Uwchgynhadledd yr G7, 2023

Oddi ar Wicipedia
Uwchgynhadledd yr G7, 2023
Arweinwyr gwledydd yr G7 a'r Undeb Ewropeaidd yng Nghysegrfan Itsukushima ar 19 Mai 2023. O'r chwith i'r dde: Michel, Meloni, Trudeau, Macron, Kishida, Biden, Scholz, Sunak, a von der Leyen.
Enghraifft o'r canlynolG7 summit Edit this on Wikidata
DyddiadMai 2023 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd19 Mai 2023 Edit this on Wikidata
Daeth i ben21 Mai 2023 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan48th G7 summit Edit this on Wikidata
Olynwyd gan50th G7 summit Edit this on Wikidata
LleoliadGrand Prince Hotel Hiroshima Edit this on Wikidata
GwladwriaethJapan Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.g7hiroshima.go.jp/, https://www.g7hiroshima.go.jp/en/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cynhaliwyd 49ain Uwchgynhadledd yr G7 o Ddydd Gwener 19 Mai i Ddydd Sul 21 Mai 2023 yn Hiroshima, yn Japan a oedd yn llywyddu'r fforwm y flwyddyn honno. Cyfarfu pennau llywodraethol y saith gwlad sydd yn aelodau'r G7: Fumio Kishida, Prif Weinidog Japan; Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; Joe Biden, Arlywydd Unol Daleithiau America; Olaf Scholz, Canghellor yr Almaen; Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc; Giorgia Meloni, Prif Weinidog yr Eidal; a Justin Trudeau, Prif Weinidog Canada. Yno hefyd bu Ursula von der Leyen, Arlywydd y Comisiwn Ewropeaidd, a Charles Michel, Arlywydd y Cyngor Ewropeaidd, y ddwy swydd a wahoddir fel rheol i gynrychioli'r Undeb Ewropeaidd yn yr uwchgynhadledd. Gwahoddwyd hefyd arweinwyr o naw gwlad arall—Narendra Modi, Prif Weinidog India; Joko Widodo, Arlywydd Indonesia; Luiz Inácio Lula da Silva, Arlywydd Brasil; Yoon Suk Yeol, Arlywydd De Corea; Anthony Albanese, Prif Weinidog Awstralia; Phạm Minh Chính, Prif Weinidog Fietnam; Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd Wcráin; Azali Assoumani, Arlywydd y Comoros (i gynrychioli'r Undeb Affricanaidd); a Mark Brown, Prif Weinidog Ynysoedd Cook (i gynrychioli Fforwm Ynysoedd y Cefnfor Tawel)[1][2]—a saith o benaethiaid sefydliadau rhyngwladol, sef António Guterres, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig; Kristalina Georgieva, Rheolwraig-Cyfarwyddwraig y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF); David Malpass, Llywydd Banc y Byd; Tedros Adhanom Ghebreyesus, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO); Ngozi Okonjo-Iweala, Cyfarwyddwraig Cyffredinol Sefydliad Masnach y Byd (WTO); Mathias Cormann, Ysgrifennydd Cyffredinol y Sefydliad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD); a Fatih Birol, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Asiantaeth Ynni Ryngwladol (IEA). Hon oedd yr uwchgynhadledd gyntaf a fynychwyd gan y Prif Weinidogion Sunak a Meloni.

Ar agenda'r uwchgynhadledd oedd newid hinsawdd, chwyddiant a diogelwch bwyd, Rhyfel Rwsia yn Wcráin, ac atal amlhau niwclear.[1][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "G7 Hiroshima Summit 2023: when is it, who will attend and what's on agenda?", Reuters (10 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Mai 2023.
  2. (Saesneg) Laura Bicker, "G7 summit: Why there are eight more seats at the table this year", BBC (18 Mai 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Mehefin 2023.
  3. (Saesneg) "Issues to be addressed at the G7 Hiroshima Summit", Uwchgynhadledd Hiroshima G7 2023. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Mai 2023.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]