Cadog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Sant Cadog)
Jump to navigation Jump to search
Cadog
Saint Cado.JPG
Delw o Sant Cadog, yn Belz yn Llydaw.
Ganwyd 6G Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw 580 Edit this on Wikidata (79 oed)
Benevento Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth mynach Edit this on Wikidata
Blodeuodd 450 Edit this on Wikidata
Swydd esgob, abad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 24 Ionawr Edit this on Wikidata
Tad Gwynllyw Edit this on Wikidata
Mam Santes Gwladys Edit this on Wikidata

Roedd Sant Cadog, weithiau Catwg (neu Catwg Ddoeth yn ffugiadau Iolo Morgannwg), yn un o'r pwysicaf o'r seintiau Cymreig yn y 6g. Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Llancarfan ym Mro Morgannwg.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennwyd Buchedd Cadog tua 1100 gan Lifris o Lancarfan in circa 1100, c ysgrifennwyd un arall o waith Caradog o Lancarfan rai blynyddoedd yn ddiweddarach. Nid oes llawer o werth hanesyddol iddynt, ond dywedir fod Cadog yn fab i Gwynllyw, brenin Gwynllwg yn ne Cymru, brawd Sant Pedrog. Dywedir i Gwnllyw gipio buwch yn perthyn i'r mynach Gwyddelig Sant Tathyw, a phan ddaeth Tathyw ato i hawlio ei fuwch yn ôl, penderfynodd Gwynllyw roi ei fab iddo i'w addysgu.

Bu Cadog yn efengylu yng Nghymru a Llydaw, ac mae nifer sylweddol o eglwysi a chysylltiad ag ef yn y ddwy wlad, er enhraifft Llangadog yn Sir Gaerfyrddin, Belz, Locoal-Mendon a Gouenac'h yn Llydaw. Dywedir iddo hefyd adeiladu mynachlog yn yr Alban islaw "Mynydd Bannauc" (yn ôl y farn gyffredinol, i'r de-orllewin o Stirling). Yn ôl ei fuchedd aeth ar brererindod i Rufain a Jerusalem, a daeth i wrthdrawiad a'r Brenin Arthur ac a Maelgwn Gwynedd. Dywedir iddo dreulio cyfnod yn byw fel meudwy gyda Gildas ar ynys ym mae Morbihan yn Llydaw.

Ffugiadau Iolo Morganwg[golygu | golygu cod y dudalen]

Tadogodd yr hynafiaethydd a ffugiwr traddodiad enwog Iolo Morgannwg gyfres o drioedd diarebol a dywediadau ar Sant Cadog/Catwg dan yr enw "Trioedd Catwg Ddoeth".

Gŵyl mabsant[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei ddydd gŵyl yw 24 Ionawr (ac weithiau ar y 25 Ionawr).[1] Gelwir arno i iachau byddardod.

Eglwysi[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr Wicidata:


# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Eglwys Sant Cado, Llydaw
Chapelle de Careil.JPG
47°17′48″N 2°24′11″W / 47.296667°N 2.403056°W / 47.296667; -2.403056 Gwenrann Q2957167
2 Eglwys Sant Cadog
St Cadoc's church, Llangattock-Juxta-Usk - geograph.org.uk - 1432193.jpg
51°46′53″N 2°58′20″W / 51.7815°N 2.97216°W / 51.7815; -2.97216 Sir Fynwy Q17744068
3 Eglwys Sant Cadog
St. Cadog's church Raglan - geograph.org.uk - 1385702.jpg
51°45′53″N 2°51′05″W / 51.7647°N 2.85141°W / 51.7647; -2.85141 Rhaglan Q5117381
4 Eglwys Sant Cadog
St Cadoc's Church, Caerleon - geograph.org.uk - 1252544.jpg
51°36′39″N 2°57′19″W / 51.6107°N 2.9554°W / 51.6107; -2.9554 Casnewydd Q7401071
5 Eglwys Sant Cadog
South side of St Cadog Parish Church, Llangadog - geograph.org.uk - 3331830.jpg
51°56′22″N 3°53′00″W / 51.9395°N 3.88347°W / 51.9395; -3.88347 Sir Gaerfyrddin Q17742799
6 Eglwys Sant Cadog, Cheriton, Abertawe
Cheriton Church - geograph.org.uk - 873482.jpg
51°36′58″N 4°14′22″W / 51.6161°N 4.23948°W / 51.6161; -4.23948 Abertawe
Llangynydd, Llanmadog a Cheriton
Q17743651
7 Eglwys Sant Cadog, Glyn Nedd
St Cadoc's Church Aberpergwm - geograph.org.uk - 600062.jpg
51°44′33″N 3°38′18″W / 51.7425°N 3.6383°W / 51.7425; -3.6383 Aberpergwm Q17740083
8 Eglwys Sant Cadog, Llangatwg Lingoed
Church of St. Cadoc, Llangattock Lingoed - geograph.org.uk - 441187.jpg
51°52′32″N 2°55′44″W / 51.8755°N 2.92886°W / 51.8755; -2.92886 Llangatwg Lingoed Q5117380
9 Eglwys Sant Cadog, Pendoylan
Pendoylan church - geograph.org.uk - 2529368.jpg
51°28′53″N 3°21′19″W / 51.4813°N 3.35522°W / 51.4813; -3.35522 Y Bont-faen Q17722609
10 Eglwys Sant Cadog, Trefddyn
St Cadoc's Church, Trevethin - geograph.org.uk - 399101.jpg
51°42′44″N 3°02′17″W / 51.712189°N 3.037995°W / 51.712189; -3.037995 Trefddyn Q25999200
11 Eglwys Sant Cadog, Tregatwg
St Cadoc's church, Cadoxton-geograph.org.uk-2294004.jpg
51°24′59″N 3°15′09″W / 51.4164°N 3.25257°W / 51.4164; -3.25257 Bro Morgannwg Q17744116
12 Eglwys Sant Cadwg
Llanspyddid - geograph.org.uk - 206291.jpg
51°56′36″N 3°26′20″W / 51.943333333333°N 3.4388888888889°W / 51.943333333333; -3.4388888888889 Powys Q29485886
13 Eglwys Sant Catwg
Llangattock, St Catwgs Church - geograph.org.uk - 1432331.jpg
51°51′14″N 3°08′50″W / 51.8539°N 3.14709°W / 51.8539; -3.14709 Powys Q17740423
14 Eglwys Sant Catwg
The Parish Church of St. Catwg - Llangatwg - geograph.org.uk - 204974.jpg
51°40′20″N 3°48′02″W / 51.6721°N 3.80049°W / 51.6721; -3.80049 Castell-nedd Port Talbot Q17739556
15 Eglwys Sant Catwg
Llangattock-Vibon-Avel church - geograph.org.uk - 247457.jpg
51°50′13″N 2°47′24″W / 51.837°N 2.7901°W / 51.837; -2.7901 Sir Fynwy Q17743968
16 Eglwys Sant Catwg
Llanmaes Church - panoramio (2).jpg
51°24′55″N 3°28′01″W / 51.4152°N 3.46707°W / 51.4152; -3.46707 Bro Morgannwg Q17744228
17 Eglwys Sant Catwg
Cwmcarvan Church.jpg
51°45′49″N 2°45′31″W / 51.7637°N 2.75853°W / 51.7637; -2.75853 Sir Fynwy Q17744316
18 Eglwys Sant Catwg
St Cattwg's church, Gelligaer - geograph.org.uk - 429640.jpg
51°39′52″N 3°15′04″W / 51.664485°N 3.2511639°W / 51.664485; -3.2511639 Gelli-gaer Q29502466
19 Eglwys y Plwyf, Llangadog, Llancarfan
Llancarfan, St Cadoc (35873785235).jpg
51°25′22″N 3°21′57″W / 51.4228°N 3.36591°W / 51.4228; -3.36591 Bro Morgannwg Q17743863
20 Tregatwg
Cadoxton, Barry - geograph.org.uk - 270956.jpg
51°25′N 3°15′W / 51.42°N 3.25°W / 51.42; -3.25 Bro Morgannwg Q13132002
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • E.G. Bowen Saints, seaways and settlements in the Celtic lands (Gwasg Prifysgol Cymru, 1969)
  1. oxfordindex.oup.com; adalwyd 24 Ionawr 2017.