Llongddrylliedigion Tonga
Llun loeren o ynys ʻAta. | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp o bobl, adventure, castaway |
---|---|
Dechreuwyd | Mehefin 1965 |
Daeth i ben | Medi 1966 |
Gwladwriaeth | Tonga |
Chwe bachgen yn eu harddegau oedd llongddrylliedigion Tonga a gawsant eu llongddryllio ar ynys anghyfannedd ʻAta, ar ben deheuol ynysfor Tonga, ym Mehefin 1965, a buont yn byw yno am 15 mis. Ffoes y bechgyn o'u hysgol breswyl ar Tongatapu, prif ynys Tonga, a chipiasant gwch i ddianc. Wedi i storm ddryllio'r cwch, cawsant eu dwyn gyda'r llif i lannau ʻAta, ac yno llwyddasant i fyw gyda'i gilydd yn iach. Tybiwyd i'r bechgyn farw, ond ym Medi 1966 cawsant eu canfod a'u hachub gan Peter Warner, cimychwr o Awstralia.
Wedi iddynt ddychwelyd i Tongatapu, cafodd y bechgyn rhoi yn y ddalfa am ladrata'r cwch. Llwyddodd Warner i berswadio'r perchennog i ollwng y cyhuddiadau drwy dalu iawndal iddo am y cwch.
Câi hanes llongddrylliedigion Tonga ei gyferbynnu'n aml â stori Lord of the Flies (1954) gan y nofelydd William Golding.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) "The true story of six Tongan teenage castaways in 1965", Radio New Zealand (15 Mai 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Mehefin 2024.