Palesteina dan Fandad
Mandad Palestina, (Arabeg: فلسطين, Filasṭīn; Hebraeg: פָּלֶשְׂתִּינָה) yw enw llywodraethau Palestina a Jordaniaid Ymerodraeth Otomanaidd rhwng Rhyfel Byd Cyntaf a 1948 (Palestina) a 1946 (Trawsiorddonen a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gwlad Iorddonen) Prydeinig Mandad i Balestina.
Cyd-destun
[golygu | golygu cod]Yn dilyn cytundeb dirgel Sykes-Picot rhwng Prydain a Ffrainc yn 1915 cytunwyd y byddai'r ddwy ymerodraeth yn rhannu'r Dwyrain Canol yn dilyn ennill y Rhyfel Mawr. Roedd y ddwy wlad i gael rheolaeth lawn neu tra-arglwyddiaeth dros y tiroedd Arabaidd i'r de o Anatolia yn dilyn cwymp disgwyladwy Ymerodraeth yr Otomaniaid.
Yn ogystal â chytundeb dirgel Sykes-Picot, yn 1917 fe addawodd Llywodraeth Prydain y byddai'n sefydlu 'cartref cenedlaethol i'r bobl Iddewig' ym Mhalesteina — yr hyn a elwir yn 'Datganiad Balfour'. Roedd yr union diriogaeth heb ei chadarnhau na chwaith beth oedd gwir ystyr y gair 'cartref cenedlaethol' gan fod y Datganiad hefyd yn addo cydnabod hawliau sifil a chrefyddol y bobl nad oedden nhw'n Iddewon oedd eisoes yn byw yn y wlad. Ni chyfeiriwyd yn benodol at 'Palestiniaid' nag 'Arabiaid' er mai nhw oedd mwyafrif llethol y boblogaeth ar y pryd ac ni fu unrhyw ymgynghori â phoblogaeth frodorol Palesteina cyn gwneud y Datganiad.
Gyda cwymp y Grymoedd Canolog (Ymerodraethau'r Almaen, Awstria-Hwngari, Twrci Otomanaidd a Bwlgaria) trosglwyddwyd rheolaeth dros y tir a ddaeth yn Balesteina i Brydain — er bod y rhan fwyaf o'r tir ar y pryd yn rhan o dalaith "Vilayet" "Syria".
Tiriogaeth
[golygu | golygu cod]Gyda Chynhadledd San Remo yn 1920 cytunodd y cynghreiriaid (heb ystyried barn y trigolion lleol mewn unrhyw sylwedd) i drosglwyddiad y diriogaeth yn ffurfiol i Brydain. Roedd Palesteina'r Mandad yn wreiddiol i gynnwys y cyfan o Balesteina ac Israel gyfoes ynghyd â'r hyn sydd nawr yn Wlad yr Iorddonen. Roedd y ffin dde-orllewinnol yn dilyn y ffin rhwng yr Aifft (oedd eisoes o dan ddylanwad Prydain) a hen Ymerodraeth yr Otomaniaid, ac, felly, ddim yn cynnwys penrhyn Sinai.
Roedd rheolaeth y diriogaeth i fod yn wahanol i wladychu ymerodraethol llawn gan ei bod i'w rheoli o dan "mandad" gan Gynghrair y Cenhedloedd ar y dealltwriaeth y byddai Prydain yn adeiladu'r wlad a pharatoi'r brodorion ar gyfer hunanlywodraeth lawn yn y dyfodol, "until such time as they are able to stand alone".[1] Roedd Palesteina, ynghyd â thiriogaethau eraill a oedd gynt yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid, yn diriogaethau Mandad Dosabarth A, sef rhai sydd: "have reached a stage of development where their existence as independent nations can be provisionally recognised subject to the rendering of administrative advice and assistance by a Mandatory".
Yn 1922 rhannwyd y diriogaeth yn ddwy wladfa, Palesteina a Thrawsiorddonen (Gwlad yr Iorddonen gyfoes). Tra bod Palesteina'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan Brydain tan 1948, roedd Trawsiorddonen yn diriogaeth led-annibynnol o dan reolaeth teulu brenhinol yr Hashimiaid oedd, yn wreiddiol o'r Hijaz, ac a ddaeth yn annibynnol yn 1946.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Roedd y diriogaeth wedi gweld ymdufo bwriadol a chyson gan Iddewon fel rhan o'r aliya i'r wlad a thrwy fudiadau Seionistaidd fel Chofefei Tzion. Erbyn i Brydain gymryd rheolaeth o'r diriogaeth roedd yr "Yishuv" (y gymuned Iddewig) wedi dechrau adeiladu ei system addysg, iechyd, amddiffyn a thirfeddiannu ei hun, yn ogystal ag adfer yr iaith Hebraeg o dan arweiniad ac ysbrydoliaeth pobl fel Eliezer Ben-Yehuda.
Roedd y boblogaidd Arabaidd yn dal i fod mewn mwyafrif clir dros yr Iddewon drwy gydol cyfnod y Mandad. Roedd y boblogaeth honno wedi gweld twf mewn niferoedd, yn bennaf o ganlyniad i gynnydd naturiol, ond bu peth mewnfudo o wledydd Arabaidd cyfagos er mwyn manteisio ar gyfleoedd gwaith newydd, ond mae angen gwrthbwyso hynny â'r allfudo oedd yn digwydd, e.e. i gael addysg uwch yn yr Aifft neu swyddi yng ngwasanaeth sifil newydd Trawsiorddonen.[2][3]
Cafodd yr ardal ei nodweddu gan fewnfudo ar raddfa helaeth gan Iddewon Ewropeaidd ar ôl i Brydain ymgymryd â'r mandad yn 1920. Arweiniodd hyn at gynnydd yn lefel y gwrthdaro ac yn y pen draw, mwy o wrthryfel a gwrthdaro treisgar rhwng yr Iddewon a'r Palestiniaid brodorol. Yn 1947, torrodd rhyfel allan rhwng y ddwy ochr pan benderfynodd y Cenhedloedd Unedig hollti Palesteina yn ddau i greu gwladwriaeth Iddewig a gwladwriaeth Arabaidd. Defnyddiodd y gymuned Iddewig y penderfyniad hwn yn sail dros ddatgan Israel yn wladwriaeth annibynnol ond gwrthododd y gymuned Arabaidd hollti'r wlad.
Poblogaeth 1850—1915 (dan rheolaeth Otomanaidd)
[golygu | golygu cod]Yn seiliedig ar niferoedd y hanesydd Justin McCarthy (Poblogaeth Palesteina, Hanes y Boblogaeth ac Ystadegau'r Cyfnod Ottomaniaid Hwyr a'r Mandad; Gwasg Prifysgol Columbia; ISBN 0-231-07110-8)
Blwyddyn | Cyfanswm | Arabiaid Mwslim | Iddewon | Arabiaid Cristnogol |
---|---|---|---|---|
1850 | 340 000 | 300 000 (88,2 %) | 13 000 (3,8 %) | 27 000 (7,9 %) |
1880 | 456 929 | 399 334 (87,4 %) | 14 731 (3,2 %) | 42 864 (9,4 %) |
1900 | 586 581 | 499 110 (85,1 %) | 23 662 (4 %) | 63 809 (10,9 %) |
1915 | 722 143 | 602 377 (83,4 %) | 38 754 (5,4 %) | 81 012 (11,2 %) |
Poblogaeth 1922—1945 (dan reolaeth Prydain)
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Cyfanswm | Arabiaid Mwslim | Iddewon | Arabiaid Cristnogol | Eraill |
---|---|---|---|---|---|
1922 | 752 048 | 589 177 (78%) | 83 790 (11%) | 71 464 (10%) | 7 617 (1%) |
1931 | 1 036 339 | 761 922 (74%) | 175 138 (17%) | 89 134 (9%) | 10 145 (1%) |
1945 | 1 764 520 | 1 061 270 (60%) | 553 600 (31%) | 135 550 (8%) | 14 100 (1%) |
Uwch Gomisiynwyr Prydain dros Palesteina Mandad
[golygu | golygu cod]- 1920—1925: Herbert Louis Samuel
- 1925—1928: Herbert Plumer
- 1928—1931: John Robert Chancellor
- 1945—1948: Alan G. Cunningham
Nodweddion
[golygu | golygu cod]Nodweddwyd y cyfnod gan dwf yn nhrefniadaeth a hunan-hyder y gymuned Iddewig gan gynnwys sefydlu'r Brifysgol Hebreig yn Jerwsalem yn 1925; corff undebol cenedlaethol (yr Histadrwt), llu amddiffyn yr Haganah ac yn 1924 gwnaed Hebraeg yn un o ieithoedd swyddogol y Mandad (ynghyd ag Arabeg a'r Saesneg).
Nodweddion eraill y cyfnod oedd twf mewn gwrthdaro rhwng yr Arabiaid a'r Iddewon. Cafwyd gwrthdro rhwng y ddwy gymuned trwy gydol y cyfnod ond bu Gwrthryfel Arabaidd mawr yn 1936. Erbyn iddo ddod i ben ym mis Mawrth 1939, roedd mwy na 5,000 o Arabiaid, 400 o Iddewon, a 200 o Brydeinwyr wedi eu lladd ac o leiaf 15,000 o Arabiaid wedi eu hanafu.[4] Tua diwedd cyfnod y Mandad, fe ddaeth y berthynas led gyfeillgar rhwng y gymuned Iddewig a'r awdurdodau Prydeinig i ben ac fe fu grwpiau terfysgol Seionaidd fel yr Irgwn (Etsel) a Lehi (Gang Stern) yn ymosod ar adeiladau a swyddogion y Mandad yn ogystal ag ar y gymuned Balesteinaidd Arabaidd.
Nodweddwyd yr 1930au gan lif o ddegau filoedd o Iddewon Almaenig yn ffoi rhag erledigaeth Natsiaeth.
Tîm Pêl-droed Palesteina'r Mandad
[golygu | golygu cod]Yn 1929 cydnabuwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Palesteina'r Mandad gan FIFA a bu i'r tîm chwarae 5 gêm ryngwladol yn ystod yr 1930au a 1940au yn erbyn Libanus, yr Aifft a gêm gyfeillgar yn erbyn Groeg. Roedd y tîm yn cael ei hystyried gan yr Iddewon a'r Arabiaid, ill dau, fel tîm i'r Iddewon i bob pwrpas.
Diwedd y Mandad
[golygu | golygu cod]Roedd Prydain wedi cydnabod annibyniaeth Trawsiorddonen yn 1946 a nodwyd y bwriad i ddod â'r Mandad dros Balesteina i ben erbyn Awst 1948.
Daeth Mandad Prydain dros Balesteina i ben ar 15 Mai 1948 pan ddatganodd David Ben-Gurion arweinydd yr Iddewon annibyniaeth i'w gwladwriaeth newydd, Israel.[5] Ond hyd yn oed cyn datgan annibyniaeth y wladwriaeth Iddewig newydd, tra oedd Prydain yn dal yn gyfrifol am Balesteina, yn Rhagfyr 1947 fe ddechreuodd Ben-Gurion ar y gwaith o garthu ethnig er mwyn sicrhau mwyafrif Iddewig.[6] Yn dilyn cyhoeddi annibyniaeth, a dechrau'r rhyfel rhwng Israel a'r gwledydd Arabaidd cyfagos ar 14 Mai 1948, dwysaodd yr ymdrechion i waredu tiriogaeth y wladwriaeth Iddewig o'i thrigolion Palesteinaidd brodorol drwy Gynllun Dalet gan orfodi rhyw 700,000 ohonynt i adael y wlad.
Dolenni
[golygu | golygu cod]- 'Mandate Palestine, Why it Still Matters', Time Magazine, 2014
- Mapiau Palesteina Mandad
- Ffilm o Brydain ym Mhalesteina
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Article 22, The Covenant of the League of Nations and "Mandate for Palestine," Encyclopedia Judaica, Vol. 11, p. 862, Keter Publishing House, Jerusalem, 1972
- ↑ http://www.cjpme.org/fs_007
- ↑ Porath, Y (16 January 1986). "Mrs. Peters's Palestine". New York Review of Books 32: 21-22. https://archive.org/details/sim_new-york-review-of-books_1986-01-16_32_21-22/page/21.
- ↑ https://web.archive.org/web/20051215061527/http://english.aljazeera.net/NR/exeres/9A489B74-6477-4E67-9C22-0F53A3CC9ADF.htm
- ↑ https://web.archive.org/web/20131113183514/http://www.archives.gov.il/NR/rdonlyres/BD240CA5-379D-4FAE-81A8-069902AD1E7F/0/Truman3.pdf
- ↑ Pappe, Ilan (2006). The Ethnic Cleansing of Palestine. London: Oneworld. tt. 55–56. ISBN 978-1-85168-555-4.