J. T. Job
Oddi ar Wicipedia
Gweinidog, bardd ac emynydd Cymreig oedd John Thomas Job, a ysgrifennodd odan yr enw J. T. Job (21 Mai 1867 – 4 Tachwedd 1938).
Ganed ym mhlwyf Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd yn athrofa Trefeca, a bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Aberdâr, Bethesda ac Abergwaun. Dyfarnwyd gradd M.A. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru yn 1932.
Roedd yn gystadleuydd llwyddiannus yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 1897, Llanelli 1903, a Chastell-nedd 1918, a'r Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Lerpwl, 1900.
Cyhoeddiadau [golygu]
- Caniadau Iob