Claudia Williams
Claudia Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1933 |
Bu farw | 19 Mehefin 2024 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, artist |
Priod | Gwilym Prichard |
Arlunydd oedd Claudia Jane Herington Williams (1933 – 19 Mehefin 2024)[1] a fu’n byw ac yn gweithio am y rhan fwyaf o’i hoes yng Nghymru. Roedd yn adnabyddus am ei phaentiadau, yn aml yn bortreadau mawr lliwgar.
Cafodd Williams ei geni yn Purley yn Surrey a chafodd ei haddysg yn Ysgol Eothen yn Caterham cyn mynd i Ysgol Gelf Chelsea yn 1950.[2] Enillodd wobr gelf pobl ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerffili yn yr un blwyddyn.[3] Cynhwyswyd ei gwaith yn arddangosfa Paentio a Cherflunio Cymreig Cyfoes a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn 1957.[4]
Priododd Williams yr arlunydd Gwilym Prichard.[2] Yn y 1980au dechreuon nhw deithio trwy Ewrop, gan fyw am gyfnodau ar Skiathos yng Ngwlad Groeg a ger Roc'h-an-Argoed yn Llydaw, cyn dychwelyd i Gymru yn 1999.[5][6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Claudia Williams: Artist of 'joyous, colourful' work dies, 90". BBC News (yn Saesneg). 2024-06-19. Cyrchwyd 2024-06-19.
- ↑ 2.0 2.1 David Buckman (2006). Artists in Britain Since 1945 Vol 2, M to Z. Art Dictionaries Ltd. ISBN 0-953260-95-X.
- ↑ Peter Lord (2000). The Visual Culture of Wales: Imaging the Nation. University of Wales Press, Cardiff. ISBN 0708315879.
- ↑ Peter W Jones; Isabel Hitchman (2015). Post War to Post Modern: A Dictionary of Artists in Wales. Gomer Press. ISBN 978-184851-8766.
- ↑ Karen Price (22 April 2013). "Capturing Wales: One of our best-loved artists is celebrated with a new book and major exhibition". WalesOnline. Cyrchwyd 11 February 2020.
- ↑ "New work on show by Welsh artist Claudia Williams". BBC News. 8 June 2016. Cyrchwyd 11 February 2020.