Amgueddfa Werin Cymru
Math | amgueddfa awyr agored, amgueddfa werin, amgueddfa genedlaethol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Cymru |
Lleoliad | Adeilad Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan |
Sir | Sain Ffagan |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 29.8 metr |
Cyfesurynnau | 51.4869°N 3.2725°W |
Cod post | CF5 6XB |
Rheolir gan | Amgueddfa Cymru |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Amgueddfa awyr-agored sy'n cofnodi hanes phensaerniaeth, diwylliant a ffordd o fyw y Cymry yw Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n rhan o Amgueddfa Cymru. Lleolir yr amgueddfa yn nhiroedd castell Sain Ffagan, ar gyrion Caerdydd.
Mae'r amgueddfa yn nodedig am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol a symudwyd yno o bob rhan o Gymru, carreg wrth garreg. Mae'n gofnod gwerthfawr o hanes y genedl ac er mwyn arddangos ac astudio agweddau ar ddiwylliant Cymru o'r 15g ymlaen, gan gynnwys pensaernïaeth draddodiadol, crefftau, offer amethyddol, llên gwerin, dillad, ac ati. Mae yno hefyd nifer o dai Celtaidd wedi'u codi ac arteffactau o'r cyfnod ynghyd ag elfen o ail-greu ac ail-actio cyfnod o'n hanes.
Hanes
[golygu | golygu cod]Syniad y bardd a'r arbenigwr llên gwerin Iorwerth C. Peate oedd sefydlu'r amgueddfa, ar sail Skansen, sef amgueddfa awyr-agored pensaerniaeth brodorol Sweden yn Stockholm. Ond roedd rhan fwyaf o adeiladau Skansen yn rai pren, a byddai amgueddfa tebyg yng Nghymru yn naturiol yn fwy uchelgeisiol ocherwydd fod adeiladau brodorol Cymru wedi eu adeiladu o gerrig yn bennaf. Dechreuwyd y gwaith o ddatblygu'r amgueddfa ym 1946 yn dilyn y rhodd o'r castell a'i thiroedd gan Iarll Plymouth, agorodd yn swyddogol ym 1948. Peate oedd y curadur cyntaf, ac fe'i olynwyd gan Trefor M. Owen.
Cynlluniwyd prif adeilad yr amgueddfa gan Dale Owen, yn gweithio ar gyfer Partneriaeth Percy Thomas, ac fe'i adeiladwyd rhwng 1968 a 1974.[1] Enillodd y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 1978.[2]
Adeiladau yn Amgueddfa Werin Cymru
[golygu | golygu cod]Digwyddiadau
[golygu | golygu cod]Mae'r amgueddfa wedi cynnal yr "Everyman Open Air Theatre Festival" (a ddechreuodd ym 1983) ers 1996,[13] pan symudwyd yno o Erddi Dyffryn ger Casnewydd. Mae'r ŵyl yn cynnwys drama Shakespeare, cynhyrchiad gerddorol a sioe ar gyfer y teulu, ac mae wedi dod yn rhan elfennol o galendr theatr yng Nghymru dros y 25 mlynedd diwethaf.
Ffilmwyd y rhan fwyaf o benodau Doctor Who "Human Nature" a "The Family of Blood" yn Sain Ffagan. Ffilmiwyd penodau Poldark yno hefyd.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- ↑ Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 559.CS1 maint: ref=harv (link)
- ↑ Medal Aur am Bensaerniaeth. Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 3 Awst 2015.
- ↑ Adeiladau Hanesyddol. Amgueddfa Werin Cymru.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Y Tuduriaid. Amgueddfa Werin Cymru.
- ↑ Symud eglwys ganoloesol i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
- ↑ Ysgubor Stryd Lydan, Amgueddfa Werin Cymru, 1 Mehefin 1951[dolen farw]. Casglu y Tlysau. Cyrchwyd 3 Mehefin 2010
- ↑ Beech, Gareth. Ffermydd Kennixton a Cilewent. Amgueddfa Cymru. Adalwyd ar 2 Rhagfyr 2013.
- ↑ Perthyn - St. Fagans Museum (Excerpt) | Scribd (Saesneg). Cyrchwyd 3 Mehefin 2010.
- ↑ Swyddfa Bost lleiaf Cymru yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
- ↑ Cartref parhaol ar gyfer tŷ dros dro: y pre-fab yn Sain Ffagan. Amgueddfa Cymru: Rhagor.
- ↑ House for the Future. Carpenter Oak & Woodland.
- ↑ Tŷ Gwyrdd. Amgueddfa Werin Cymru.
- ↑ Everyman Open Air Theatre Festival
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Achub Eglwys Sant Teilo - Ailgodi Adeilad Canoloesol; cyfrol gyda 100 o luniau lliw