Gwilym Prichard
Jump to navigation
Jump to search
Gwilym Prichard | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mawrth 1931, 1931 ![]() Llanystumdwy ![]() |
Bu farw | 7 Mehefin 2015, 2015 ![]() Dinbych-y-pysgod ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, arlunydd ![]() |
Priod | Claudia Williams ![]() |
Arlunydd Cymreig oedd Gwilym Arifor Prichard (ganwyd Pritchard; 4 Mawrth 1931 – 7 Mehefin 2015).
Cafodd ei eni ym mhentref Llanystumdwy, ger Cricieth, Gwynedd, ac astudiodd celf yng Ngholeg Celf Birmingham cyn dychwelyd i Gymru fel athro yn Ynys Môn.[1] Caiff ei gofio'n bennaf am ei luniau "dramatig a lliwgar", gyda thirluniau garw, cryf ag iddynt ymdeimlad o 3-dimensiwn.[1] Mae ei luniau'n adlewyrchu ei gariad a'i hoffter o'i wlad, Cymru.[2] Daeth i sylw cenedlaethol am y tro cyntaf yn y 1960au ac yn 1970 cafodd ei benodi i Academi Brenhinol, Cambrian.[2]
Priododd yr arlunydd Claudia Williams yn 1953 pan newidiodd ei enw o Pritchard i'r fersiwn Cymraeg.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 "Book review: Gwilym Prichard, Claudia Williams: A perfect picture of when love and art collide", The Independent, 22 Medi 2013 Archifwyd 2015-06-20 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 7 Mehefin 2015
- ↑ 2.0 2.1 Gwilym Prichard, Martin Tinney Gallery. Adalwyd 7 Mehefin 2015