Nodyn:Pigion H1N1

Oddi ar Wicipedia
Pigion

Golygfa ar dren ym Mecsico

Brid newydd o firws y ffliw a ddechreuodd ym mis Mawrth ac Ebrill 2009 ym Mecsico yw Tarddiant y Ffliw Moch H1N1 2009. Erbyn yr 28ain o Ebrill, mae'r firws wedi heintio pobl yn Ninas Mecsico, yr Unol Daleithiau, Sbaen, Canada, Israel a'r Alban. Yn ogystal â hyn, credir fod achosion mewn gwledydd eraill hefyd, gan gynnwys De Korea ac Awstria, gan ddod a'r cyfanswm o achosion posib i 2,500. Parodd hyn i Gyfundrefn Iechyd y Byd (CIB) godi eu lefel rhybudd pandemig i 5. Mae rhybudd lefel 4 yn golygu fod CIB yn ystyried fod "trosglwyddiad person-i-berson parhaus"; tra bod lefelau 5 a 6 yn cynrychioli "heintiadau dynol eang".

 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis