Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Data cyffredinol
AwdurBleddyn Owen Huws
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiHydref 2018
PwncAstudiaethau Llenyddol
Argaeleddmewn print
ISBN9781784616281
GenreLlenyddiaeth Gymraeg

Astudiaeth o fywyd a gwaith o'r llenor T. H. Parry-Williams gan Bleddyn Owen Huws yw Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2018. Yn 2020 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl broliant y llyfr hwn (2018):

Dyma gyfrol ddadlennol sy'n bwrw golwg newydd ar fywyd a gwaith un o'r beirdd a'r llenorion Cymraeg enwocaf … Am y tro cyntaf ceir darlun cyflawn ohono fel gwrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Mawr, yr erlid a fu arno oherwydd a ddaliadau personol, a'r effaith a gofodd hynny ar ei yrfa. Datgelir hefyd lawer mwy am ei fywyd personol, ei bethynas â Dr Gwen Williams a'i ddiddordeb ysol mewn meddygaeth.

Dyma adolygiad byr gan Derec Llwyd Morgan:

Ym mis Medi 1919, penderfynodd Cyngor Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth na allai dderbyn argymhelliad y Pwyllgor Penodi a chynnig Cadair y Gymraeg i T. H. Parry-Williams, a chytunwyd y câi’r swydd ei ailhysbysebu ymhen y flwyddyn. Cafwyd gwrthwynebiad croch i’r bwriad i benodi Parry-Williams ar draul yr ymgeisydd arall, Timothy Lewis; bu’r blaenaf yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y Rhyfel Mawr a oedd newydd ddod i ben, tra dewisodd yr ail wirfoddoli a chymryd rhan weithredol yn y brwydro.

Y mae hon yn saga gyfarwydd yn hanes Coleg Aberystwyth. Cyfraniad neilltuol Bleddyn Owen Huws yn yr astudiaeth hon yw ystyried y digwyddiadau yn fwy trylwyr nag y gwnaed erioed o’r blaen, a hynny yng ngoleuni ffynonellau cyhoeddus a phreifat. Tynnwyd ar bapurau a chofnodion pwyllgorau’r Coleg ac ar ohebiaeth bersonol y prif chwaraewyr, a oedd yn cynnwys yr hen "gadno braf" J. H. Davies, Cofrestrydd ac yna Prifathro’r Coleg; yr ymgeiswyr; aelodau’r Pwyllgor Penodi, a Beriah Gwynfe Evans, tad yng nghyfraith a chefnogwr mwyaf brwd Timothy Lewis. Trafodwyd y penodiad yn faith yn y wasg yn ogystal.

Gosodir yr elyniaeth tuag at Parry-Williams a’r erlid a fu arno yn eu cyd-destun trwy ymdrin â’r modd y sicrhaodd propaganda’r llywodraeth fod y cyhoedd yn cefnogi ac yn hyrwyddo’r rhyfel ac ar yr un pryd yn ffieiddio’r Almaenwyr a’r gwrthwynebwyr cydwybodol fel ei gilydd. Er enghraifft, yn 1917 llwyddwyd mewn dim o dro i godi £76 y pen ar gyfartaledd yn Aberystwyth i gefnogi achos y rhyfel. Gosodir penderfyniad Parry-Williams i wrthod ymladd ochr yn ochr â pharodrwydd cynifer o aelodau o’i deulu i wirfoddoli. Trafodir yn fanwl ei ymddangosiad gerbron y tribiwnlysoedd, ond gan bwysleisio hefyd mai cyndyn iawn fu Parry-Williams i drafod natur ei wrthwynebiad i’r rhyfel fel mai anodd gwybod i sicrwydd ar ba dir y gwnaeth ei safiad.

Pan benderfynodd Cyngor y Coleg oedi a gohirio, cefnodd Parry-Williams ar ei swydd yn Adran y Gymraeg a threuliodd flwyddyn yn astudio pynciau gwyddonol fel sylfaen ar gyfer ymgymhwyso’n feddyg. Unwaith eto, dyma bennod yn ei fywyd y llwyddir i daflu goleuni newydd a gwerthfawr arni. Datgelir ymhellach, a hynny am y tro cyntaf, ei fod wedi dwysystyried ailgydio yn ei astudiaethau meddygol bymtheng mlynedd wedi ei benodiad gohiriedig yn Athro yn 1920. Dangosir, ar sail y llyfrau a brynai ac a astudiai yn ystod y blynyddoedd hyn, na chefnodd yn llwyr ar ei awydd i fod yn feddyg, a chynigir ymhellach fod a wnelo ei garwriaeth â Dr Gwen Williams, meddyg teulu a hanai o Drawsfynydd, â’i gynlluniau.

Astudiaeth yw hon sy’n cynnig goleuni gwreiddiol a chyffrous ar ddwy bennod ym mywyd T. H. Parry-Williams, a’r goleuni hwnnw yn ei dro yn sylfaen i ddehongli rhai o’r cerddi (Cymraeg a Saesneg) a’r ysgrifau mewn ffordd newydd a threiddgar.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 22 Medi 2020
  2. Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.
Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.