Carwy
Gwedd
| Carum carvi | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
| Urdd: | Apiales |
| Teulu: | Umbelliferae |
| Genws: | Carum |
| Rhywogaeth: | C. tinctorius |
| Enw deuenwol | |
| Carum carvi Carl Linnaeus | |
Planhigyn blodeuol dyflwydd yw Carwy sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Umbelliferae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Carum carvi a'r enw Saesneg yw Caraway neu meridian fennel.[1][2] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Carwe,[3] Carwas, Cardwy, Carddwy.[4] Caiff ei ddefnyddio'n aml fe sesnin wrth goginio.
Mae'n debyg o ran ei phryd a'i gwedd i'r foronen, gyda dail danheddog, pluog wedi'u rhannu'n fân a gallant dyfu ar fonion 20–30 cm o uchder. Ceir blodau bychan gwyn neu binc. Mae'r ffrwythau (a elwir yn anghywir yn 'hadau' yr un siâp â'r lloer, tua 2 mm o hyd), yn cael eu defnyddio yn y gegin i roi blas ar fwyd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anise Seed Substitute: Caraway Seed Archifwyd 2015-09-15 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ "Caraway". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.
- ↑ "Carwes". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2024.
