Neidio i'r cynnwys

Uwchgynhadledd yr G7, 2024

Oddi ar Wicipedia
Uwchgynhadledd yr G7, 2024
Enghraifft o'r canlynolG7 summit Edit this on Wikidata
Dechreuwyd13 Mehefin 2024 Edit this on Wikidata
Daeth i ben15 Mehefin 2024 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganUwchgynhadledd yr G7, 2023 Edit this on Wikidata
LleoliadFasano Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Eidal Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.g7italy.it/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae disgwyl i 50fed Uwchgynhadledd yr G7 gael ei chynnal o Ddydd Gwener 13 Mehefin i Ddydd Sul 15 Mehefin 2024 yn Fasano, yn rhanbarth Puglia, yr Eidal, y wlad sydd yn llywyddu'r fforwm y flwyddyn hon. Cyfarfu pennau llywodraethol y saith gwlad sydd yn aelodau'r G7: Giorgia Meloni, Prif Weinidog yr Eidal; Fumio Kishida, Prif Weinidog Japan; Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Joe Biden, Arlywydd Unol Daleithiau America; Olaf Scholz, Canghellor yr Almaen; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada. Yno hefyd byddai Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, y ddwy swydd a wahoddir fel rheol i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd yn yr uwchgynhadledd.

Gwahoddwyd hefyd arweinwyr o 12 gwlad arall—Abdelmadjid Tebboune, Arlywydd Algeria; Javier Milei, Arlywydd yr Ariannin; Luiz Inácio Lula da Silva, Arlywydd Brasil; William Ruto, Arlywydd Cenia; y Pab Ffransis, pennaeth ar Ddinas y Fatican; Narendra Modi, Prif Weinidog India; Abdullah II, brenin Gwlad Iorddonen; Mohamed Ould Ghazouani, Arlywydd Mawritania (i gynrychioli'r Undeb Affricanaidd); Kais Saied, Arlywydd Tiwnisia; Recep Tayyip Erdoğan, Arlywydd Twrci; Mohamed bin Zayed Al Nahyan, Arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig; a Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd Wcráin—a phump o benaethiaid sefydliadau rhyngwladol, sef António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig; Kristalina Georgieva, Rheolwraig-Cyfarwyddwraig y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF); Ajay Banga, Llywydd Banc y Byd; Mathias Cormann, Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD); a Akinwumi Adesina, Llywydd Banc Datblygu Affrica. Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf a fynychwyd gan y Prif Weinidogion Sunak a Meloni.

Ar agenda'r uwchgynhadledd mae deallusrwydd artiffisial, ymfudiad o Affrica i Ewrop, newid hinsawdd, a Tsieina.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Italy hosts the Group of Seven summit with global conflicts on the agenda", Associated Press (13 Mehefin 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Mehefin 2024.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]