T. H. Parry-Williams

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Thomas Herbert Parry-Williams)
Neidio i: llywio, chwilio
T. H. Parry-Williams
Ganwyd 21 Medi 1887 Edit this on Wikidata
Rhyd-Ddu Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata (87 oed)
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Alma mater Coleg yr Iesu, Prifysgol Paris, Prifysgol Aberystwyth Edit this on Wikidata
Gwaith Bardd, awdur, awdur Edit this on Wikidata
Priod Amy Parry-Williams Edit this on Wikidata

Bardd, ysgrifwr, ysgolhaig ac athro prifysgol oedd Thomas Herbert Parry-Williams (21 Medi 1887 - 3 Mawrth 1975). Mae'n cael ei adnabod yn aml fel T.H. Parry-Williams neu T.H.. Ef yw awdur y gerdd enwog 'Hon'.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed T.H. Parry-Williams yn Rhyd-ddu, Arfon, lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr; ysgrifennodd soned enwog i 'Dŷ'r Ysgol'. Roedd yn gefnder i'r bardd R. Williams Parry a'r ysgolhaig Thomas Parry. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1908, ac yna cymerodd radd arall, mewn Lladin, y flwyddyn wedyn. Aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen ac yna i Brifysgolion Freiburg a Pharis i astudio ymhellach. Cymerodd safiad fel wrthwynebydd cydwybodol yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth ym 1920, ac ar ôl ymddeol ym 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth ym 1975.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond ym 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ag astudiaethau academaidd.

Roedd yr ysgrif, ffurf gymharol newydd yn y Gymraeg, yn bwysig ganddo ac ymhlith ei gasgliadau ceir Ysgrifau (1928), Olion (1935), Lloffion (1942), O'r Pedwar Gwynt (1944), Myfyrdodau (1957) a Pensynnu (1966). Casglwyd y cyfan o'i ysgrifau at ei gilydd ym 1984.

Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: Cerddi (1931), Olion (1935), Synfyfyrion (1937), Ugain o Gerddi (1949) a Myfyrdodau (1957). Cyhoeddwyd Detholiad o Gerddi ym 1972 a Casgliad o Gerddi ym 1987.

Ymwneud â bywyd mae ei gerddi fynychaf: mae diffyg ystyr bywyd i'w weld fel thema drwyddynt. Ef yw "brenin y soned Gymraeg"; dyma enghraifft allan o'r gerdd 'Llyn y Gadair':

Ymweliad â Rhyd-Ddu, bro T. H. Parry-Williams, ffotograff gan Geoff Charles
Ni wêl y teithiwr talog mono bron
Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
Fel adyn ar gyfeilorn, neu fel gŵr
Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan...

gan ddiweddu gyda'r cwpled canlynol sy'n dweud nad oedd dim yno:

Dim byd ond mawnog a'i boncyffion brau,
Dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Emiah Jane Thomas yn Awst 1942.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Barddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddwyd y cerddi i gyd yn y gyfrol Casgliad o Gerddi ym 1987.

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ystorïau Bohemia. Cyfres y Werin.
  • Chwech o ganeuon enwog Schubert
  • Chwech o ganeuon enwog Brahms

Ysgrifau[golygu | golygu cod y dudalen]

DS Mae rhai o'r cyfrolau hyn yn cynnwys adran o gerddi hefyd.

Cyhoeddwyd yr ysgrifau i gyd yn y gyfrol Ysgrifau T.H. Parry-Williams (1984)

Ysgholheictod[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The English element in Welsh (1923)
  • (cyd-olygydd) Llawysgrif Hendregadredd
  • (golygydd) Carolau Richard White (1931)
  • (golygydd) Llawysgrif Richard Morris o Gerddi
  • (golygydd) Canu Rhydd Cynnar (1932)
  • (golygydd) Pedair Cainc y Mabinogi. Diweddariad.
  • Elfennau Barddoniaeth
  • (golygydd) Hen Benillion (1940)
  • (golygydd) Ystorïau Heddiw

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]