Neidio i'r cynnwys

Ráth Chairn

Oddi ar Wicipedia
Ráth Chairn
Mathanheddiad dynol, Gaeltacht Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Meath Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Uwch y môr61 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.6108°N 6.8632°W Edit this on Wikidata
Map
Tafarn An Bradán Feasa ("Yr Eog Wybodus") yn y pentref

Trefgordd a Gaeltacht newydd yw Ráth Cairn (prin yr arddelir y sillafiad Saesneg Rathcairn bellach)[1] a leolir yn Swydd an Mhí, ger Athboy a rhyw 55km i'r gogledd ddwyrain o Ddulyn.

Prynodd Comisiwn Tir Iwerddon diroedd yn yr ardal ac yn y 1930au, wedi’u cydio gan dlodi, trodd pobl Gwyddeleg eu hiaith o ardal Conamara i Ráth Cairn. Cynllun Saorstát Éireann (Gwladwriaeth Rydd Iwerddon) oedd lleddfu tlodi a symud siaradwyr brodorol Gwyddeleg i’r gwastadeddau, lle byddai mwy o gnydau i’w cynaeafu o’r tir.

Y Dref[golygu | golygu cod]

Mae gan Ráth Cairn ganolfan gymunedol a chlwb (An Brán Feasa), ysgol uwchradd, canolfan fenter, eglwys Gatholig a chyfleusterau eraill gan gynnwys cynllun dŵr grŵp, siop, bwyty, maes chwarae a chanolfan arddangos. Lleolir sefydliadau Gwyddeleg cenedlaethol megis Foras na Gaeilge, Glór na nGael a Scun Scan yno hefyd.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ysgrifennodd Máirtín Ó Cadhain yn yr Irish Times (27 Chwefror, 1970), "Os na fydd y Llywodraeth yn sefydlu radio cyfreithlon efallai y bydd radio anghyfreithlon."

Sefydlwyd Gaeltacht Ráth Cairn fel rhan o ymgyrch yn erbyn tlodi yn Connemara yn 1934 o'r enw An Turas Aniar. Seiclodd grŵp o bobl o Gaeltacht Conamara i Ddulyn i ddadlau eu hachos fel ymdaith a alwyd yn 'Turas Aniar' ("taith yn ôl"). Roedden nhw eisiau bywyd gwell iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.[2]

Cyrhaeddodd y dynion Ddulyn ar 29 Mawrth 1934 i gwrdd â’r Taoiseach, Éamon de Valera a mynnu tir a hawliau. Gofynnodd y dynion iddo ymweld â Conamara er mwyn iddo weld y sefyllfa ddrwg yr oedd y bobl ynddi.[3][4]

Y flwyddyn ganlynol, ar y 12 Ebrill 1935, ymwelodd pobl Conamara ag ardal Ráth Chairn am y tro cyntaf. Ymgartrefwyd 27 o blant Conamara yno; symudodd y llywodraeth 443 o bobl o Connemara i Ráth Chairn i roi'r tir i'w adennill yno. Daethant o hyd i ffermydd ac ysgol genedlaethol (Scoil Uí Ghrámhnaigh) yno. Derbyniodd pob teulu dŷ newydd, 22 erw o dir, da byw ac offer ffermio.[5]

Fel rhan o’r cynllun hwn a gychwynnwyd gan bwyllgor ‘Muintir na Gaeltachta’ (dan arweiniad Máirtín Uí Chadhain a’r Comisiwn Tir), symudodd 40 o deuluoedd rhwng 1935 a 1937 o “ardaloedd cul” yn Conamara i’r trefi hyn: Ráth Cairn, Laimbé, Driseog , Tullagh na nÓg, Ballymithéala a Derrylongain.[6]

Parhaodd y bobl i siarad Gwyddeleg yn naturiol, ond cymerodd flynyddoedd lawer iddynt ennill statws swyddogol y Gaeltacht. Daeth trefedigaeth arall o'r un math i fodolaeth yn Ballygib yn yr un sir, ond ni fu mor llwyddiannus a Ráth Chairn, gan na ddaeth yr amaethwyr yno yn wreiddiol o'r un lle.

Rhoddodd y Llywodraeth statws swyddogol i Ráth Chairn a Baile Ghib (Ballygib) yn 1967, yn dilyn ymgyrchoedd hawliau sifil a drefnwyd gan y Gluaiseacht Chearta Sibhialta na Gaeltachta ('Mudiad Hawliau Sifil y Gaeltacht', a ysbrydolwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg), Ráth Chairn.[7] Ym 1973 sefydlwyd Cwmni Cydweithredol Ráth Chairn i gynllunio a datblygu'r ardal. Y "trefedigaethau" hyn [8] yn nhalaith Leinster yw'r unig ardal Gaeltacht swyddogol yn nwyrain y wlad.

Gwyddeleg Connacht yw'r dafodiaith a siaredir yn Gaeltacht Meath, gan fod y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn hanu o Conamara. Bu farw tafodieithoedd Gwyddeleg brodorol Leinster tua diwedd y 19g a dechrau'r 20g.

Tafoli[golygu | golygu cod]

Roedd y "drefedigaeth" hon hefyd yn arbrawf cymdeithasol i unioni'r carthu ethnig yn Iwerddon yn yr 17g gan weithred llym Oliver Cromwell, 'To hell or Connaught'. Fodd bynnag, oherwydd maint cyfyngedig y Gaeltacht arweiniodd yr anhawster i ddarparu ystod eang o wasanaethau trwy'r Wyddeleg at fod yn angenrheidiol i ddwyieithrwydd.[9][10][11]

Croesawyd y fenter yn fras, ond gydag amser ac wrth i'r syniad ddod yn realiti gweld dicter yn amlygu ei hun mewn papurau newydd lleol, bod yr 'ymfudwyr' yn cael y tir yn hytrach na'r ffermwyr lleol. Adroddodd y Meath Chronicle ar 27 Ebrill 1935 fod un o drigolion lleol Meath wedi’i arestio am fygwth bywyd gweithiwr y Comisiwn Tir ond fe’i rhyddhawyd yn ddi-gyhuddiad ac mae adroddiadau ail-law yn dweud bod gangiau wedi aflonyddu ar ddynes oedd wedi ymfudo a dywedwyd wrthi “quit talking that gibberish here".[12][13]

Gŵyl Wyddeleg newydd yn y Gaeltacht[golygu | golygu cod]

Yn 2016 sefydlwyd Féile na Gealaí, sef gŵyl gerddorol uniaith Wyddeleg. Dyma'r unig ŵyl o'i fath, er bod Oireachtas na Gaeilge ('Eisteddfod' y Wyddeleg) hefyd yn ŵyl ddiwylliannol uniaith. Mae'r Feile yn cael ei chynnal ym mhentref Ráth Chairn yn flynyddol ym mis Mehefin ac yn cynnwys perfformiadau gan gantorion mewn Gwyddeleg a hefyd Gaeleg yr Alban. Cefnogir Féile na Gealaí gan sefydliadau yr iaith Wyddeleg a gellid ei weld fel esblygiad o adfer iaith a chreu cymdeithas Wyddeleg ei hiaith.

Gwasanaethau Dysgu Ieithoedd[golygu | golygu cod]

Trefnir llawer o gyrsiau ar gyfer pobl sydd eisiau dysgu Gwyddeleg yn Ráth Chairn. Ymhlith y grwpiau hynny sy'n trefnu cyrsiau yno mae Gael Linn. Mae Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Maynooth wedi sefydlu cysylltiad â Ráth Chairn a chynhelir cyrsiau tystysgrif nos yn ystod y gaeaf ar gyfer pobl sy'n siarad Gwyddeleg sy'n byw o fewn ugain milltir i'r ardal.

Oriel[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ráth Chairn/Rathcarran". logainm.ie (yn Gwyddeleg). 2024-03-29.
  2. "An Turas Aniar · Cúrsaí Spóirt in Irisí an Phléaráca · Cartlann Ghaeltacht Chonamara". www.cartlann.ie. 2024-03-29.
  3. "Beatha le Bua / Éamon de Valera" (PDF). ccea.org.uk. 2024.
  4. "GAILEARAÍ: Léargas trí lionsa Matt Nolan ar scéal agus ar phobal Ráth Chairn…". Tuairisc.ie (yn Gwyddeleg). 2018-12-07. Cyrchwyd 2024-03-29.
  5. Barry Sheppard (2014). "Ráthcairn: Land & Language Reform In The Irish Free State – The Irish Story" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-29.
  6. "Brabhsáil Míreanna · Cartlann Ghaeltacht Chonamara". www.cartlann.ie (yn Gwyddeleg). Cyrchwyd 2024-03-29.
  7. gaelport.com http://www.gaelport.com/sonrai-nuachta?NewsItemID=2582%5B%5D (Dúnadh gaelport.com in 2014)
  8. "Coilíneachtaí" ("trefedigaethau "neu "gwladfeydd") oedd y trerm cyffredin a swyddogol yn yr 1930au
  9. (yn en) Coimisiún na Gaeltachta Report (Adroddiad). The Stationery Office. 1925. https://aran.library.nuigalway.ie/handle/10379/2586.
  10. "Colonised: the making of Meath's Gaeltacht". Independent.ie (yn Saesneg). 2018-06-17. Cyrchwyd 2023-09-22.
  11. M. Pegley, Suzanne (2007). The Development and Consolidation of the Gaeltacht Colony Ráth Cairn, Co. Meath (1935-1948) (PDF). Maynooth: NUI Maynooth. t. 18.
  12. Nolan, Matt (2018). Ráth Chairn: An Talamh Bán. t. 39. ISBN 978-0-953765171.
  13. M Pegley, Suzanne (2007). The Development and Consolidation of the Gaeltacht Colony Ráth Cairn, Co. Meath (1935-1948) (PDF). Maynooth: NUI Maynooth. t. 3.
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.