Neidio i'r cynnwys

Deddfau Falk

Oddi ar Wicipedia
Deddfau Falk
Enghraifft o:Reich law Edit this on Wikidata
Rhan oKulturkampf Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1870s Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Prwsia, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/05_5v4m edit this on wikidata
Gweinidog Dwiylliant Prwsia, Adalbert Falk fel y portreawyd ym mhapur Die Gartenlaube in 1872

Cyfres o fesurau deddfwriaethol a ddaeth i rym yn Nheyrnas Prwsia rhwng 1872 a 1879 oedd Deddfau Falk a gyflwynwyd gan y gweinidog Adalbert Falk yn ystod y Kulturkampf, cyfnod o wrthdaro rhwng llywodraeth Prwsia a'r Eglwys Gatholig. Pasiwyd y prif ddeddfau, a elwir Deddfau Mai (Almaeneg: Maigesetze), ym Mai 1873.[1]

Penodwyd Falk yn Weinidog dros Faterion Crefyddol, Addysgol a Meddygol yn Ionawr 1872, a fe'i cyfarwyddwyd gan Otto von Bismarck, Prif Weinidog Prwsia a Changhellor yr Almaen, i oruchwylio'r Kulturkampf ("brwydr ddiwylliannol") ac i "ailsefydlu hawliau'r wladwriaeth mewn perthynas â'r eglwys". Aeth Falk ati i lunio rhaglen ddeddfwriaethol i wanychu awdurdod a dylanwad yr Eglwys Gatholig ac i atgyfnerthu grym y wladwriaeth, gan gynnwys cyflwyno priodas wladol orfodol, tanseilio dylanwad y glerigiaeth ym myd addysg, a chwtogi ar hawliau Catholigion.

Ym 1878, cafwyd rhwyg rhwng Bismarck a'r Blaid Ryddfrydol Genedlaethol—y brif garfan a oedd yn gefnogol o'r Kulturkampf—a doedd Falk ddim yn gallu cynnal ei safle am amser hir. Gwellodd cysylltiadau rhwng yr Almaen a'r Babaeth, ac ym Medi 1879 ymddiswyddodd Falk.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Alison Kitson (2001). Germany, 1858-1990: Hope, Terror, and Revival (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 34. ISBN 9780199134175.
Baner Yr AlmaenEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.