Rhyfel Somalia (2006–09)
Rhyfel Somalia (2006–09) | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o Ryfel Cartref Somalia a'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth | |||||||
Sefyllfa'r rhyfel yn Somalia, 28 Awst 2008 | |||||||
| |||||||
Cydryfelwyr | |||||||
Undeb y Llysoedd Islamaidd (ICU) Hizbul Shabaab |
Ethiopia Somalia : Unol Daleithiau America (trawiadau o'r awyr a phatrolau morol) | ||||||
Arweinwyr | |||||||
Yusuf Mohammed Siad Hasan Hersi |
Gabre Heard Abdullahi Yusuf Ahmed | ||||||
Nerth | |||||||
8000 o filwyr yr ICU Lluoedd honedig:[1] |
Somalia: Ethiopia: 3000-4000[6] AMISOM: 1600 (ers Mawrth; nod o 8000) | ||||||
Anafusion a cholledion | |||||||
8000 wedi'u lladd[7] 5000 wedi'u hanafu (yn ôl Ethiopia)[8][9] |
Ethiopia: ~1170 wedi'u lladd Somalia (TFG): 500 wedi'u lladd Wganda: 8 wedi'u lladd Cenia: 6 wedi'u lladd Bwrwndi: 1 wedi'i ladd | ||||||
Anafedigion a cholledigion sifiliaid: 9474 wedi'u lladd[10] 1.9 miliwn wedi'u dadleoli[11] |
Gwrthdaro arfog cyfredol sy'n amgylchynu'r brwydro dros reolaeth Somalia rhwng lluoedd y Llywodraeth Ffederal Drawsnewidol (TFG), sydd yn bennaf o Ethiopia a Somalia, ac Undeb y Llysoedd Islamaidd (ICU), grŵp fantell sy'n adlynu wrth ideoleg Islamiaeth, a milisiâu cysylltiedig oedd Rhyfel Somalia (2006–2009). Dechreuodd y rhyfel yn swyddogol rhywbryd cyn 20 Gorffennaf, 2006 pan oresgynnodd lluoedd Ethiopia Somalia er mwyn cynnal y TFG yn Baydhabo (Baidoa). Ar ôl hynny datganodd arweinydd yr ICU, Sheik Hassan Dahir Aweys, "mae Somalia mewn sefyllfa rhyfel, a dylai pob Somaliad gymryd rhan yn y frwydr hon yn erbyn Ethiopia". Ar 24 Rhagfyr, datganodd Ethiopia y bydd yn brwydro'n weithredol yn erbyn yr ICU.[12]
Amddiffyniad Ethiopia
[golygu | golygu cod]Dywedodd Prif Weinidog Ethiopia, Meles Zenawi, taw bygythiad uniongyrchol i'w ffiniau oedd y rheswm dros ran ei wlad yn y rhyfel. "Cafodd lluoedd amddiffyn Ethiopia eu gorfodi i ymuno â'r rhyfel er mwyn amddiffyn sofraniaeth y genedl", dywedodd. "Nid ydym yn ceisio sefydlu llywodraeth yn Somalia, ac nid ydym ychwaith yn bwriadu ymyrryd ym materion mewnol Somalia. Yr amodau sydd wedi ein gorfodi [i gymryd rhan yn y rhyfel]."[13]
Cymryd ochrau
[golygu | golygu cod]Bu'r ICU, oedd â rheolaeth dros ardaloedd arfordirol De Somalia, yn ymladd yn erbyn lluoedd TFG Somalia, a llywodraethau ymreolaethol rhanbarthol Puntland a Galmudug, oedd â chefnogaeth lluoedd Ethiopia. Dechreuodd ymladd dwys ar 20 Rhagfyr gyda Brwydr Baydhabo, pan fu ddarfod y terfyn amser un wythnos cafodd ei osod ar Ethiopia gan yr ICU ar 12 Rhagfyr i dynnu holl luoedd Ethiopia allan o'r wlad.[14] Ond gwrthododd Ethiopia i adael ei safleoedd o amgylch prifddinas dros dro y TFG, Baydhabo. Ar 29 Rhagfyr, yn dilyn nifer o frwydrau llwyddiannus, fe aeth lluoedd y TFG ac Ethiopia i fewn i Mogadishu heb fawr o wrthsafiad. Dywedodd y CU bod nifer o wledydd Arabaidd yn cynnwys Libya a'r Aifft yn cefnogi'r ICU trwy Eritrea. Ychydig wedyn, datganwyd fod nifer fach o luoedd arbennig Americanaidd wedi cynorthwyo lluoedd Ethiopia a'r TFG yn dilyn cwymp ac enciliad yr ICU trwy ddarparu cyngor milwrol a dilyn unigolion a ddrwgdybir o fod yn filwyr al-Qaeda. Roedd cefnogaeth yr UD at y TFG a chefnogaeth Arabaidd at yr ICU yn agweddau o'r gwrthdaro sy'n gwyro o gymhelliad canolog y rhyfel rhwng lluoedd cynghreiriol Ethiopia a'r TFG a lluoedd cynghreiriol yr ICU ac Eritrea.
2007 ymlaen
[golygu | golygu cod]Yn Ionawr 2007, dywedodd Ethiopia y bydd yn encilio'i lluoedd "o fewn ychydig o wythnosau"[15] ond mae'r TFG, yr UD, a swyddogion y CU yn gwrthwynebu hyn gan y bydd yn creu "gwactod diogelwch", tra bo'r ICU yn mynnu enciliad di-oed gan Ethiopia.
Fe drosgwlyddwyd datganiadau rhyfel a saethwyd bwledi o'r ddwy ochr ar nifer o achosion. Mae gwledydd Dwyrain Affrica a sylwedyddion rhyngwladol yn ofni y bydd gweithredoedd ymosodol Ethiopia yn arwain at ryfel rhanbarthol a fydd yn cynnwys Eritrea, gelyn hirdymor Ethiopia, a honnir gan Ethiopia o fod yn gefnogol i'r ICU.[16]
Daeth y rhyfel i ben erbyn Ionawr 2009, ar ôl i holl filwyr Ethiopia gadael Somalia.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Fighting erupts in northern Somalia as peace talks falter, says Islamic official. International Herald Tribune. Associated Press (6 Tachwedd, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Somali prime minister says government is surrounded. International Herald Tribune. Associated Press (11 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Yare, Hassan (13 Rhagfyr, 2006). Troops dig in as Somalia war fears grow. ReliefWeb. Reuters. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Mohamed, Guled (25 Rhagfyr, 2006). Ethiopian jets strike Somali airports. AlertNet. Reuters. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Ethiopia warns Somali Islamists. BBC (22 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Islamic threats follow Ethiopian troop advancement in Somalia. USA Today. Associated Press (26 Rhagfyr ,2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Ignatius, David (13 Mai, 2007). Ethiopia's Iraq. Washington Post. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Ethiopian army accomplished 75% of mission in Somalia - Zenawi. Sudan Tribune (29 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Ethiopian PM says Somalia's Islamists have suffered thousands of casualties. International Herald Tribune. Associated Press (26 Rhagfyr 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Sheikh, Abdi (16 Medi, 2008). Nearly 9,500 Somalis die in insurgency-group. ReliefWeb. Reuters. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Sheikh, Abdi (26 Mehefin, 2008). Somalia conflict kills more than 2,100 this year. International Herald Tribune. Reuters. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Ethiopian prime minister says his country is at war with Islamists in Somalia. International Herald Tribune. Associated Press (24 Rhagfyr, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Gettleman, Jeffrey (25 Rhagfyr, 2006). Ethiopia launches open war in Somalia. The San Diego Union-Tribune. New York Times News Service. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Abdinur, Mustafa Haji (12 Rhagfyr, 2006). Somali Islamists give Ethiopia one-week deadline to withdraw troops. Agence France Presse. ReliefWeb. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Rice, Xan (3 Ionawr, 2007). Ethiopian troops to leave Somalia 'within weeks'. The Guardian. Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Somalia Conflict Risk Alert. International Crisis Group (27 Tachwedd, 2006). Adalwyd ar 29 Hydref, 2008.