Baner Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd

Oddi ar Wicipedia
Baner Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd
Enghraifft o'r canlynolbaner Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2011 Edit this on Wikidata

Mae baner Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd (Arabeg: منظمة التعاون الاسلامي); Ffrangeg: Organisation de la Coopération Islamique; Saesneg: Organisation of Islamic Cooperation) yn wyn gydag arwyddlun y sefydliad yn y canol. Mae'r arwyddlun hwn yn cynnwys hanner lleuad cilgant gwyrdd yn coflodedio'r glôb gan greu un siap cylch cyflawn. Yng nghanol y byd ceir delwedd o'r Kaaba (Al-Kaaba al-Musharrafa),sef y graig sanctaidd sydd yng nghanol dinas Meca. Mae elfennau'r arwyddlun yn cynrychioli athroniaeth gorfforaethol y sefydliad yn ôl ei statudau newydd. Mabwysiadwyd y faner newydd hon ar 28 Mehefin 2011.[1] Mae'r Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd yn fudiad ag iddi wladwriaethau sy'n aelodau ar draws gogledd Affrica a'r Dwyrain Canol a'r Dwyrain pell.

Baner Flaenorol[golygu | golygu cod]

Rhwng 1981 a 2011 roedd gan y Sefydliad faner wahanol. Roedd hon yn cynnwys maes gwyrdd i gynrychioli ffrwythlondeb y tiroedd Islamaidd (credir hefyd ei fod yn symbol o Islam).[2] Yn y canol, roedd cilgant coch yn gwynebu ar i fyny tu fewn i ddisg gwyn sy'n symbol o Islam. Roedd y ddisg wen yn cynrychioli heddwch rhwng y Mwslimiaid a phobloedd y byd. Ar y ddisg, mae'r geiriau الله أكبر, ("Allahu Akbar", sef, 'Duw sydd fwyaf') mewn ysgrifen Arabeg gan ddefnyddio caligraffeg Arabeg gyfoes.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]