Neidio i'r cynnwys

Tarzan

Oddi ar Wicipedia
Tarzan
Ganwyd19 g Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethanturiaethwr, heliwr, penadur, maglwr, pysgotwr Edit this on Wikidata
PriodJane Porter Edit this on Wikidata
PlantKorak Edit this on Wikidata
PerthnasauWilliam Clayton Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://tarzan.com/ Edit this on Wikidata

Cymeriad mewn ffuglen yw Tarzan (John Clayton II, Is-iarll Greystoke) Mae'n blentyn gwyllt a fagwyd yn y jyngl yn Affrica gan epaod; yn ddiweddarach mae'n profi gwareiddiad, ond yn ei wrthod a dychwelyd i'r gwyllt fel anturiaethwr arwrol.[1]

Crëwyd y cymeriad gan Edgar Rice Burroughs. Ymddangosodd Tarzan gyntaf yn ei nofel Tarzan of the Apes a gyhoeddwyd mewn cylchgrawn yn 1912, ac wedyn fel llyfr yn 1914. Wedi hynny ailymddangosodd mewn mwy nag 20 o nofelau a chasgliadau straeon gan Burroughs ac awduron eraill, a gweithiau di-rif mewn cyfryngau eraill, yn enwedig mewn ffilmiau, a'r gyntaf o rhain oedd y ffilm fud Tarzan of the Apes (1918).[2]

Roedd Tarzan yn fab i arglwydd o Sais. Gadawyd Tarzan yn faban gyda'i rieni ar arfordir Affrica gan wrthryfelwyr. Bu farw ei mam a lladdwyd ei dad. Daeth Tarzan yn blentyn gwyllt, ac roedd yn byw gyda llwyth o epaod. Fel dyn mae'n hynod o gryf ac ystwyth, ac yn dod yn "frenin" yr epaod. Ac yntau'n 21 oed mae'n dod ar draws pobl wynion eraill (gan gynnwys yr Americanes Jane Porter) ac yn cael ei gludo i wareiddiad. Gan ei fod yn hynod ddeallus (mae'n gallu dysgu iaith newydd mewn dyddiau) mae'n gallu addasu i'w sefyllfa newydd yn gyflym. Pan fydd yn darganfod ei wir hunaniaeth fel John Clayton II, Iarll Greystoke, yn lle adennill ei etifeddiaeth mae Tarzan yn dewis yn hytrach i'w chuddio, ac yn mynd ymlaen i fyw bywyd llawn antur ac i deithio i lawer o leoliadau lliwgar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Encyclopedia of Science Fiction, gol. John Clute a Peter Nicholls (Llundain, 1993), t.178
  2. "History of Tarzan" (yn Saesneg). Tarzan.org. t. 2. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2017. Cyrchwyd 30 Mai 2013.