Cynhadledd San Remo
| Enghraifft o: | cynhadledd |
|---|---|
| Dechreuwyd | 19 Ebrill 1920 |
| Daeth i ben | 26 Ebrill 1920 |
| Prif bwnc | French Mandate for Syria and the Lebanon, Mandatory Iraq, Palesteina dan Fandad, Iawndaliadau wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf |
| Gwladwriaeth | Yr Eidal |
| Rhanbarth | Sanremo |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0pm4w |
Roedd Cynhadledd San Remo yn ddigwyddiad pwysig ac yn garreg filltir wrth ail-lunio map Ewrop wedi'r Rhyfel Mawr. Cynhaliwyd y gynhadledd gan y Cynghreiriaid buddugol rhwng 19 a 26 Ebrill 1920 y nhref Sanremo, yr Eidal. Bwriad y Gynhadledd oedd cadarnhau a chyfreithloni y drefn diriogaethol a oedd yn rhan o ymraniad Ymerodraeth yr Otomaniaid, a gytunwyd rhwng Ffrainc a'r Deyrnas Unedig yng Nghytundeb Versailles a gynhaliwyd y flwyddyn gynt, yn 1919. Ers canol yr 20g, arddelwyd y sillafiad Sanremo.
Prif nodweddion
[golygu | golygu cod]Deliodd Cynhadledd San Remo gyda thiriogaeth Ymerodraeth yr Otomoan yn y Dwyrain Canol.
- I Ffrainc - Dyfarnwyd Syria a Libanus o dan reolaeth Ffrainc, tra'u bod wedi'u gwahanu oddi ar ei gilydd. Bu cryn ymladdd gan Ffrainc i feddiannu Syria fel mandad.
- I Brydain - Dyfarfnwyd Irac i Brydain.
Daeth Irac, a drefnwyd fel brenhiniaeth sofran o dan deyrnasiad Feysal I yn hytrach o dan fandad Prydeinig fel Mesopotamia. Gwahanwyd Palesteina, oddi ar Syria (yr hen drefn o dan yr Otomoaniaid lle adnabwyd y rhan fwyaf o'r diriogaeth fel 'De Syria'). Cadarnhwyd ymrwymiad Prydain i Ddatganiad Balfour, gan greu Mandad Palesteina o dan reolaeth Prydain. Roedd y tiriogaeth newydd yn cynnwys Gwlad yr Iorddonen i gychwyn fel rhan o'r un wlad, ond ymranwyd Gwlad yr Iorddonen oddi ar Balesteina rhai blynyddoedd yn ddiweddarach. Ar 24 Ebrill 1920 pleidleisiodd Cynghrair y Cenhedloedd o blaid Mandad Prydain ym Mhalesteina a gan hynny sefydlu beth ddaeth yn egin wladwriaeth Iddewig - gelwir y dyddiad yma, a Chytundeb San Remo gan yr Iddewon fel 'Magna Carta' sefydlu a chydnabod tiriogaeth Iddewig.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn ystod y cyfarfodydd y 'Cyngor y Pedwar Mawr' (Prydain, Ffrainc, Siapan a'r Eidal gyda'r Unol Daleithiau fel arsylwr niwtral) yn 1919, cyhoeddodd y Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George yr ohebiaeth a fu rhwng Husayn a McMahon yn gytundeb rhwymol ac mae'r cytundeb gyda Husayn ibn Ali, Sharif Mecca, a Chytundeb Sykes-Picot a cynigiodd wladwriaeth Arabaidd neu conffederasiwn o wladwriaethau Arabaidd.[2] Ym mis Gorffennaf 1919 gwrthododd senedd Syria Fawr (gwladwriaeth newydd gwrth-drefedigaethol Arabaidd) dderbyn unrhyw ddatganiad gan y Llywodraeth Ffrainc ar unrhyw ran o diriogaeth y wlad newydd.[3]
Ar 30 Medi 1918 datganodd cefnogwyr gwrthryfel Arabaidd yn Damascus ei cefnogaeth i lywodraeth Husayn, a enwyd yn "Brenin arweinwyr crefyddol Arabiaid ym Meca."[4] ar 6 Ionawr 1920, yna tywysog Faisal I o Irac dechreuodd cytundeb gyda Phrif Weinidog Ffrainc, Georges Clemenceau, a oedd yn cydnabod "hawl Syriaid i lywodraethu fel cenedl annibynnol"[5] Gyngres Genedlaethol Syria, yn cyfarfod yn Damascus, datganodd yn wladwriaeth annibynnol Syria ar 8 Mawrth1920.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Pre-State Israel: The San Remo Conference", Jewish Virtual Library; adalwyd 20 Mawrth 2026
- ↑ "The Council of Four: minutes of meetings March 20 to May 24, 1919", tt.1–8
- ↑ Randall Baker, King Husain and the Kingdom of Hejaz (Oleander Press, 1979), t.161
- ↑ Alan George, Jordan: Living in the Crossfire (Zed Books, 2005), t.6
- ↑ Timothy J. Paris, Britain, the Hashemites and Arab Rule, 1920-1925 (Routledge, 2003), t.69
- ↑ William C. King, King's Complete History of the World War (History Associates, 1922), t.665