T. H. Parry-Williams

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o T. H. Parry Williams)
T. H. Parry-Williams
Ganwyd21 Medi 1887 Edit this on Wikidata
Rhyd-ddu Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadHenry Parry-Williams Edit this on Wikidata
PriodAmy Parry-Williams Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Bardd, ysgrifwr, ysgolhaig ac athro prifysgol oedd Thomas Herbert Parry-Williams (21 Medi 18873 Mawrth 1975). Mae'n cael ei adnabod yn aml fel T. H. Parry-Williams neu T.H.. Ef yw awdur y gerdd enwog "Hon".

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed T. H. Parry-Williams yn Rhyd-ddu, Arfon, lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr; ysgrifennodd soned enwog i 'Dŷ'r Ysgol'. Roedd yn gefnder i'r bardd R. Williams Parry a'r ysgolhaig Thomas Parry. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1908, ac yna cymerodd radd arall, mewn Lladin, y flwyddyn wedyn. Aeth i Goleg yr Iesu, Rhydychen ac yna i Brifysgolion Freiburg a Pharis i astudio ymhellach. Cymerodd safiad fel wrthwynebydd cydwybodol yn erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth ym 1920, ac ar ôl ymddeol ym 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth ym 1975.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Emiah Jane Thomas yn Awst 1942.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond ym 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ag astudiaethau academaidd.

Roedd yr ysgrif, ffurf gymharol newydd yn y Gymraeg, yn bwysig ganddo ac ymhlith ei gasgliadau ceir Ysgrifau (1928), Olion (1935), Lloffion (1942), O'r Pedwar Gwynt (1944), Myfyrdodau (1957) a Pensynnu (1966). Casglwyd y cyfan o'i ysgrifau at ei gilydd ym 1984.

Cyhoeddodd y cyfrolau canlynol: Cerddi (1931), Olion (1935), Synfyfyrion (1937), Ugain o Gerddi (1949) a Myfyrdodau (1957). Cyhoeddwyd Detholiad o Gerddi ym 1972 a Casgliad o Gerddi ym 1987.

Ymwneud â bywyd mae ei gerddi fynychaf: mae diffyg ystyr bywyd i'w weld fel thema drwyddynt. Ef yw "brenin y soned Gymraeg"; dyma enghraifft allan o'r gerdd 'Llyn y Gadair':

Ymweliad â Rhyd-Ddu, bro T. H. Parry-Williams, ffotograff gan Geoff Charles
Ni wêl y teithiwr talog mono bron
Wrth edrych dros ei fasddwr ar y wlad.
Mae mwy o harddwch ym mynyddoedd hon
Nag mewn rhyw ddarn o lyn, heb ddim ond bad
Pysgotwr unig, sydd yn chwipio'r dŵr
A rhwyfo plwc yn awr ac yn y man,
Fel adyn ar gyfeilorn, neu fel gŵr
Ar ddyfroedd hunlle'n methu cyrraedd glan...

gan ddiweddu gyda'r cwpled canlynol sy'n dweud nad oedd dim yno:

Dim byd ond mawnog a'i boncyffion brau,
Dau glogwyn, a dwy chwarel wedi cau.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ceir llyfryddiaeth gynhwysfawr gan David Jenkins yng Nghyfrol Deyrnged Syr Thomas Parry-Williams (1967).

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd y cerddi i gyd yn y gyfrol Casgliad o Gerddi T.H. Parry-Williams (Gwasg Gomer, 1987).

Ysgrifau[golygu | golygu cod]

DS Mae rhai o'r cyfrolau hyn yn cynnwys adran o gerddi hefyd.

Cyhoeddwyd yr ysgrifau i gyd yn y gyfrol Casgliad o Ysgrifau T.H. Parry-Williams (Gwasg Gomer, 1984).

Ysgholheictod[golygu | golygu cod]

  • Some Points of Similarity in the Phonology of Welsh and Breton (Paris: Honoré Champion, 1913)
  • The English Element in Welsh: A Study of the Loan-Words in Welsh (Llundain: Honourable Society of Cymmrodorion, 1923)
  • (golygydd) Carolau Richard White (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1931)
  • (golygydd) Llawysgrif Richard Morris o Gerddi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1931)
  • (golygydd) Canu Rhydd Cynnar (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1932)
  • (cyd-olygydd) Llawysgrif Hendregadredd (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1933)
  • Elfennau Barddoniaeth (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1935)
  • (golygydd) Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1937)
  • (golygydd) Ystorïau Heddiw (Aberystwyth: Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1938)
  • (golygydd) Hen Benillion (Llandysul: Clwb Llyfrau Cymreig, 1940)
  • Welsh Poetic Diction (Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1947)
  • (golygydd) Y Bardd yn ei Weithdy: Ysgyrsiau gyda Beirdd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1948)

Cyfieithiadau[golygu | golygu cod]

  • Ystorïau Bohemia, Cyfres y Werin 6 (Caerdydd: Y Cwmni Cyhoeddi Addysgol, [1921])
  • Chwech o Ganeuon Enwog Schubert (Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1936)
  • Chwech o Ganeuon Enwog Brahms (Llundain: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1937)
  • Faust (Gounod): Opera Bum Act (Llangollen: Cwmni Cyhoeddi Gwynn, dros Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ?1945)
  • Elijah / Elias (Merthyr Tudful: Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, ?1950)

Astudiaethau[golygu | golygu cod]