Pwdin reis
Jump to navigation
Jump to search
Pwdin wedi'i wneud o reis wedi'i gymysgu dŵr neu laeth a chynhwysion eraill megis sinamon a resins ydy pwdin reis. Ceir amrywiadau gwahanol y gellir eu bwyta fel pwdinau neu fel ciniawau. Fel pwdin, caiff ei felysu gyda melyswr fel siwgr gan amlaf. Ceir pwdinau o'r fath ar sawl cyfandir, yn enwedig Asia lle mae reis yn rhan allweddol o'u deiet.
Pwdinau reis ledled y byd[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir pwdinau reis ymhob rhan o'r byd bron. Gall y ryseitiau amrywio o fewn gwledydd hyd yn oed. Gellir berwi neu bobi'r pwdin. Amrywia'r mathau o bwdin yn ôl y gwahanol ddulliau paratoi a'r cynhwysion a ddewisir. Fodd bynnag, defnyddir y cynhwysion canlynol yn y mwyafrif o bwdinau reis:
- reis; reis gwyn
- llaeth; (llaeth llawn, llaeth cneuen goco, hufen neu laeth anwedd)
- sbeisys; (nytmeg, sinamon, sinsir a.y.y.b.)
- cyflasynnau; (fanila, oren, lemwn, cneuen bistasio, dŵr rhosyn a.y.y.b.)
- melyswyr; (siwgar, siwgr brown, mêl, llaeth tewychedig wedi'i felysu, ffrwythau neu suropau)
- wyau