Ton

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Tonfedd ac Osgled Ton

Patrwm sy'n teithio, o ronynnau neu feysydd ffisegol sy'n dirgrynu, yw ton, nid oes unrhyw mater yn cael ei symud namyn egni'r don sy'n cael ei drosglwyddo trwy'r mater, a gellir ddefnyddio tonnau i symud negeseuon o un lle i'r llall. Mae'n rhaid i lawer o donnau deithio trwy gyfrwng, megis tonnau sain, ond nid felly tonnau electromagnetig - sy'n gallu teithio trwy wagfa. Gellir rhannu ton yn ddau gategori sef ardraws neu arhydol.

Cynnwys

[golygu] Priodweddau Tonnau

1. Gall tonnau cael eu hadlewyrchu. Rhai esiamplau o adlewyrchiad ton yw adlais sain, cyfarpar mesur dyfnder sonar ac unrhywbeth sydd ddim yn fynhonnell golau ac sy'n weladwy.
2. Gall tonnau cael eu plygu. Wrth i donnau arafu a chroesi ffin megis gwydryn maent yn newid cyfeiriad ac felly'n plygu.

[golygu] Tonnau Arhydol

Ton Hydredol neu Arhydol

Mewn tonnau arhydol mae'r gronynnau'n symud yn ôl ac ymlaen ar hyd cyfeiriad teithio'r don. Gweler cyfres o gywasgiadau a thyniadau o fewn y don. Esiamplau o'r rhain yw tonnau sain a thonnau seismig cynradd (tonnau P).

[golygu] Tonnau Ardraws

Ton Ardraws yn teithio

Mewn ton ardraws, bydd y gronynnau'n symud yn ôl ac ymlaen mewn cyfeiriad sy'n normal i gyfeiriad y ton. Esiamplau o'r rhain yw tonnau dŵr a thonnau seismig eilradd (tonnau S). Mae'r tonnau electromagnetig yn donnau ardraws hefyd, ond nid mater sy'n trosgwyddo'r dirgryniadau ar gyfer y rhain ond meysydd trydanol a magnetig.

[golygu] Mesur Tonnau

Mae llawer o unedau i'w mesur mewn ton:

  • Tonfedd (λ) = Mesurir mewn metrau fel uned SI. Hyd un don gyfan yw tonfedd, ac fe'i mesurir o frig i frig neu o gafn i gafn.
  • Amledd (f) = Mesurir mewn Hertz (Hz), sef maint y dirgryniadau mae'r don yn ei wneud pob eiliad
  • Cyflymder (v) = Mesurir mewn metrau yr eiliad, dyma pa mor gyflym mae'r don yn symud.
  • Osgled (y) = Yn gyffredinol, maint y newid i'r newidyn sy'n osgiladu, a achoswyd gan y don – er enghraifft, y pellter uchaf mae gronyn yn cael ei symud o'i fan cychwyn.

[golygu] Hafaliad

Mae perthynas syml yn bodoli rhwng amledd, tonfedd a chyflymder ton:

~\nu = \lambda f

[golygu] Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol