y diwygiad yn effeithiol. Yn ôl rhai Cristnogion roedd hyn o ganlyniad i ddiffyg pwyslais gan rai o'r arweinwyr ar ddysgeidiaeth Feiblaidd ac fe ddadleir y gwelwyd ôl-effaith y diwygiad yn hwy yn yr ardaloedd a oedd ag arweinydd oedd yn rhoi pwyslais ar awdurdod y Beibl, ond diflannu’n sydyn gwnaeth yr ôl-effaith mewn ardaloedd oedd ag arweinwyr oedd yn rhoi pwyslais ar yr Ysbryd ar draul dysgeidiaeth Feiblaidd.

Ffynonellau[golygu]

  • Evans, Eifion: “Diwygiad 04-05”: 2002
  • Gibbard, Noel: “Nefol Dân – Agweddau ar ddiwygiad 1904-1905”: 2004
  • Davies, Gwyn: “Golau Gwlad – Cristnogaeth yng Nghymru 200-2000”: 2002

Dolennau Allanol[golygu]