Siddhartha Gotama

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Siddhartha Gotama, Gandhara, 2il ganrif-3edd ganrif, Amgueddfa Guimet, Paris
Y Bwdha yn cyrraedd Parinirvana.

Siddhārtha Gautama (Sanscrit; Pali: Siddhāttha Gotama, hefyd Shakyamuni) oedd sylfaenydd crefydd Bwdhaeth. Er nad ef yw'r unig un a ystyrir yn Fwdha gan ddilynwyr Bwdhaeth, ystyrir mai ef yw prif Fwdha (Sammāsambuddha) yr oes bresennol, ac mae Y Bwdha fel rheol yn cyfeirio ato ef. Y farn gyffredinol yw iddo fyw o oddeutu 563 CC hyd 483 CC.

Yn ôl y traddodiad, ganed ef yn Lumbini, sydd yn Nepal heddiw. Roedd ei dad, Suddhodana, yn frenin y Shakya. Proffwydodd y meudwy Asita y byddai'r blentyn un ai yn frenin mawr neu'n sant mawr. Pan oedd yn 16 oed priododd Yaśodharā (Pāli: Yasodharā), a chawsant fab, Rahula. Treuliodd Siddhartha 29 mlynedd yn y llys yn Kapilavastu, yn awr yn Nepal.

Gan gofio'r broffwydoliaeth, gwnaeth ei dad ei orau i'w gadw rhag gweld unrhyw ddioddefaint, ond er gwaethaf ei ymdrechion gwelodd Siddhartha hen ŵr, gŵr clâf, corff marw yn pydru a mynach asetig. Gwnaeth hyn iddo adael y llys, a'i wraig a'i blentyn, ac aeth i Rajagaha i fyw bywyd asetig.

Yn ddiweddarch, bu ef a pump cydymaith yn ymprydio nes iddo ddod yn agos at farwolaeth. Derbyniodd ychig o laeth gan ferch o'r pentref cyfagos, o'r enw Sujata, ac yna eisteddodd gan goeden Bodhi yn Bodh Gaya. Yno, cafodd Oleuedigaeth, gan ddod i ddeall achos dioddefaint dynol a sut i gael gwared ohono.

Teithiodd i Sarnath ger Varanasi, lle traddododd ei bregeth gyntaf yn y Parc Ceirw. Tyfodd nifer ei ddisgyblion yn gyflym, ac am y 45 mlynedd oedd yn weddill o'i oes bu'n teithio o gwmpas gogledd India yn egluro ei ddysgeidiaeth. Sefydlodd y Sangha, cymuned o fynachod a lleianod. Ei brif ddisgyblion oedd Sariputta, Mahamoggallana, Mahakasyapa, Ananda ac Anuruddha. Pan yn 80 oed, cyhoeddodd ei fod ar fin myned i Parinirvana. Bu farw yn Kuśināra (Pāli: Kusināra), gan ddweud wrth ei ddisgyblion am beidio dilyn arweinydd, ond yn hytach ddilyn ei ddysgeidiaeth, y dharma.