Pinafal

Oddi ar Wicipedia
Pinafal wedi ei dorri i lawr ei ganol

Mae'r pinafal (Ananas comosus) yn blanhigyn trofannol sydd â ffrwyth lluosog bwytadwy o fwyar ymgymysg â'i gilydd, hefyd yn cael ei alw'n afal pin.[1][2] Hwn yw'r planhigyn yn nheulu Bromeliaceae sy'n cael ei fasnachu fwyaf.[3]

Pinafal ifanc yn blodeuo

Gellir tyfu pinafalau o'r blaguryn sy'n tyfu o ben y ffrwyth. Gall flodeuo mewn pump i ddeg mis a dwyn ffrwyth yn y chwe mis canlynol.[4][5] Nid yw pinafalau yn aeddfedu ryw lawer ar ôl eu medi.[6] Yn 2016, roedd Costa Rica, Brasil a'r Ffilipinau rhyngddynt yn tyfu tua thraean o holl binafalau'r byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Morton, Julia F (1987). "Pineapple, Ananas comosus". Cyrchwyd 2011-04-22.
  2. "Pineapple Definition | Definition of Pineapple at Dictionary.com". Dictionary.reference.com. Cyrchwyd 6 December 2009.
  3. Coppens d'Eeckenbrugge, G; Leal, F. (2003). "Chapter 2: Morphology, Anatomy, and Taxonomy". In Bartholomew, DP; Paull, RE; Rohrbach, KG (gol.). The Pineapple: Botany, Production, and Uses. Wallingford, UK: CABI Publishing. t. 21. ISBN 978-0-85199-503-8.
  4. "How to grow a pineapple in your home". Pineapple Working Group-International Horticultural Society. Cyrchwyd 15 August 2010.[dolen marw]
  5. "Pineapple Growing". Tropical Permaculture.com (Birgit Bradtke). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 June 2010. Cyrchwyd 15 August 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Pineapple". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-18.