Neidio i'r cynnwys

Ararteko

Oddi ar Wicipedia
Ararteko
Enghraifft o'r canlynolombwdsmon Edit this on Wikidata
Rhan oSenedd Euskadi Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1985 Edit this on Wikidata
PencadlysVitoria-Gasteiz Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ararteko.net Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ararteko yw'r teitl ar gyfer Ombwdsmon Euskadi sy'n Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol Senedd Gwlad y Basg. Sefydlwyd y swydd gan Senedd Euskadi (senedd ymreolaethol sy'n cynnwys 3 o daleithiau y Basgiaid - Gipuzkoa, Biskaia, a Gazteis) yn 1985, mae'n gorff ymreolaethol sy'n gweithio'n annibynnol ar unrhyw bwerau gwleidyddol. Rhaid i Ararteko fod yn ddiduedd ac annibynnol a’i brif swyddogaeth yw diogelu dinasyddion rhag camddefnydd o awdurdod, pŵer a chamau esgeulus Gweinyddiaethau Cyhoeddus Gwlad y Basg. Rydym hefyd yn anelu at gynyddu ymwybyddiaeth a sensitifrwydd am Ddiwylliant Hawliau Dynol.[1] Arddelir y teitl Ombudsan of the Basque Country fel teitl Saesneg ar wefan y sefydliad.

Yn Nafara (cymuned ymreolaeth Basgeg arall sy'n rhan o Wlad y Basg ond nad sydd wedi ei huno gydag Euskadi, gelwir Ombwdsmon y gymuned ranbarthol hefyd yn Ararteko yn Fasgeg a Defensor del Pueblo de Navarra yn Sbaenaeg.[2]

Mae'n aelod o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith er bod remit yr Ararteko yn fwy nad dim ond yr iaith Fasgeg.

Fe etholir y Prif Weithredwr i'r swydd bob 5 mlynedd gan bleidlais o aelodau Senedd Euskadi. Mae gwasanaethau'r corff am ddim.[3]

Sefydlu[golygu | golygu cod]

Crëwyd a rheoleiddiwyd sefydliad Ararteko gan Gyfraith Ararteko 3/1985, 27 Chwefror,[4] Senedd Gwlad y Basg, yn unol â darpariaethau Stadud Ymreolaeth Gwlad y Basg 1979 yn ei erthygl 15.

Grymoedd[golygu | golygu cod]

Mae pwerau'r Ararteko yn cynnwys:[1]

  • Agor ac ymarfer ymchwiliadau i egluro trafodion Gweinyddiaeth Gyhoeddus Gwlad y Basg.
  • Gwneud argymhellion penodol, atgoffa dyletswyddau cyfreithiol a chywiro gweithredoedd anghyfreithlon neu annheg i gyflawni gwelliant yng ngwasanaethau Gweinyddiaeth Gyhoeddus Gwlad y Basg.
  • Tynnu sylw at ddiffygion y Gyfraith a gwella gwrthrychedd ac effeithiolrwydd y Gwasanaeth Cyhoeddus trwy warantu hawliau dinasyddiaeth.
  • Cynhyrchu adroddiadau craff o fewn ffrâm ei gymwyseddau neu ar gais Senedd Gwlad y Basg neu Weinyddiaethau Cyhoeddus Gwlad y Basg.
  • Lledaenu natur ei waith, ei hymchwil a'i adroddiad blynyddol ym mhob ffordd.

Er mwyn cyflawni ei genhadaeth, gall yr Ararteko, ymhlith eraill:

Cynnal ymweliadau arolygu â chanolfannau a chyfleusterau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus i ddinasyddion a gofyn am wrandawiad gydag unrhyw was sifil neu gyflogai cyhoeddus i gymryd rhan mewn ymchwil, cynnal yr holl ymchwil y mae'n ei ystyried yn gyfleus neu ddod o hyd i'r atebion cywir i amddiffyn buddiannau cyfreithlon y dinesydd.

Mae Ararteko yn aml mewn cysylltiad â gwahanol randdeiliaid, cymdeithasau a sefydliadau cymunedol ac yn cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau a fforymau lleol a rhyngwladol i wella polisi a gweithredu cyhoeddus gweinyddiaeth Fasgeg, gwella ansawdd y gwasanaeth cyhoeddus a ddarperir, yr hawliau a sicrhawyd, a brwydro yn erbyn yr anghydraddoldeb a gwahaniaethu.

Mae cenhadaeth Ararteko hefyd yn cynnwys amddiffyn hawliau iaith sy'n deillio o statws cyd-swyddogol yr ieithoedd Basgeg a Sbaeneg.

Meysydd gwaith[golygu | golygu cod]

Mae meysydd gwaith yr Ararteko yn eang iawn a nid dim ond wedi eu cyfyngu i un arbenigedd fel Comisiynydd y Gymraeg neu Comisiynydd Plant Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Y meysydd gweithredu yw:[5]

  • Cymhwysiad Cymdeithasol
  • Hawliau ieithyddol, diwylliant, a chwaraeon
  • Addysg
  • Materion Treth
  • Diogelwch Cyhoeddus
  • Cyfiawnder
  • Yr Amgylchedd
  • Gwaith Cyhoeddus, Trafnidiaeth, a Seilwaith
  • Trefn Gweithgaredd Economaidd
  • Staff gweinyddol cyhoeddus
  • Rheolaeth, Gweithdrefn, Asedau cyhoeddus, a Gwasanaethau
  • Iechyd
  • Tryloywder, Cyfranogiad dinasyddion, Llywodraethu da, a Diogelu Data
  • Llafur a Diogelwch Cymdeithasol
  • Cynllunio trefol a gofodol
  • Tai

Arartekos[golygu | golygu cod]

  • 1989-1995: Juan San Martín Ortiz de Zárate
  • 1995-2000: Xabier Markiegi Candina[6]
  • 2000-2004: Mercedes Agúndez Basterra (acting)[7]
  • 2004-2014: Íñigo Lamarca Iturbe
  • 2015: Julia Hernández Valles (gweithredol)[8]
  • 2015 hyd presenol: Manuel Lezertua Rodríguez[9]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Ombudsman of the Basque Country". gwefan Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith. Cyrchwyd 13 Mehefin 2024.
  2. Defensor del Pueblo de Navarra - Arartekoa
  3. "What is the Ararteko (fideo yn Saesneg)". Gwefan Ararteko. Cyrchwyd 13 Mehefin 2024.
  4. Ley del Ararteko 3/1985, 27 Chwefror.
  5. "Work Areas by Subject Matter". gwefan Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith. Cyrchwyd 13 Mehefin 2024.
  6. Xabier Markiegi Candina[dolen marw]
  7. "Mercedes Agúndez Basterra ejerció como Ararteko en funciones durante el periodo comprendido entre los años 2000 y 2004". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Mehefin 2012. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Julia Hernández Valles es, desde hoy, Ararteko en funciones. 16 Ebrill 2015.
  9. Manuel Lezertua Rodríguez toma posesión del cargo como Ararteko. 15 Mehefin 2015.