Nirfana

Oddi ar Wicipedia

Gair yn golygu, yn llythrennol, "wedi'i ddiffodd", megis cannwyll, yw nirfana (Sansgrit: निर्वाण; Pali: निब्बान nibbāna ; Prakrit: णिव्वाण).[1] Fe'i cysylltir gan amlaf â Bwdhaeth.[2] Yn y crefyddau Indiaidd, cyrraedd nirfana yw moksha, sef rhyddhad o gylchred ddi-dor genedigaeth, marwolaeth ac ailenedigaeth.[3]

Mewn testunau Bwdhaidd, cyfeiria nirfana at lonyddwch meddwl anghyffroëdig ar ôl i danau sy'n peri dioddefaint i berson (e.e. chwennych, casineb a chamdyb) gael eu diffodd.[1] Bethyciodd Hindwiaeth y term yng nghyfnod ysgrifennu'r Bhagavad Gita (sef rhan o'r epic Mahabharata rhwng 1200 a 1500 CP. Ar adegau, o fewn Jainiaeth mae'r ddau air 'mocsa' a nirfana' yn golygu fwy neu lai yr un peth; ond yn gyffredinol, credant bod mocsa'n dilyn nirfana.

Brahmanirvana yn y Bhagavad Gita[golygu | golygu cod]

Yn ôl Helena Blavatsky, yn y Bhagavad Gita, mae Krishna yn egluro sut y mae cyrraedd Brahma nirvana: drwy gael gwared â vices, dod yn rhydd o 'ddeuoliaeth', petheuach dynol a gwylltineb. Gwneir hyn drwy reoli meddyliau 'drwg' a deall 'Atman' a gwneud yr hyn sy'n dda.[4][5]

Yn ôl Mahatma Gandhi, mae ystyron gwahanol i'r gair Nirfana gan yr Hindw a'r Bwdist:

The nirvana of the Buddhists is shunyata, emptiness, but the nirvana of the Gita means peace and that is why it is described as brahma-nirvana [oneness with Brahman].[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Richard Gombrich, Theravada Buddhism: A Social History from Ancient Benāres to Modern Colombo. Routledge
  2. Donald S. lopez Jr., Nirvana, Encyclopedia Britannica
  3. Gavin Flood, Nirvana. In: John Bowker (ed.), Oxford Dictionary of World Religions
  4. Bhagavad Gita 5.24, 5,25, 5.26
  5. H. P. Blavatsky, Lucifer: A Theosophical Magazine, Mawrth - Awst 1893, p. 11
  6. Mahatma Gandhi (2009), John Strohmeier, ed., The Bhagavad Gita – According to Gandhi, North Atlantic Books, p. 34, "The nirvana of the Buddhists is shunyata, emptiness, but the nirvana of the Gita means peace and that is why it is described as brahma-nirvana [oneness with Brahman]"