Robert Peel
Robert Peel | |
---|---|
Ganwyd | 5 Chwefror 1788 Ramsbottom |
Bu farw | 2 Gorffennaf 1850 Westminster |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, casglwr celf |
Swydd | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Arweinydd yr Wrthblaid, Canghellor y Trysorlys, Ysgrifennydd Cartref, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Ysgrifennydd Cartref, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, Arweinydd yr Wrthblaid, Arweinydd yr Wrthblaid |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Robert Peel |
Mam | Ellen Yates |
Priod | Julia Peel |
Plant | Arthur Peel, Robert Peel, William Peel, Julia Child-Villiers, Frederick Peel, John Floyd Peel, Eliza Peel |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Sylfaenydd y Blaid Geidwadol fodern yn Lloegr oedd Syr Robert Peel (5 Chwefror 1788 – 2 Gorffennaf 1850), Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1834, ac Ebrill 1835 a rhwng Awst 1841, a Mehefin 1846.
Fel Ysgrifennydd Cartref creodd Heddlu Metropolitan, Llundain yn 1829 (heddlu ffurfiol cyntaf Prydain). Gyda Dug Wellington diddymodd y Deddfau Penyd gan Ryddfreinio Catholigion yn 1829. Ail-greodd y blaid Dorïaid (a elwir yn y Blaid Geidwadol yn gynyddol) yn dilyn trechiad etholiadol 1832, gan Ddiddymu'r Deddfau Ŷd yn 1845 yn ystod ei ail-weinidogaeth. Trechwyd gan ei blaid ei hun dros y mater, gan arwain i'w ymddiswyddiad yn 1846 a rhwyg yn y blaid Geidwadol. Cymaint oedd ei ddylanwad, yn aml elwir y cyfnod rhwng Deddf Diwygio 1832 a'i ymddiswyddiad fel Prif Weinidog yn 1846 yn Oes Peel, er iddo fod yn Brif Weinidog am ond pum mlynedd yn gyfan gwbl.[1]
Cefndir a blynyddoedd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd yn Chamber Hall, Bury, Swydd Gaerhirfryn, ar 5 Chwefror 1788, yn drydydd mab i'w dad, hefyd o'r enw Robert Peel, AS Torïaidd a oedd yn gyfrifol am Deddf Ffactori yn 1802. Diwydianwyr oedd ei deulu, a chafodd ei ddisgrifio gyda chryn snobyddiaeth gan Dug Wellington fel dyn o "low birth and vulgar manners."
I geisio gwrthdroi'r fath syniadau, megis nifer o blant nouveau riche eraill oedd yn ceisio esgyn ym myd y tirfeddianwyr traddodiadol, anfonwyd fab i ysgol fonedd Harrow yn 1800. Dechreuodd ei astudiaethau yng ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen yn 1805 lle daeth yn fyfyriwr galluog. Erbyn 1809 – ar argymhellant Arthur Wellesley, yr un dyn a ddaeth i fod y Dug Wellington a ddisgrifiodd dras Peel mor snobyddlyd – roedd yn aelod seneddol â sedd Gwyddelig Ddinas Cashel, bwrdeistref ag ond dau ddeg pedwar o bleidleisiwr. Dyma oedd dechreuad dau thema pwysig ym mywyd Peel – ei bartneriaeth â'r Dug Wellington a chysylltiad ei yrfa wleidyddol i Iwerddon.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Nid oedd pleidiau gwleidyddol ffurfiol i'w cael ym mlynyddoedd cynnar y 19g, ond roedd dwy brif garfan yn y Senedd, sef y Chwigiaid a'r Torïaid. Er bod y ddwy garfan yn geidwadol iawn wrth safonau heddiw, roedd y Chwigiaid fel arfer yn fwy cefnogol i newid. Roedd yn Torïaid yn canolbwyntio'n draddodiadol ar amddiffyn Eglwys Loegr rhag Catholigiaeth ac Anghydffurfiaeth, ac ar amddiffyn buddiannau tirfeddianwyr cefn gwlad rhag masnachwyr y trefi. Credodd Robert Peel bod rhaid i hyn newid er mwyn i Dorïaeth oroesi.
Yn 1829, fe gafodd ei wrthdrawiad cyhoeddus cyntaf gyda'i gyd-Dorïaid - arwydd o gwrs dyfodol ei yrfa. Yn y flwyddyn honno, Peel a lywiodd y Mesur Rhyddfreinio Catholigion trwy'r Senedd, gan ganiatáu i Gatholigion ddod yn Aelodau Seneddol am y tro cyntaf. Roedd llawer o'i gyd-Dorïaid yn gweld hyn yn frad ac yn ergyd i oruchfiaeth Eglwys Loegr. Roedd rhai yn cyhuddo Peel o fradychu ei egwyddorion personol trwy gyflwyno'r Mesur, gan ei fod wedi'i wrthwynebu am ugain mlynedd. Yn wir, cymaint oedd ei ei wrth-Gatholigaeth ar un adeg nes iddo ennill y llysenw "Organge Peel" (cyfeiriad at yr Urdd Oren Protestanaidd). Ond roedd cefnogaeth fawr i'r Mesur yn Iwerddon (rhan o'r Deyrnas Unedig ar y pryd) lle roedd 80% o'r boblogaeth yn Gatholigion.
Trwy Faniffesto Tamworth yn 1834, fe osododd yn ffurfiol seiliau ei Geidwadaeth newydd, a fyddai'n cydnabod buddiannau llawer ehangach na'r hen Dorïaeth. Yn y ddogfen hon, fe dderbynniodd Ddeddf Ddiwygio 1832 - y Great Reform Act - y ddeddf a roddodd y bleidlais i ddosbarth canol y trefi. Newid mawr iawn oedd hwn o bolisi blaenorol y Torïaid, er bod Peel yn credu nad oedd dim angen estyn y bleidlais ymhellach, ac roedd e'n hollol wrthwynebus i ddemocratiaeth.
Dywedodd hefyd ym Maniffesto Tamworth ei fod am gytbwyso buddiannau amaeth, masnach a diwydiant, newid mawr arall o hen bwyslais y Torïaid ar y landed interest.
Ymhlith ei waith pwysicaf fel Prif Weinidog roedd deddf yn 1842 i wahardd menywod a phlant rhag gweithio dan ddaear yn y pyllau, a deddf yn 1844 yn lleihau oriau gwaith gweithwyr y ffatrïoedd. At hynny, fe dynnodd tua chant o droseddau oddi ar y rhestr o bethau y gallai rhywun gael ei grogi amdanynt - cyn hynny roedd smalio bod yn un o Bensiynwyr Chelsea yn gallu arwain at y gosb eithaf.
Cadarnhaodd Peel yn 1846 na fyddai'r Geidwadaeth newydd yn was bach i'r tirfeddianwyr pan ddileuodd y Deddfau Ŷd. Roedd y deddfau hyn yn symbol o rym tirfeddianwyr cefn gwlad, gan warantu pris uchel am ŷd, ac arwain felly, yn ôl rhai, at fara drud i bobl y trefi.
Mae hefyd yn nodedig am greu Heddlu Llundain - y Metropolitan Police - yn 1829, yr heddlu ffurfiol cyntaf ym Mhrydain. Roedd y plismyn cyntaf weithiau'n cael eu galw'n Peelers neu Bobbies ar ei ôl e.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]
|
- Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig
- Arweinwyr y Blaid Geidwadol (DU)
- Cangellorion y Trysorlys
- Genedigaethau 1788
- Gwleidyddion y 19eg ganrif o Loegr
- Gwleidyddion y Blaid Geidwadol (DU)
- Marwolaethau 1850
- Pobl fu farw mewn damweiniau marchogaeth
- Pobl o Swydd Gaerhirfryn
- Prif Weinidogion y Deyrnas Unedig
- Ysgrifenyddion Cartref