Gwlad Iorddonen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwlad yr Iorddonen)
Jump to navigation Jump to search
Gwlad Iorddonen
Coat of arms of Jordan.svg
المملكة الأردنية الهاشمية‎
Al-Mamlakah Al-Urdunnīyah Al-Hāshimīyah

Teyrnas Hasimaidd Iorddonen
Flag of Jordan.svg
Arwyddair الله، الوطن، الملك Edit this on Wikidata
Math Gwlad, gwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Afon Iorddonen Edit this on Wikidata
Prifddinas Amman Edit this on Wikidata
Poblogaeth 10,428,241 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 25 Mai 1946
oddi wrth Lloegr
Anthem Anthem Frenhinol Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Omar Razzaz Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Gwlad Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Arwynebedd 89,341 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Israel, Sawdi Arabia, Syria, Irac Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 31.2°N 36.5°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Senedd Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Brenin Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Abdullah II Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Omar Razzaz Edit this on Wikidata
LocationJordan.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 40,068 million $ (UDA) Edit this on Wikidata
CMC y pen 4,129 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Arian dinar (Iorddonen) Edit this on Wikidata
Wrth gefn 15,543,454,084 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 11 ±1.1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 3.422 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.748 Edit this on Wikidata

Mae Gwlad Iorddonen neu'n syml yr Iorddonen (Arabeg لمملكة الأردنّيّة الهاشميّة Al-Mamlakah al-Urdunniyyah al-Hāšimiyyah) yn wlad Arabaidd sy'n ffinio ag Israel i'r gorllewin, Syria i'r gogledd, Irac i'r dwyrain a Sawdi Arabia i'r de-orllewin. Amman yw prifddinas y wlad. Mae'r wlad ar groesffordd bwysig rhwng Asia, Affrica ac Ewrop. Ei henw swyddogol yw "Teyrnas Hasimaidd Iorddonen".[1] Cafodd sofraniaeth y wlad ei chreu yn 1946 o ran o Balesteina Brydeinig.

Amgylchynir Gwlad yr Iorddonen gan wledydd eraill; mae ganddi arwynebedd o 89,342 km2 (34,495 sq mi) a phoblogaeth o 10,428,241 (19 Mehefin 2019)[2]. Hi, felly, yw'r 11eg gwlad mwyaf poblog allan o'r holl wledydd Arabaidd. Islam Sunni sy'n cael ei harfer gan 95% o'r boblogaeth, gyda lleiafrif bach iawn yn Gristnogion. Gelwir y wlad yn aml yn "Werddon o Sefydlogrwydd" oherwydd yr ansicrwydd a'r rhyfela yn y gwledydd o'i chwmpas a gododd yn dilyn y Gwanwyn Arabaidd.[3]

Ers 1948, mae'r Iorddonen wedi derbyn ffoaduriaid o wledydd cyfagos, o ganlyniad i wrthdaro a rhyfel. Yn 2015 amcangyfrifwyd fod 2.1 miliwn o Balesteiniaid ac 1.4 miliwn o Syriaid wedi ymgartrefu yn y wlad.[4] Mae yma hefyd filoedd o ffoaduriaid Cristnogol o Irac. Mae hyn i gyd yn rhoi wysau trwm iawn ar isadeiledd ac economi'r wlad.[5]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir cofnod o bobl yn byw yma ers Hen Oes y Cerrig ac yn niwedd yr Oes Efydd fe'i rheolwyd gan dair brenhiniaeth wahanol: Ammon, Moab ac Edom.[6] Yna daeth Brenhiniaeth y Nabatea, cyfnod gyda'r Rhufeiniaid yn ei rheoli ac yna Ymerodraeth yr Otomaniaid.[7] Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd yn 1921 daeth 'Emiradau Trawsiorddonen' (Emirate of Transjorda) i fodolaeth, dan brotectoriaeth Prydain, wedi'i ffurfio allan o'r o Balesteina Brydeinig. Cafod Trawsiorddonen ei chydnabod gan Gynghrair y Cenhedloedd yn yr un flwyddyn.[8] Yn 1946 cyhoeddodd ei hannibyniaeth oddi wrth Prydain a dethlir y diwrnod hwn yn flynyddol ar 25 Mai. Ei henw swyddogol oedd "Teyrnas Hasimaidd Trawsiorddonen".

Yn y Rhyfel rhwng Arabia ac Israel yn 1948, meddiannodd diroedd Y Lan Orllewinol a newidiwyd enw'r wladwriaeth yn "Frenhiniaeth Hasimaidd Iorddonen" ar 1 Rhagfyr 1948.[9] Gwadodd yr Iorddonen mai hi oedd berchen y tiroedd yn 1988, cam diplomyddol, a esgorodd ar gytundeb hanesyddol rhwng Gwlad yr Iorddonen ac Israel, a arwyddwyd yn 1994.[10]

Mae Gwlad yr Iorddonen yn un o'r gwledydd a sefydlodd y Cynghrair Arabaidd a'r Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd. Mae'n wladwriaeth sofran, yn frenhiniaeth gyfansoddiadol gyda'r brenin yn dal pwerau gweithredol a deddfwriaethol.

Merched ysgol, ifanc o'r Iorddonen yn darllen yn un o ysgolion y wladwriaeth. Roedd llythrennedd menywod y wlad yn 2015 yn 99.37% - yn uwch na Chymru.[11]

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyrir yr Iorddonen yn wlad o "ddatblygiad dynol uchel" gydag economi "incwm canol-uwch". Mae'n un o'r economïau lleiaf yn y dwyrain canol, ond yn ddeniadol i fuddsoddwyr tramor oherwydd ei gweithlu medrus, ysgilgar.[12] Oherwydd mannau fel Petra a'r Môr Marw mae'r wlad yn gyrchfan bwysig i dwristiaid, ac mae hefyd yn denu twristiaeth feddygol oherwydd ei sector iechyd arbennig o safonol.[13] Serch hynny, mae diffyg adnoddau naturiol, llif mawr o ffoaduriaid a chythrwfl rhanbarthol wedi llesteirio'r twf economaidd.

Yn 2016 roedd 14.4% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi.[14] Mae GDP (neu 'gynnyrch mewnwladol crynswth'; CMC) cyfoes y wlad yn 40,068,308,516.2755 $ (UDA) (2017)[15]. Ar gyfartaledd tyfodd y CMC 8% yn flynyddol rhwng 2004 a2008, ac yna ar gyfartaledd o 2.6%, yn dilyn y mewnlifiad anferthol o ffoaduriaid Syriaid i'r wlad.[16]

Mae economi Jordan yn gymharol amrywiol, gyda masnach a chyllid yn cyfrif am bron i draean o CMC; mae cludiant a chyfathrebu, gwasanaethau cyhoeddus, ac adeiladu yn cyfrif am un rhan o bump, ac mae mwyngloddio a gweithgynhyrchu yn cyfateb i bron i bumed arall. Er gwaethaf cynlluniau i ehangu'r sector preifat, mae'r wladwriaeth yn parhau i fod y prif rym yn economi Jordan.

Dinasoedd mwyaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Y pedwar ddinas fwyaf yn y wlad yw: Amman (y brifddinas), Zarqa, Irbid ac Acaba (unig borthladd y wlad) a Rwseiffa.

Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen

Mae Gwlad Iorddonen wedi'i rannu'n ddeuddeg o ardaloedd llywodraethol (muhafazah ), sy'n cael eu penu gan y Weinyddiaeth Fewnol. Rhennir llywodraeth leol ymhellach i ardaloedd (liwa) ac yn aml yn is-ardaloedd (qda).[17]

Yn ddaearyddol, mae Ardaloedd Llywodraethol Gwlad Iorddonen wedi'u lleoli mewn un o dri rhanbarth: Rhanbarth y Gogledd, y Rhanbarth Canolog a Rhanbarth y De. Nid yw'r tri rhanbarth daearyddol yn cael eu dosbarthu yn ôl ardal neu boblogaethau ond yn hytrach gan gysylltedd daearyddol a phellter ymhlith y canolfannau poblogaeth. Mae Mynyddoedd Moab yn Ardal Lywodraethol Karak yn gwahanu Rhanbarth y De o'r Rhanbarth Canolog. Mae canolfannau poblogaeth Rhanbarth y Canolbarth a'r Gogledd yn cael eu gwahanu'n ddaearyddol gan fynyddoedd Ardal Lywodraethol Jerash. Yn gymdeithasol, mae canolfannau poblogaeth Amman, Salt, Zarqa a Madaba yn ffurfio un ardal fetropolitan fawr le mae rhyngweithiadau busnes yn y dinasoedd hyn o dan ddylanwad Amman tra bod dinasoedd Jerash, Ajloun, a Mafraq yn bennaf o dan ddylanwad dinas Irbid.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Breaking down the headlines: Understanding the Levant". Global Studies Center, University of Pittsburgh. 2014. Cyrchwyd 19 Mawrth 2016.
  2. http://dosweb.dos.gov.jo.
  3. Dickey, Christopher (5 Hydref 2013). "Jordan: The Last Arab Safe Haven". The Daily Beast. Cyrchwyd 12 Hydref 2015.
  4. Ghazal, Mohammad (22 Ionawr 2016). "Population stands at around 9.5 million, including 2.9 million guests". The Jordan Times. Cyrchwyd 12 Mehefin 2018.
  5. "2015 UNHCR country operations profile – Jordan". UNHCR. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2 Hydref 2014. Cyrchwyd 12 Hydref 2015.
  6. LaBianca, Oystein S.; Younker, Randall W. (1995). "The Kingdoms of Ammon, Moab, and Edom: The Archaeology of Society in Late Bronze/Iron Age Transjordan (ca. 1400-500 BCE)". In Thomas Levy (gol,.). The Archaeology of Society in the Holy Land. Leicester University Press. Cyrchwyd March 9, 2016.
  7. "The History of a Land". Ministry of Tourism and Antiquities. The Department Of Antiquities (Jordan). Cyrchwyd 30 September 2015.
  8. Marjorie M. Whiteman, Digest of International Law, vol. 1, U.S. State Department (Washington, D.C.: U.S. Government Printing Office, 1963) tt 636, 650–652
  9. Sachar, Howard M. (2013). A History of Israel: From the Rise of Zionism to Our Time (arg. 2.). Knopf Doubleday Publishing Group. ISBN 978-0-8041-5049-1. Cyrchwyd 2016-03-20.
  10. Khalil, Muhammad (1962). The Arab States and the Arab League: a Documentary Record. Beirut: Khayats. pp. 53–54.
  11. Learning, UNESCO Institute for Lifelong (8 Medi 2017). "Country Profile: Jordan". litbase.uil.unesco.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.
  12. El-Said, Hamed; Becker, Kip (11 Ionawr 2013). Management and International Business Issues in Jordan. Routledge. p. 88. ISBN 9781136396366. Cyrchwyd 15 Mehefin 2016.
  13. "Jordan second top Arab destination to German tourists". Jordan News. Petra. 11 March 2016. http://www.petra.gov.jo/Public_News/Nws_NewsDetails.aspx?Site_Id=1&lang=2&NewsID=242529&CatID=13&Type=Home&GType=1. Adalwyd 12 March 2016.[dolen marw]
  14. "Jordan Data". World Bank. Cyrchwyd 14 Mehefin 2016.
  15. https://data.worldbank.org/indicator/NY.GDP.MKTP.CD?locations=JO; dyddiad cyrchiad: 21 Hydref 2018.
  16. "The World Fact book – Jordan". CIA World Factbook. Cyrchwyd 15 Mehefin 2018.
  17. "Annex B: Analysis of the municipal sector" (PDF). Third Tourism Development Project, Secondary Cities Revitalization Study. Ministry of Antiquities and Tourism, Hashemite Kingdom of Jordan. 24 May 2005. p. 4. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 19 April 2016.
Flag of Jordan.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Iorddonen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.