Richard Prichard (gweinidog Wesleaidd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Prichard
Ganwyd 31 Mawrth 1811 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Mai 1882 Edit this on Wikidata (71 oed)
Y Rhyl Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd Richard Prichard (31 Mawrth, 1811 -12 Mai, 1882) yn weinidog Wesleaidd Cymreig, yn olygydd ac yn awdur. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Prichard ym Mangor yr hynaf o naw plentyn John Pritchard, hwsmon ar ystâd Perfeddgoed a Jane Griffith ei wraig. [2] Cafodd ei fedyddio yn Ebeneser, Capel Annibynwyr Bangor ar 3ydd Ebrill 1811 gan y Parch Arthur Jones. [3] Cafodd ei addysgu mewn ysgolion dydd preifat yn y ddinas. Er bod ei dad yn aelod o enwad yr Annibynwyr a'i fan yn Fethodist Calfinaidd, mynychai Richard ysgol Sul y Wesleaid. [4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd pregethu mewn oedfa yn Llanllechid ar 25 Tachwedd, 1827, yn ddim ond 16 mlwydd oed. Wedi cael ychydig o brofiad pregethu o dan arolygiaeth rhai profiadol cafodd ei dderbyn fel pregethwr cynorthwyol cyflawn ar y mis canlynol ar 31 Rhagfyr, 1827. Yn fuan profodd yn bregethwr poblogaidd iawn gan dderbyn galwadau i bregethu mor bell i ffwrdd a Lerpwl, Caergybi a Machynlleth. I hogyn ifanc heb ddigon o olud i brynu ceffyl, bu cerdded i oedfaon mor bell i ffwrdd yn dipyn o gamp. [5]

Ym 1829 cafodd gwahoddiad i fynd ar daith bregethu byddai'n cynnwys pregethu yn Harlech, Abermaw, Dolgellau, Machynlleth a llefydd eraill ym Meirionnydd a Sir Drefaldwyn. Tra ar y daith cafodd gwahoddiad i fod yn bregethwr cyflogedig ar gylchdaith (ardal gwasanaeth gweinidogion Wesla yn cynnwys nifer o gapeli) Aberystwyth a Machynlleth. Derbyniodd y cynnig ac ymhen tri mis ar 31 Mawrth 1830 rhoddodd y gylchdaith ei enw ymlaen fel un deilwng i fod yn ymgeisydd i'r weinidogaeth. Yng nghynhadledd Daleithiol de Cymru o'r enwad rhoddodd Prichard pregeth brawf a chafodd ei arholi gan gynrychiolydd Cynhadledd y Methodistiaid a chael ei dderbyn yn ymgeisydd i'r weinidogaeth ar 31 Mehefin 1830. Fe gafodd ei ordeinio yn weinidog yn y Gynhadledd Fethodistaidd a gynhaliwyd yn Lerpwl ym 1832 a chafodd ei ddanfon i Gylchdaith Caerdydd i ddechrau ar ei weinidogaeth. [6] Yn ôl trefn yr enwad yn hytrach na chadw un capel am flynyddoedd, roedd ei weinidogion yn newid eu cylchdaith yn aml gan aros yn yr un ardal am gyfnod o rhwng blwyddyn a thair blwydd. Gwasanaethodd Prichard ar Gylchdeithiau:

  • Caerdydd (1832-3),
  • Dolgellau (1834-5)
  • Caernarfon (1836)
  • Llanrwst ac Abergele (1837-9)
  • Llanfair Caereinion (1840-2),
  • Yr Wyddgrug (1843-4)
  • Dolgellau (1845-7)
  • Llanfyllin (1848-50). Yn Llanllyfni fe'i penodwyd yn Arolygydd am y tro cyntaf, sef y blaenaf ymysg gweinidogion y gylchdaith. Bu'n arolygydd pob cylchdaith arall y bu'n gwasanaethu ynddi wedi hynny.
  • Biwmares (1851)
  • Lerpwl (1852-4)
  • Rhuthun (1855-7)
  • Yr Wyddgrug (1858-60)
  • Coedpoeth (1861-2)
  • Lerpwl ( 1863-5)
  • Caernarfon (1866-8)
  • Y Rhyl (1869-71),
  • Conwy (1872)

Ymddeol i'r Rhyl ym 1873 fel uwchrifiad (gweinidog Wesleaidd wedi ymneilltuo ond sy'n parhau ar hawl i gyflawni gwaith gweinidog megis pregethu, rhannu'r cymyn cynnal bedyddiadau, priodasau, angladdau ac ati). [7]

Llenor[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyhoeddodd Prichard nifer o bamffledi yn ystod ei oes. Y cyntaf oedd cyfieithiad o ddau o Bregethau'r Dr Adam Clerk, un o fawrion Saesneg y Wesleaid, ym 1831. Ym 1835 cyhoeddodd 1,200 o rifynnau o bregeth ei hun am Etholedigaeth Gras. Cyhoeddodd nifer fawr o bamffledi tebyg. Ei chyhoeddiad pwysicaf oedd Yr Holwyddorydd Duwinyddol, llyfr o gwestiynau ac atebion am faterion crefyddol. Roedd plant yr ysgol Sul yn dysgu'r cwestiynau a'r atebion ar eu cof, fel bod ateb parod ganddynt i unrhyw feirniad o'u ffydd. Cyhoeddwyd yr Holwyddorydd gyntaf ym 1857 aeth i nifer o ailargraffiadau ac fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg ym 1875. Roedd yr Holwyddorydd yn dal i gael ei ddefnyddio mewn ysgolion Sul hyd y 1970au. Ysgrifennodd cyfrol olynol i'r Holwyddorydd Duwinyddol ym 1866 sef Yr Holwyddorydd Hanesyddol, ond ni phrofodd mor llwyddiannus â'i rhagflaenydd. Bu'n olygydd Y Winllan, cylchgrawn ieuenctid y Wesleaid a bu'n cyfrannu erthyglau yn rheolaidd i'r Eurgrawn Wesleyaidd. Ceir cofiant iddo mewn deg rhan yn yr Eurgrawn rhwng Hydref 1886 a Gorffennaf 1887.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1837 priododd Jane Richards, Bont Newydd, Meifod, cawsant bedwar o blant.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn y Rhyl wedi bod yn ddioddef am sawl flwyddyn o "wendid y gyfundrefn gieuol" (sef wendid y system nerfol Anhwylder Parkinson, mae'n debyg). Roedd yn 71 mlwydd. Claddwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus Rhyl. Mae ei fedd yn agos iawn i fedd un arall o fawrion y Wesleaid, Y Parch Thomas Aubrey. [8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "PRICHARD, RICHARD (1811 - 1882), gweinidog Wesleaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-10.
  2. Yr Eurgrawn, Hydref 1886, Cofiant y Parch. Richard Prichard, Gweinidog Wesleaidd, gan y Parch Hugh Jones Rhan 1
  3. Yr Archif Genedlaethol RG4/3832 Cofrestrau Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Anghydffurfiol a ildiwyd i Gomisiynau Cofrestrau An-blwyfol 1837 a 1857
  4. "MARWOLAETH Y PARCH RICHARD PRICHARD - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1882-05-17. Cyrchwyd 2019-09-10.
  5. Yr Eurgrawn, Tachwedd 1886, Cofiant y Parch. Richard Prichard, Gweinidog Wesleaidd, gan y Parch Hugh Jones. Rhan 2
  6. Yr Eurgrawn, Rhagfyr 1886, Cofiant y Parch. Richard Prichard, Gweinidog Wesleaidd, gan y Parch Hugh Jones. Rhan 3
  7. Yr Eurgrawn, Gorffennaf 1887, Cofiant y Parch. Richard Prichard, Gweinidog Wesleaidd, gan y Parch Hugh Jones. Rhan 10
  8. "CLADDEDIGAETH Y PARCH RICHARD PRICHARD - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1882-05-24. Cyrchwyd 2019-09-10.