Ismail Kadare
Ismail Kadare | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Ionawr 1936 ![]() Gjirokastra ![]() |
Dinasyddiaeth | Albania, Ffrainc, Cosofo ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | Aelod o Senedd Albania ![]() |
Adnabyddus am | Gjenerali i ushtrisë së vdekur, The Castle, Chronicle in Stone, Broken April, The Three-Arched Bridge, The File on H., The Pyramid, The Palace of Dreams ![]() |
Prif ddylanwad | Italo Calvino ![]() |
Priod | Helena Kadare ![]() |
Plant | Besiana Kadare ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Tywysog Asturias, Gwobr Herder, Commandeur de la Légion d'honneur, Prix mondial Cino Del Duca, Gwobr Ryngwladol Man Booker, Gwobr Jeriwsalem, Gwobr Ryngwladol Nonino, Commandeur des Arts et des Lettres, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Gwobr Ryngwladol Llenyddiaeth Neustadt, Order of the National Flag, Officier de la Légion d'honneur, Honor of Nation Order ![]() |
llofnod | |
![]() |
Nofelydd, bardd, ac ysgrifwr Albaniaidd yn yr iaith Albaneg yw Ismail Kadare (ganed 28 Ionawr 1936).[1]
Ganed yn Gjirokastër, Teyrnas Albania, yn fab i weithiwr yn y swyddfa bost. Astudiodd ym Mhrifysgol Tirana a chychwynnodd ar ei yrfa lenyddol drwy gyhoeddi cyfrolau o farddoniaeth. Aeth i'r Undeb Sofietaidd ym 1958 i astudio yn Athrofa Llên Fyd Gorki ym Moscfa, a dychwelodd i Albania ym 1960 i weithio yn newyddiadurwr. Enillodd enw rhyngwladol am ei nofel gyntaf, Gjenerali i ushtrisë së vdekur ("Cadfridog y Fyddin Farw", 1963), sydd yn ymwneud â chadfridog ac offeiriaid Eidalaidd yn chwilio am gyrff milwyr a fu farw yn Albania yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ysgrifennodd sawl nofel hanesyddol, gan gynnwys Kështjella ("Y Castell", 1970), am wrthryfel Skanderbeg yn erbyn yr Otomaniaid yn y 15g, ac Ura me tri harqe ("Y Bont Deirbwa", 1978)
Ffoes Kadare i Ffrainc ym 1990.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) Ismail Kadare. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2020.